Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Gall dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant helpu i gyflawni gwell canlyniadau i blant a’u teuluoedd, yn ogystal â darparu fframwaith cefnogol a chydlynus i ymarferwyr mewn maes gwaith sy’n gallu bod yn heriol.

Mae fframwaith dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn helpu sefydliadau i ystyried beth maen nhw eisoes yn ei wneud i gefnogi a hybu hawliau plant, a hefyd i nodi bylchau a meysydd i’w datblygu.

Canllaw Y Ffordd Gywir: Gofal Cymdeithasol

Mae gwreiddio hawliau plant yn golygu mynd ati’n fwriadol ac yn systematig i ddefnyddio hawliau plant yn yr iaith mae sefydliad yn defnyddio, gan sicrhau bod staff yn deall hawliau plant trwy hyfforddiant a datblygiad, ac integreiddio meddwl am hawliau wrth ddatblygu gwasanaeth.

Mae gwreiddio hawliau fel hyn yn golygu bod y staff yn deall eu bod yn ddeiliaid dyletswydd; mewn geiriau eraill bod dyletswydd broffesiynol arnyn nhw i gynnal a hybu hawliau plant. Mae hefyd yn golygu bod plant a theuluoedd yn clywed y neges glir eu bod yn derbyn gwasanaethau mae arnyn nhw eu hangen oherwydd bod ganddyn nhw hawl i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial. Mae hyn yn osgoi dull gweithredu diffygiol ac yn cyfleu neges bwysig i blant ynghylch eu gwerth cynhenid, beth bynnag mae bywyd wedi’i daflu atyn nhw.

Gallwch wreiddio hawliau yn eich gwasanaeth trwy:

  • Sicrhau bod pob polisi a dogfen fewnol wedi’u seilio ar CCUHP ac yn cyfeirio’n benodol at hynny. Dylai’r cyfeiriad at hawliau fod yn benodol ac ymgorffori safonau megis y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Pobl Ifanc.
  • Sicrhau bod staff, uwch-arweinyddion a’r cyngor yn ymwybodol o hawliau plant a sut mae eu cynnal mewn ymarfer pob dydd, rolau unigol a chyflwyno’r gwasanaeth.

Rhai ffyrdd ymarferol o wreiddio hawliau plant mewn ymarfer pob dydd:

  • Defnyddio iaith hawliau yn eu hymarfer pob dydd gyda phlant a’u teuluoedd. Er enghraifft, ‘Mae gennych chi hawl i gael gwrandawiad a chael eich cymryd o ddifri. Dyna pam rwy am i ni gwrdd a chlywed mwy am…..’
  • Defnyddio iaith hawliau i eiriol ar ran y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, ‘Mae ganddi hawl i’r gefnogaeth mae arni ei hangen i ymadfer wedi’r camdriniaeth brofodd hi (erthygl 39, CCUHP), felly mae achos cryf dros ddarparu’r gefnogaeth seicolegol hon.’
  • Annog ystyriaeth i hawliau plant mewn trafodaethau tîm a sesiynau goruchwylio.

Dysgwch mwy am sut mae CBS Wrecsam wedi ymgorffori hawliau yn eu gwasanaeth:

Darllenwch Astudiaeth Achos Wrecsam yma

Astudiaeth Achos – Cyngor Castell-nedd Port Talbot 

Gwreiddio hawliau plant mewn gofal cymdeithasol:

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn credu’n angerddol mewn cynnal hawliau plant a phobl ifanc, ac mae eu cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant, gyda chefnogaeth Uned Hawliau Plant Castell-nedd  Port Talbot, wedi datblygu rôl i ‘Hyrwyddwyr Hawliau Plant’ yn ddiweddar. Gwahoddir hyrwyddwyr i fynychu gweithdy hyfforddi ymarferol lle maen nhw’n dysgu am CCUHP a phum egwyddor Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant. Yna caiff yr wybodaeth honno ei chymhwyso i greu cynllun gweithredu sy’n rhoi cyfle i hyrwyddwyr berchnogi sut mae gwreiddio hawliau plant yn eu harferion pob dydd presennol, a chaiff syniadau ar gyfer datblygu gwasanaeth eu hystyried. Mae hawliau plant yn gyfrifoldeb i bawb, a thrwy recriwtio hyrwyddwyr gwirfoddol a datblygu cynllun gweithredu, mae’r awdurdod lleol yn ymroddedig i wreiddio hawliau plant yn ymarferol.

