Rydyn ni’n recriwtio! Dau Aelod newydd Annibynnol (anweithredol) i eistedd ar Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiynydd Plant
Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE yw deilydd y swydd statudol, annibynnol sy’n diogelu ac yn hybu hawliau plant yng Nghymru. Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais ar eu rhan fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, ac rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.
Bydden ni wrth ein bodd yn cael hyd i aelodau ar gyfer ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sy’n teimlo mor angerddol â ni ynghylch cyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru a’u galluogi i gael mynediad i’w hawliau.
Rydyn ni’n chwilio am ddau aelod newydd annibynnol i eistedd ar ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg er mwyn craffu, herio, a rhoi cyngor annibynnol i’r comisiynydd plant ynghylch sut mae ei swyddfa’n cael ei llywodraethu, sut mae’n rheoli risg, a pha mor effeithiol ac effeithlon yw defnydd y tîm o arian cyhoeddus.
Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl â sgiliau a phrofiad ym maes llywodraethiant, rheoli risg a/neu gyllid, a hynny o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Byddai profiad o adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd yng nghyswllt llywodraethu a rheoli risg yn arbennig o berthnasol. Rydyn ni’n chwilio am angerdd a diddordeb mewn hawliau plant o ran eu perthnasedd i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Penodiad am gyfnod o dair blynedd yw hwn, a gwahoddir yr aelodau i gychwyn yn eu swydd ym mis Gorffennaf 2026. Disgwylir ymrwymiad amser o 6 diwrnod y flwyddyn i’r rôl hon, gyda 4 cyfarfod y flwyddyn y mae disgwyl i chi eu mynychu. Bydd y rhain yn gyfuniad o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a hybrid. Ni roddir tâl am y rôl, ond telir am yr holl gostau teithio a chynhaliaeth. Ceir manylion pellach yn y disgrifiad o’r rôl.
I wneud cais am y cyfle hwn, cyflwynwch CV a datganiad cefnogi (heb fod yn hwy na 500 gair) i recriwtio@complantcymru.org.uk, yn nodi eich addasrwydd ar gyfer y rôl a beth fyddai gennych i’w gyfrannu petaech chi’n llwyddiannus, gan roi manylion unrhyw wybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol sydd gennych.
Cyflwynwch eich cais erbyn Dydd Gwener 13eg Chwefror, os gwelwch yn dda.
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – Proffil Rôl
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau tîm sy’n cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac felly rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion â nodweddion gwarchodedig sydd wedi’u tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd.