Gwrando
Gwaith Rocio yw i amddiffyn pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, beth bynnag yw eu gwahaniaethau. Mae Rocio yn gwrando ar blant i ddarganfod beth sydd angen arnyn nhw, eu gofidion, a sut maen nhw'n teimlo am wahanol bethau.
Codi llais
Mae Rocio yn siarad am y pethau sydd eu hangen ar blant. Mae hyn yn golygu ar ôl gwrando ar blant, mae hi'n rhannu'r hyn y mae'n ei glywed gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau am fywydau plant.
Helpu
Gwaith Rocio yw sicrhau bod plant yn gwybod beth yw eu hawliau a sut y dylent gael eu trin. Os yw plant neu'r oedolion sy'n gofalu amdanynt yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu trin yn deg yna mae ganddi dîm o bobl sy'n gallu helpu a rhoi cyngor.
Herio
Os nad yw plant yn cael eu hawliau, bydd Rocio yn herio pobl sy'n gwneud penderfyniadau am fywydau plant i wneud newid a dweud wrthyn nhw beth ddylen nhw ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn well i blant.
Cyngor
Gofyn am gyngor os wyt ti'n meddwl dy fod wedi cael dy drin yn annheg
Dysgwch fwy About Cyngor