Astudiaeth Achos – Ysgol Heronsbridge

Mae Heronsbridge yn Ysgol Arbennig Gynradd ac Uwchradd. Maen nhw’n darparu ar gyfer ystod eang o Anghenion Dysgu, gan gynnwys adran i ddisgyblion ar y Continwwm Awtistiaeth, ac mae ganddyn nhw ddau dŷ preswyl ar diroedd yr ysgol, er bod mwyafrif y disgyblion yn mynychu’n ddyddiol. Mae Heronsbridge wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan o wreiddio hawliau ar draws yr ysgol. Mae’r holl staff wedi cael eu hyfforddi ac mae corff llywodraethu’r ysgol yn ymwybodol o CCUHP a sut gallan nhw gefnogi holl gymuned yr ysgol i wreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.

Mae CCUHP wedi’i wreiddio ym mholisïau’r ysgol ac yn cael ei ddefnyddio bob dydd mewn gwasanaethau, gwersi a gweithgareddau gyda disgyblion – gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau ac yn gallu cael mynediad iddynt. Mae’r ysgol yn cydnabod yr effaith mae gwreiddio hawliau wedi’i chael. Trwy hybu gwerthoedd parch, urddas a pheidio â chamwahaniaethu, mae plant yn cael hwb i’w hunanbarch a’u llesiant, gan eu bod yn ymwybodol o’u llais a’u bod yn cael gwrandawiad, neu y bydd oedolion yn gweithio er eu lles pennaf. Mae plant yn teimlo’n ddiogel mewn amgylchedd o’r fath. Mae’r Dyfarniad Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn rhoi iaith bwerus i blant ei defnyddio i’w mynegi eu hunain ac i leisio barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r staff yn gweithredu fel Deiliaid Dyletswydd, ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael lle blaenllaw yn yr holl benderfyniadau a wneir. Mae gan y plant well perthynas gyda’u hathrawon a’u cyfoedion, ar sail parch o’r ddeutu a gwerth barn pawb. Mewn ysgol sy’n Parchu Hawliau, mae’r plant yn cael eu trin yn gyfartal gan eu cyd-ddisgyblion a’r oedolion sydd yn yr ysgol. Mae’r plant yn dod yn weithredol ac yn chwarae rhan ym mywyd yr ysgol a’r byd ehangach, ac mae hynny’n meithrin eu hyder i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae ganddyn nhw fframwaith moesol, wedi’i seilio ar gydraddoldeb a pharch at bawb, sy’n para oes wrth iddyn nhw dyfu’n aelodau cysylltiedig, cyfrifol o’r gymdeithas.

Ystyr cydraddoldeb yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i wneud yn fawr o’u galluoedd. Mae’n golygu sicrhau bod plant yn gallu datblygu hyd eithaf eu potensial, ac nad oes rhaid i unrhyw blentyn oddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd camwahaniaethu. Diben llawer o’r gwaith mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud i blant yw helpu i greu sefyllfa fwy gwastad ar gyfer plant sy’n profi anfantais. Dylid llunio gwasanaethau gan roi anghenion cefnogi plant yn y canol. Fodd bynnag, ni fydd pob plentyn yn cyrchu’r gefnogaeth honno yn yr un modd, a bydd rhai yn profi rhwystrau ychwanegol oherwydd tlodi, rhagfarn hiliol, anabledd a mathau eraill o anghydraddoldeb a ffactorau sy’n eu gwthio i’r cyrion.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu ar waith

  • Cynnwys ymrwymiad clir i hybu cydraddoldeb a mynd i’r afael â chamwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn erbyn grwpiau penodol o blant ym mhob polisi pwysig, a rhannu hynny yn neges glir a chyson ar draws y gwasanaeth.
  • Cynnal Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant, sy’n ymgorfforoi dadansoddiad o faterion cydraddoldeb, er mwyn ystyried sut gall penderfyniadau ar lefel gwasanaeth effeithio ar wahanol grwpiau o blant a pha gamau fydd yn angenrheidiol i liniaru hynny.
  • Darparu lle i ymarferwyr ddeall a thrafod heriau cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu. Er enghraifft, gall hyn fod ar ffurf cyfleoedd i adfyfyrio er mwyn trafod tueddiadau gwybyddol a defnydd o iaith ormesol. Darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant er mwyn helpu staff i ddeall anghenion grwpiau penodol yn well.

