Trafnidiaeth Cyhoeddus – Tachwedd 2025
Cyflwyniad

Yn ystod mis Tachwedd gofynnon ni i blant a phobl ifanc am drafnidiaeth cyhoeddus.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 608 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol, a 604 fel rhan o grwp. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 18 awdurdod lleol.
Cwestiynau i bawb
Pa mor aml wyt ti’n defnyddio bws neu drên? (rydyn ni eisiau gwybod am fysiau mae pawb yn gallu defnyddio – nid rhai ysgol). Gall hyn bod ar ben dy hyn neu gyda dy ffrindiau neu deulu.
Ddim yn aml (224) – 39%
Byth (142) – 25%
Weithiau (133) – 23%
Yn aml (43) – 8%
Pob diwrnod (29) – 5%
Pam nad wyt ti’n defnyddio trenau neu fysiau?
Mae fy rhieni/teulu yn cymryd fi yn y car (102) – 73%
Dwi ddim yn hoffi defnyddio’r bws/trên (24) – 17%
Cymryd rhy hir (15) – 11%
Rheswm arall (15) – 11%
Rhy ddrud (8) – 6%
Dim digon o fysiau neu drenau yn fy ardal i (6) – 4%
Dydy bysiau/trenau ddim yn ddigon dibynadwy (reliable) (4) – 3%
Dywedwch fwy
Roedd yr atebion yn cyfeirio’n bennaf at:
- gwell ganddynt gerdded er mwyn eu hiechyd
- trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyfforddus e.e. gormod o fobl
- dim angen trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod pethau o fewn pellter cerdded
Pa un ydych chi’n eu ddefnyddio fwyaf?
Bws (175) – 41%
Trên (166) – 39%
Yr un peth (85) – 20%
Beth wyt ti’n meddwl am gost y bysiau a’r trenau yn dy ardal di?
Roedd yr atebion yn cyfeirio’n bennaf at:
- rhy ddrud, dylai’r gost fod yn rhatach i blant
- barn gymysg e.e. mae rhai’n meddwl bod y gost yn deg ac mae eraill yn meddwl bod y gost yn ddrud
- ddim yn poeni am y gost oherwydd dydyn nhw ddim yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd
Pa mor ddibynadwy (reliable) yw’r trafnidiaeth cyhoeddus yn dy ardal di?
Roedd yr atebion yn cyfeirio’n bennaf at:
- barn gymysg e.e. mae rhai’n dweud ei fod yn ddibynadwy ac yn brydlon tra bod eraill wedi cael profiad o oediadau hir
- ddim yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd eu bod yn defnyddio ceir neu’n byw’n ddigon agos i gerdded
- angen gwella’r drafnidiaeth – bob amser yn hwyr a byth digon o drafnidiaeth
Wyt ti’n meddwl bod digon o fysiau/trenau yn dy ardal di?
- rhan fwyaf yn dweud bod digon o fysiau gerllaw, yn enwedig wrth ysgolion ac o fewn ardaloedd
- llai o drenau ar gael na bysiau e.e. dim gorsafoedd trên neu dydyn nhw ddim yn dod yn ddigon aml
- angen gwella trafnidiaeth e.e. dim digon o fysiau
- rhan fwyaf ddim yn hapus gyda thrafnidiaeth gyhoeddus – dim digon o drenau/bysiau, yn ddrud ac yn annibynadwy
- angen gwella’r drafnidiaeth – costau rhatach, gwasanaethau amlach
Ydw (230) – 41%
Dwi ddim yn gwybod (210) – 37%
Nac ydw (123) – 22%
Os wyt ti’n 16-21 oed, mae angen Fy Ngherdyn Teithio arnot i gael y prisiau bws isel. Oeddet ti’n gwybod am hyn cyn i ti wneud yr holidaur?
Nac oeddwn (7) – 64%
Oeddwn (4) – 36%
Oes gennyt ti gerdyn Fy Ngherdyn Teithio?
Nac oes (10) – 91%
Oes (1) – 9%
Cyn i ti wneud yr holiadur, oeddet ti’n gwybod am y prisiau bws isel newydd i blant a phobl ifanc 5-15 oed?
Nac oeddwn (385) – 70%
Oeddwn (162) – 30%
Ymatebion grŵp
Sut oedd y grŵp yn teimlo am drafinidiaeth cyhoeddus yn eu hardal? Oes unrhyw broblemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardal?
Roedd yr atebion yn cyfeirio’n bennaf at:
- methu dibynnu ar drafnidiaeth – bob amser yn hwyr, yn orlawn a gormod ohonynt yn cael eu ganslo
- teimlo’n anniogel oherwydd teithwyr eraill
- angen gwella trafnidiaeth trwy wasanaethau amlach a mwy o drenau/bysiau
Oedd y grŵp wedi clywed am y tocynnau rhad newydd?
- rhan fwyaf o blant a phobl ifanc heb glywed am y tocynnau rhad
- athrawon a rhieni/gwarcheidwaid ddim yn gwybod am y tocynnau
- barn gymysg am y prisiau – rhai’n poeni bydd y bysiau’n orlawn ac ansicrwydd ar sut mae’r cynllun yn gweithio
Pa syniadau oedd gan y grŵp ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r cynnig prisiau isel i gymuned yr ysgol?
- cyfryngau cymdeithasol e.e. TikTok, Facebook, Instagram a YouTube
- gwasanaethau ysgol, gwersi ysgol, posteri neu godau QR mewn ystafelloedd dosbarth
- posteri mewn arosfannau bysiau/ar fysiau