Cyhoeddi cynlluniau i gynnal ei adolygiad cyntaf

Heddiw mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddefnyddio’i bwerau statudol i adolygu’r ddarpariaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen.

Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Plant 1989, a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu ‘llais’ proffesiynol annibynnol, sydd hefyd yn cael ei alw’n eiriolwr, i bob plentyn a pherson ifanc sy’n derbyn gofal, i bawb sy’n gadael gofal ac i bob plentyn mewn angen sydd eisiau cyfrannu ym mhenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Dylai eiriolwyr gael eu darparu hefyd os yw’r plentyn neu’r person ifanc am wneud cwyn.

Bydd Keith Towler, am y tro cyntaf fel Comisiynydd, yn defnyddio pwerau a swyddogaethau sy’n deillio o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 i adolygu trefniadau Gweinidogion Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru o ran gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol annibynnol. Bydd yn ceisio canfod a yw’r trefniadau’n effeithiol, ac i ba raddau, wrth ddiogelu a hybu hawliau a lles plant a phobl ifanc.

Sbardunwyd yr Adolygiad gan nifer o achosion a ddaeth i sylw’r Comisiynydd, lle nad oedd rhai gweithwyr proffesiynol mewn awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u rhwymedigaeth statudol i ddarparu eiriolwr ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yma. Mewn achosion eraill, roedd plant agored i niwed heb eiriolwr oherwydd eu bod nhw ddim yn ymwybodol o’u hawl statudol i dderbyn cymorth.

Yn ogystal ag adolygu trefniadau Gweinidogion Cymru a holl awdurdodau lleol Cymru o ran gwasanaeth eiriolaeth, bydd y Comisiynydd hefyd yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen ledled Cymru. Mae hefyd yn bwriadu cynnal ymarferiad rhychwantu sy’n edrych ar arfer ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ymgynghori ag amrywiaeth o gyrff sydd â chylch gorchwyl perthnasol i’r adolygiad.

Wrth nodi degfed pen-blwydd ei Swyddfa, meddai Keith Towler:

”Rwy’n pryderu’n fawr nad yw rhai plant a phobl ifanc yn y grwpiau hyn sydd mor agored i niwed yn cael mynediad at eiriolwr proffesiynol annibynnol. Gwaith yr eiriolwr yw cynorthwyo’r plentyn a’i helpu i ddeall beth sy’n cael ei drafod a’i gytuno. Elfen ganolog o’r rôl honno yw sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r sefyllfa yn gwrando ar farn y plentyn a/neu yn cyfleu’r farn honno ar ran y plentyn. Mae hyn yn arbennin o bwysig pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu bywydau. Ar hyn o bryd, yn achos rhai plant a phobl ifanc, mae penderfyniadau amdanyn nhw’n cael eu gwneud hebddyn nhw.

“Mae’n ymddangos mai diffyg ymwyyddiaeth o’u rhwymedigaeth statudol ymhlith gweithwyr proffesiynol yw un o’r rwystrau, ac felly mae rhai o’r plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn dal heb fod yn ymwybodol o’u hawl i gael eiriolwr proffesiynol annibynnol i gynrychioli eu barn, rhwyun y gallan nhw ymddiried ynddo/ynddi a rhywun fydd yn gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed.

“Rydw i am i’r adolygiad hwn amlygu’r prif faterion a rhoi cyfle i awdurdodau lleol ac eraill ddysgu gwersi, fel ein bod yn y pen draw yn gallu sicrhau nad yw’r grwpiau hyn o blant a phobl ifanc, sydd mor agored i niwed, ac y mae rhai o’u profiadau wedi cyfrannu at fy mhenderfyniad i gynnal adolygiad, byth heb wasanaeth proffesiynol annibynnol pan fo angen un arnyn nhw.”

Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi canfyddiadau ei adolygiad yn gynnar yn 2012.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad gyda Keith Towler neu lefarydd Cymraeg, cysylltwch â Sara Young ar 01792 765638, 07794 123132 neu ebsostiwch sara.young@childcomwales.org.uk