Dysgu mwy am sut mae JIGSO yn cymhwyso egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu:

Tîm o fydwragedd, nyrsys meithrin (iechyd), hwyluswyr teulu a gweithwyr datblygu iaith cynnar (Awdurdod Lleol) yw Jigso. Mae’r prosiect partneriaeth hwn wedi cael ei ddatblygu i gefnogi rhieni ifanc, y mae llawer ohonynt yn 18 oed neu’n iau, gyda’u teithiau rhianta. Mae rhieni ifanc yn aml yn teimlo eu bod yn wynebu camwahaniaethu oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau ynghylch eu cefndir, eu hymddygiad a’u gallu.

Fe wnaethon ni gwrdd â rhieni oedd yn derbyn cefnogaeth gan JigSo. Fe rannon nhw sut roedd y prosiect wedi eu grymuso trwy eu cefnogaeth bersonol, er enghraifft helpu i eiriol dros y rhieni a’r plentyn pan oedd angen a rhoi amser ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer magu plant. Mae’r prosiect hwn ar y cyd yn enghraifft gadarnhaol o sut gall gwasanaethau gydweithio i rymuso rhieni ifanc trwy gefnogaeth a dargedwyd. Mae hefyd yn dangos sut mae gwasanaethau wedi gweithio i hybu cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu trwy gefnogi teuluoedd i gyflawni eu potensial.

Cliciwch ar y linc yma i ddysgu mwy am Jig-so

Mae dyletswydd ar y rhai sy’n gweithio gyda phlant mewn cyd-destun gofal cymdeithasol i helpu i sicrhau bod plant yn gwybod bod hawliau ganddyn nhw, bod ganddyn nhw gyfleoedd gwirioneddol i fanteisio arnyn nhw, a’u bod yn teimlo bod eu hawliau yn eu grymuso. Mae hynny’n digwydd mewn llawer o ffurfiau gwahanol i blant; o ddefnyddio iaith hawliau gyda phlant i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu gweld eu hawliau’n cael eu hadlewyrchu yn eu rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol a’r gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn, i ddiogelu eu hawliau pan fyddan nhw’n wynebu rhwystrau i’w derbyn. Mae’r elfen hon o ddull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn ymwneud â gwireddu hawliau i blant.

Efallai na fydd plant sy’n derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso os byddan nhw’n credu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud amdanyn nhw, yn hytrach na gyda nhw. Roedd hyn yn eglur o’r sgyrsiau gawson ni gyda phlant – roedden nhw eisiau gwybod pam roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud a chael eu cynnwys yn llawn yn y penderfyniadau. Dywedodd plant wrthyn ni ar brydiau, byddan nhw ddim bob amser yn cael y canlyniad roedden nhw eisiau, ond eu bod nhw eisiau gwybod sut roedd y penderfyniad yna wedi cael ei wneud.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor grymuso ar waith

  • Darparu gwybodaeth hygyrch ac addysg i blant er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o’u hawliau dynol. Mae llawer o adnoddau ar gael i gefnogi hyn:

Tudalen Adnoddau CPC

  • Darparu cyfleoedd i blant a’r sgiliau i ymgysylltu â gwasanaethau a dylanwadu ar eu polisïau a’u prosesau. Cynnig hyfforddiant a gwybodaeth sy’n hygyrch i blant a sefydlu canllawiau clir ar gyfer sut bydd plant yn dylanwadu ar benderfyniadau.
  • Sicrhau bod data a gasglwyd am blant ar gael iddyn nhw mewn ffordd briodol, er mwyn iddyn nhw fedru rhannu’r penderfyniadau am flaenoriaethau a strategaethau’r gwasanaethau.
  • Darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc weithredu ar y cyd i ddatblygu syniadau a chynigion, i weithredu ac i ddylanwadu ar benderfyniadau.

