Lansiad y wefan

COMISIYNYDD PLANT CYMRU YN DADORCHUDDIO GWEFAN NEWYDD

Mi fydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn lansio ei wefan ar ei newydd wedd heddiw i ddathlu ei ben-blwydd cyntaf fel ‘pencampwr plant’ y wlad.

Fe fydd y wefan newydd (www.complantcymru.org.uk), i’w ddadorchuddio yn Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe, yn cynnwys gwasanaeth newydd fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i rannu eu barn a’u hopiniwn gyda swyddfa’r Comisiynydd.

Mi fydd plant a phobl ifanc yn cael dweud eu dweud am bethau sy’n bwysig iddyn nhw drwy Ateb nôl (www.complantcymru.org.uk/atebnol), gwybodaeth fydd y Comisiynydd wedyn yn rhannu gyda phobl o bwys i helpu gwella pethau i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys gêm ryngweithiol am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, y newyddion diweddaraf o swyddfa’r Comisiynydd, gan gynnwys holl gyhoeddiadau’r swyddfa, yn ogystal â blog y Comisiynydd.

Dyluniwyd y wefan gan Imaginet, cwmni o Gaerdydd sydd wedi ennill llu o wobrau, gyda chymorth oddi wrth gannoedd o blant a phobl ifanc ar draws Cymru ac fel y soniodd Keith Towler cyn y lansiad:

“Fy mwriad oedd creu gwefan ryngweithiol, sy’n hawdd i’w ddefnyddio ac yn ardal ddiogel i ddefnyddwyr. Mae’r wefan yn gartref i lu o wybodaeth amdana i fel Comisiynydd, am hawliau plant ac am y datblygiadau a’r newyddion diweddaraf o’m swyddfa – adnoddau rwy’n gobeithio bydd yn apelio i bobl o bob oedran.

“Ro’ ni hefyd yn awyddus i rannu gwybodaeth gyda phobl ifanc lle byddent yn ei weld a’u cyrraedd mewn modd dynamig a diogel. Mi fydd pobl ifanc nawr yn medru cyfathrebu gyda ni drwy Bebo, lle bydd cyfle iddynt gwblhau Ateb nôl ar liwt eu hunain ac annog eu ffrindiau i wneud yr un peth.

“Ni fydd y wefan hon yn un statig; mi fydd yn wefan fydd yn esblygu a byddwn yn ychwanegu nodweddion a gwelliannau ar hyd y flwyddyn. Logiwch i mewn i weld eich hun.”

Fe welwch chi’r wefan newydd ar www.complantcymru.org.uk