CCNPT yn ymgorffori hawliau plant mewn gofal cymdeithasol:

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn angerddol/frwdfrydig am gynnal hawliau plant a phobl ifanc, ac mae eu cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant, gyda chefnogaeth Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot, wedi datblygu rol ‘Pencampwyr Hawliau Plant’ yn ddiweddar. Gwahoddir y Pencampwyr i fynychu gweithdy hyfforddi ymarferol lle maen nhw’n dysgu am y CCUHP a phump egwyddor Dull Hawliau Plant. Yna cymhwysir y wybodaeth hon at greu cynllun gweithredu sy’n rhoi cyfle i bencampwyr berchnogi sut y gallant ymgorffori hawliau plant yn eu harferion cyfredol bob dydd, ac ystyried syniadau ar gyfer datblygu gwasanaeth. Cyfrifoldeb pawb yw Hawliau Plant, trwy recriwtio pencampwyr gwirfoddol a datblygu cynllun gweithredu, mae’r awdurdod lleol wedi ymrwymo i ymgorffori hawliau plant yn ymarferol.

Dysgu mwy am sut mae TGP Safe Stars wedi grymuso plant:

Mae Tros Gynnal Plant (TGP) yn cefnogi ystod o waith yng Nghymru, mae Sêr Diogel yn cefnogi pobl ifanc sydd angen cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol i gael mynediad at eu hawliau. Gallwch ddod o hyd i enghraifft o rai o’r pethau maen nhw wedi’u creu i gefnogi hawliau pobl ifanc ar y dudalen yma.

Mae Sêr Diogel wedi gweithio gyda phobl ifanc yn ystod y pandemig i’w cefnogi i gynhyrchu adnoddau sy’n helpu nhw grymuso a darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc eraill, dyma rai enghreifftiau.

Erthygl 12 – Yr hawl i gael gwrandawiad ac i gael dy gymryd o ddifrif

Gweithiodd Sêr Diogel gyda phobl ifanc i wneud ffilm am Eiriolaeth gweler yma:

Oes unrhywun yn gwrando?

Erthygl 19 – Yr hawl i gael eich cadw’n ddiogel

Maen nhw hefyd wedi creu fideo Rapio am Ddiogelu:

Fideo Rapio Diogelu

Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith yma:

Ewch i dudalen TGP Cymru

Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Ymgynghoriad ar Wyliau Byr gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn credu’n angerddol mewn cynnal hawliau plant a phobl ifanc.

Roedd eu cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant, ynghyd â chefnogaeth Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot, yn awyddus i gasglu barn a phrofiadau plant a phobl ifanc ag anabledd a fu’n defnyddio’r gwasanaeth gwyliau byr yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Os hoffech chi i wybod mwy am yr Astudiaeth Achos hon cliciwch ar y ddolen isod:

Astudiaeth Achos CCNPT – Ymgynghoriad ar Wyliau Byr gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau

Ystyr cyfranogiad yw gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i’w barn. Dylai pob plentyn gael eu cefnogi i fynegi barn yn rhydd; dylen nhw gael eu clywed a’u gwrando. Dylid cymryd eu barn o ddifri pan wneir penderfyniadau neu pan gymerir camau sy’n effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar eu bywydau (fel mae Erthygl 12 o CCUHP yn gwarantu).

Gall cyfranogiad ddigwydd mewn gwahanol ffurfiau, sy’n briodol ar gyfer gwahanol amgylchiadau. Dylai plant gael eu cefnogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n cyfrannu at eu bywydau, yn dylanwadu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio a’r cymunedau lle maen nhw’n byw. Dylid annog plant i rannu eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn agored, a derbyn gwybodaeth a chefnogaeth priodol ar sut i gyflawni hyn.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor cyfranogiad ar waith

  • Cydnabod bod gwahanol lefelau o gyfranogiad, sy’n berthnasol i wahanol amgylchiadau. Gall model cyfranogiad helpu i egluro lefel y berchnogaeth bydd pobl ifanc yn ei phrofi ym mhob proses. Bydd strategaeth gyfranogiad a gefnogir gan asesiad effaith cadarn ar hawliau plant (link) yn helpu i arwain y gwasanaeth wrth wreiddio’r egwyddor hon.
  • Cynnwys ymrwymiad clir i gyfranogiad plant ym mhob polisi, cynnig a datblygiad gwasanaeth arwyddocaol.
  • Darparu llwyfan i adlewyrchu lleisiau plant ym mhob maes ymarfer sy’n effeithio ar fywyd y plentyn. Gall hyn gynnwys paneli datblygu a fforymau. Rhannwyd enghreifftiau lle roedd ymwneud yn amlwg mewn ystod o feysydd, gan gynnwys recriwtio a datblygu polisi (links).
  • Trwy ddefnyddio templedi a ffurflenni, er enghraifft ar gyfer cyfarfodydd ac adolygiadau statudol, sicrhau bod plant yn derbyn gwybodaeth am sut mae modd eu cynnwys yn natblygiad eu cynllun a’u hasesiadau eu hunain. Sicrhau bod hyn yn rhan annatod o’r broses a monitro’r nifer sy’n ei defnyddio. Sicrhau bod plant yn manteisio arni’n ystyrlon mewn modd oed-briodol.
  • Darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael gwrandawiad. Gall offer ac ymarferion helpu i strwythuro hyn, ond gall hynny fod yn wir hefyd am dreulio amser yn gwneud gweithgaredd gyda phlentyn neu berson ifanc, neu’n syml fynd am dro gyda’ch gilydd.
  • Os yw plentyn neu berson ifanc yn cael trafferth mynegi barn fel rhan o’ch asesiad neu gyswllt rheolaidd â nhw, gofynnwch iddyn nhw sut bydden nhw’n hoffi cael eu clywed. Efallai byddai’n well gan rai ohonyn nhw ysgrifennu eu barn i lawr neu greu cofnod fideo/sain ohonyn nhw, efallai gyda help gofalwr maeth, rhiant neu athro. Cofiwch gynnig eiriolydd hefyd.

Yovo a Lleisiau Bach/Little Voices

Mae YoVo, Cyngor Ieuenctid plant mewn gofal Castell-nedd Port Talbot yn grwp o bobl ifanc sy’n cwrdd i wella bywydau plant a phobl ifanc mewn gofal. Gyda chefnogaeth oedolion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac Uned Hawliau Plant, gweithiodd Yovo gyda gyda phrosiect Lleisiau Bach / Little Voice ym Mhrifysgol Abertawe i ddysgu am eu hawliau a’u materion yr oeddent am weithio arnynt.

Fel grwp o bobl ifanc a phrofiad gofal, gwnaethant dynnu sylw at bwysigrwydd cael gwybodaeth am leoliadau maeth. Mae nhw am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn sy’n mynd i ofal maeth yn derbyn llyfryn sy’n llawn gwybodaeth a lluniau o’u cartref newydd, gofalwyr maeth a gwybodaeth arall, a bydd hyn yn helpu plant a phobl ifanc yn ystod cyfnod anodd i fod yn ymwybodol o’u hawliau.

Gweler sut y gwnaethaent yma

Buom yn gweithio gydag oedolion i wneud i hyn ddigwydd a chreu’r llyfryn hwn a dywedwyd wrthym bydd y llyfrynnau Gwybodaeth hyn yn cael eu cwblhau gan yr holl ofalwyr maeth a’u rhoi i blant a phobl ifanc.

Gweler y llyfryn yma

Astudiaeth Achos Mess up the Mess

Prosiect Gofal Profiadol Abertawe – Ail-feithrin yn y Gegin:

Cefnogodd y prosiect hwn bobl ifanc i gael mynediad at ystod o hawliau mewn ffordd hwyliog a hygyrch, gan gynnwys –

  • Erthygl 12 – Yr hawl i gael gwrandawiad

  • Erthygl 28/29 – Yr hawl i gael addysg ac i fod y gorau gallwch fod

  • Erthygl 15 – Yr hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau

  • Erthygl 31 – Yr hawl i ymlacio a chwarae

Crëwyd y pecynnau hyn ar y cyd â’r anhygoel blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o’r system ofal yn Abertawe, Tîm Gwasanaethau Plant Abertawe a Chwmni Theatr Mess Up The Mess, fel rhan o’r prosiect Well Iawn a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Roeddem yng nghanol cyfyngiadau symud Covid19 pan gafodd Mess Up The Mess y pleser o gwrdd â’r grŵp anhygoel o bobl ifanc sydd yn y system ofal. Gwnaethom hyn dros gyfarfodydd Zoom – ffordd wahanol iawn o weithio – ond fe gawson ni lawer iawn o hwyl.

Holwyd y bobl ifanc beth sy’n effeithio ar eu llesiant nhw ac eraill. Dywedon nhw eu bod yn gweld eisiau cysylltiad a sut y mae mor bwysig ein bod ni’n dechrau ffurfio mwy o gysylltiadau gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu yn y dyfodol. Dywedon nhw hefyd fod eisiau rhywbeth yn ymwneud â bwyd!!! Dyma sut ddaeth y pecyn i fodolaeth. Buon ni’n gweithio gyda thîm talentog o artistiaid, a chynllunwyr cacennau, er mwyn gwireddu gweledigaeth y bobl ifanc. Mae’r bobl ifanc wedi bod  yn hanfodol wrth gynllunio’r pecyn hwn, o’r dechrau i’r diwedd.

Dyma gyfres o becynnau gweithgaredd ar eich cyfer chi, eich ffrindiau neu’ch cydweithwyr, er mwyn i chi gael hwyl, pobi gyda’ch gilydd, chwarae gyda’ch gilydd, chwerthin a ffurfio cysylltiadau. Gallai hynny fod wyneb yn wyneb neu trwy dechnoleg. Mae yna rysáit blasus, gweithgareddau difyr ac addurniadau hardd y gallwch eu gwneud gartref; fel bod eich amser gyda’ch gilydd yn teimlo’n sbesial iawn.

Llawrlwythwch y pecynnau yma:

Ewch i dudalen Messupthemess

Bydd gan bob aelod o staff sy’n gweithio i gefnogi plant mewn cyd-destun gofal cymdeithasol gyfrifoldebau, a byddan nhw’n gwneud penderfyniadau ac yn cymryd camau sy’n effeithio ar blant. Mae’r rhain yn ddyletswyddau statudol i rieni corfforaethol, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau er lles pennaf y plentyn. Heb linellau atebolrwydd clir a darparu gwybodaeth ddigonol i blant ynghylch pam mae’r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud, gall rhai plant a’u teuluoedd gael eu gadael yn teimlo fel petaent wedi’u dadrymuso.

Dylai plant dderbyn gwybodaeth a chael mynediad i weithdrefnau sy’n eu galluogi i gwestiynu a herio penderfyniadau a wnaed, os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny. Er mwyn i hynny fod yn effeithiol, mae angen i wasanaethau fod yn dryloyw a darparu rhesymau am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd. Lle bynnag y bo modd, dylid cysylltu’r rhain â hawliau plant. I dderbyn unrhyw hawl, mae’n rhaid i blentyn wybod am eu gallu i’w hawlio, a medru mynd ati’n rhagweithiol i wneud hynny, gan gynnwys pan fyddan nhw’n gwneud cwyn neu’n herio penderfyniadau a gweithredoedd. Ystyr atebolrwydd yw galw llunwyr penderfyniadau i gyfri, sy’n galw am wybodaeth a data ynghylch perfformiad yn erbyn safonau hawliau plant.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor atebolrwydd ar waith

  • Darparu cyfleoedd i blant graffu ar uwch-reolwyr a hefyd, mewn awdurdodau lleol, ar aelodau cabinet.
  • Sicrhau bod llinellau atebolrwydd clir yn eu lle o ran gwneud penderfyniadau. Sicrhau bod modd cyfleu hyn i blant os bydd angen.
  • Datblygu dolenni adborth da gyda phlant a gwneud y rheiny’n rhan o ddisgwyliadau ar draws y gwasanaeth. Dylai plant ddeall pa benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud mewn perthynas â’u cefnogaeth a’u gofal a sut mae eu barn wedi cael ei chymryd i ystyriaeth. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol pan fydd plant a phobl ifanc wedi ymwneud â datblygu gwasanaethau fel grŵp.
  • Rhoi gwybod i blant a phobl ifanc yn rheolaidd beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n aros am benderfyniadau, hyd yn oed os does dim newyddion pendant eto. Mae cynnig galwad fideo neu alwad ffôn yn bwysig os bydd rhaid i chi ganslo ymweliad neu gyfarfod.
  • Rhoi gwybod i blant a phobl ifanc sut mae eu barn a’u dewisiadau wedi cael eu cymryd i ystyriaeth.
  • Cymryd cwynion plant o ddifri. Ymatebwch iddyn nhw orau gallwch chi, ac os byddan nhw’n dal yn anfodlon, trefnwch eu bod nhw’n siarad â’ch rheolwr (neu beth bynnag yw cam nesaf eich proses gwynion).

Dysgwch am sut mae Wrecsam yn cymhwyso’r egwyddor atebolrwydd:

Darllenwch Astudiaeth Achos Wrecsam yma

Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i dystio sut maen nhw wedi ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau. Er nad oes rhaid i bob sefydliad cyhoeddus cwblhau CRIA, maent yn adnodd defnyddiol wrth ystyried effaith penderfyniadau a sut gallent newid hwy i sicrhau’r effaith fwyaf bositif ar blant a phobl ifanc. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gofyn i ni am ddogfen templed CRIA fedran nhw ddefnyddio, ac rydym wedi ymateb i’r galw wrth greu’r ddogfen hon sydd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sefydliad.

Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro er mwyn i chi ystyried y pum egwyddor o’n Dull Hawliau Plant ac rydyn ni wedi gadael lle i chi nodi eich sylwadau ond does dim angen ei chwblhau yn llawn.

LAWRLWYTHWCH EIN HADNODD CRIA

Adnodd Hunan-Asesu Syml

Mae’r adnodd hunan-asesu hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i wellau’r modd maent yn gweithio dros blant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • cysylltu eich cynllun strategol i hawliau plant
  • darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc mewn iaith hygyrch
  • rhoi’r cyfle i blant dylanwadu ar benderfyniadau eich sefydliad
  • bod yn atebol i blant a phobl ifanc

DEFNYDDIWCH EIN HADNODD HUNAN-ASESU 

Cynghorion Brig gan Pobl Ifanc

Buon ni’n gweithio gyda llawer o grwpiau o fobl ifanc ledled Cymru yn gofyn am eu safbwyntiau er mwyn ein helpu ni i greu Y Ffordd Gywir – Gofal Cymdeithasol. Dyma rai o’r cynghorion syml roedden nhw am eu rhannu:

Poster – Cynghorion Brig gan Pobl Ifanc

Cytundeb Plentyn a Gwaith Cymdeithasol

Mae’r cynllun sesiwn yma’n darparu enghraifft o sut mae modd datblygu cytundeb rhwng plentyn a’u gweithiwr.

Os hoffech chi ddarllen mwy am ein cytundeb ar sail hawliau, cliciwch ar y linc isod:

Cytuneb Plentyn a Gwaith Cymdeithasol

Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer plant – Comisiynydd Ifanc

Mae Consortiwm Comisiynu Cymru wedi creu ystod o adnoddau i gynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn iddynt gael mynediad i’w hawliau gan gynnwys:

‘Fi yw Fi’ a chanllawiau ategol – Templedi i weithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol i’w ddefnyddio er mwyn cofnodi gwybodaeth y gellir eu rhannu amdanynt ac sy’n “Bopeth amdanyn nhw”, mae’r rhain yn cefnogi –

Erthygl 12 – Yr hawl i gael gwrandawiad ac Erthygl 17- Yr hawl i wybodaeth

Canllaw Fi yw Fi

CA1 Fi yw Fi

CA2 Fi yw Fi

CA3 Fi yw Fi

Datganiad manyleb PLANT – yn cynnwys dyfyniadau am yr hyn sydd ei angen ar blant o gartref da. Mae’r datganiad hyn yn cefnogi –

Erthygl 20 – yr hawl i dderbyn gofal ac Erthygl 12 – yr hawl i gael gwrandawiad

Datganiad Manyleb Plant sydd wedi’i gynnwys, ac ar flaen pob Fframwaith Preswyl Cymru 2019 a chontractau Fframwaith Maeth Cymru 2021. Mae hyn yn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei flaenoriaethu wrth gomisiynu lleoliadau maeth a phreswyl ar gyfer plant sydd â’r sector annibynnol yng Nghymru.

Poster – Datganiad Manyleb Plant a Phobl Ifanc

Datganiad ar gyfer recriwtio gofalwyr – dyfyniadau am yr hyn y mae plant eisiau i ddarpar ofalwyr ei wneud pan na allant fyw gartref. Mae’r datganiad hyn yn cefnogi –

Erthygl 21 – Os na allwch chi fyw gyda’ch rhieni, mae gennych chi’r hawl i fyw yn y lle gorau i chi

Mae’r poster hwn wedi’i rannu’n eang ac mae wedi’i arddangos mewn llawer o gartrefi gofal ac o fewn adeiladau darparwyr maeth ledled Cymru. Hefyd mae ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Poster – Datganiad Comisiynwyr Ifainc ar gyfer recriwtio cynhalwyr