Papur Effaith ein Gwaith – Gwanwyn 2025

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

LLAIS

Mae sicrhau bod llais a phrofiadau plant yn cael eu clywed yn rhan allweddol o fy rôl fel Comisiynydd Plant.

Y mis diwethaf, am y tro cyntaf fel rhan o adroddiad cenedlaethol yng Nghymru, cyflwynais brofiadau plant o faterion tai a digartrefedd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Roedd rhai o’u profiadau yn ddychrynllyd: amodau byw anniogel; effeithiau ar eu hiechyd a’u lles; a diffyg y pethau syflaenol sydd angen ar bob plentyn i dyfu a ffynnu. Gallwch ddarllen mwy am yr adroddiad hwn o dan yr adran hon: 4 – Un sy’n gweud y gwir

Rydyn ni hefyd wedi bod yn clywed pryderon pobl ifanc a rhieni am deithio gan ddysgwyr, gan gynnwys trothwyon ar gyfer drafnidiaeth am ddimm a chost mynd ar y bws i’r ysgol. Mae’n rhywbeth rydw i wedi parhau i’w codi yn ystod y misoedd diwethaf, gan gyhoeddi’r dudalen safbwynt hon a ddyfynnwyd yn helaeth mewn dadl ddiweddar yn y Senedd. Ac rydw i’n falch iawn bod ein fideo, gyda chyfweliadau gyda disgyblion yn ne Cymru wedi cael ei ddangos fel rhan o Uwchgynhadledd Teithio Dysgwyr Llywodraeth Cymru. Gallwch wylio hwn a phrofiadau eraill yn yr adran hon: 3 – Heriwr

Rydyn ni wedi bod yn mynd â phrofiadau plant i galon ein democratiaeth yng Nghymru; dros y tri mis diwethaf, rydw wedi cymryd rhan yn sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Deisebau’r Senedd ar ffonau symudol mewn ysgolion ac wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ordewdra ymhlith plant. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod barn plant a phobl ifanc wedi’i chynnwys fel rhan o’n hymatebion i rai ymgynghoriadau allweddol Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Bil Tybaco a Vapes a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ac yn olaf, roeddwn yn falch o’r bobl ifanc yn ysgol St Christopher’s yn Wrecsam, a siaradodd yn wych yn ein digwyddiad yn Llanelwy ym mis Chwefror i ystafell llawn gweithwyr proffesiynol. Y pwnc oedd ymgysylltu’n effeithiol ac yn ystyrlon â phlant ag anghenion ychwanegol, a phlant anabl, digwyddiad ysbrydoledig y gallwch ddarllen mwy amdano yn yr adran hon: 1 – Yma i bob Plentyn

Gan edrych ymlaen, byddwn yn parhau i roi straeon plant wrth wraidd ein gwaith. Gyda blwyddyn i fynd tan etholiadau’r Senedd, byddwn yn fuan yn cyhoeddi ein galwadau maniffesto i bob plaid wleidyddol. Byddwn ni’n cymryd rhai o’r straeon syfrdanol rydyn ni’n eu clywed yn rhy aml gan blant a’u teuluoedd; a herio pleidiau gwleidyddol i’w trwy eu haddewidion i bobl Cymru.

1 – Yma i bob Plentyn

Dros y tri mis diwethaf rydyn ni wedi ymgysylltu â dros 850 o blant a phobl ifanc, wedi gweithio gydag oedolion sy’n cefnogi plant, ac wedi gwrando ar farn bron i 4,000 o blant trwy ein harolygon Materion Misol.

Dros y tri mis diwethaf rydyn ni wedi clywed barn plant ar:

  • Camwybodaeth: gofynnon ni i blant a phobl ifanc am eu profiadau o weld gwybodaeth ffug ar-lein. Pa mor hawdd yw dod o hyd i wybodaeth ffug ar-lein? Ac a fydden nhw’n ei codi gyda’r platfform neu beidio?
  • Toiledau ysgol: 21 mlynedd yn ôl, ysgrifennon ni adroddiad ar farn plant ar doiledau ysgol, o’r enw ‘Codi’r Caead’. Ailymwelwyd â’r cwestiynau hynny gyda phlant eleni i weld faint oedd wedi newid.
  • Iechyd y geg: ar gyfer Diwrnod Iechyd y Byd, gofynnwyd i blant am eu hiechyd y geg. Beth oedden nhw’n gwybod am gadw eu danedd yn lân a faint oedd wedi gweld deintydd yn ddiweddar?

Camwybodaeth

  • Dim ond 13% a ddywedodd y bydden nhw’n adrodd rhywbeth ar-lein a oedd yn ymddangos yn ffug
  • Dywedodd 74% ei bod hi’n hawdd credu rhywbeth ffug ar-lein
  • Dywedodd 72% eich bod chi’n fwy tebygol o gredu pethau sy’n dod o ffynonellau dibynadwy
  • Dywedodd 61% y gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol neu wefannau ychwanegu rhybuddion neu labeli gwirio ffeithiau at bostiadau i helpu i atal gwybodaeth ffug rhag lledaenu

Byddwn yn rhannu’r ymatebion gydag Ofcom i lywio eu gwaith ar amddiffyn pobl ifanc ar-lein.

Iechyd y Geg

  • Roedd 66% wedi bod at y deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol
  • Mae 83% yn brwsio eu dannedd o leiaf ddwywaith y dydd
  • Mae 49% yn rinsio ar ôl brwsio

Roedden ni’ falch o weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr holiadur hwn, ac i roi cyngor da i blant ar eu hiechyd y geg, yn ogystal â chlywed am arferion glanhau plant. Gallwch wylio ein fideo yma. Byddwn yn rhannu’r canlyniadau’n llawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Toiledau Ysgol

  • Roedd 56% ddim yn hapus gyda thoiledau’r ysgol
  • Gall 62% fynd i’r toiled yn ystod amser gwersi
  • O ran papur toiled, dywedodd 21% nad oedd papur toiled ar gael neu bron byth
  • Roedd 57% yn meddwl bod y toiledau’n lân, neu ddim yn rhy ddrwg

Mae dadansoddiad cynnar o’n holiadur yn awgrymu nad oes llawer wedi newid ym marn plant am eu toiledau ysgol ers ein hadroddiad 21 mlynedd yn ôl. Byddwn yn dadansoddi’r ymatebion ymhellach ac yn eu cyflwyno mewn adroddiad byr. Rydyn ni hefyd wedi cysylltu ag ysgolion am sgyrsiau pellach ar y mater hwn a sut y gallwn ni helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae ein Cynghorydd Polisi a Chyfranogiad, Chloe Gallagher, yn myfyrio ar ein digwyddiad diweddar a’i effaith ar bobl ifanc – 

Gwrando ar Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol: Dull Seiliedig ar Hawliau o Ymdrin â Chyfranogiad

Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael eu clywed, ac mae eu lleisiau’n hanfodol i ffurfio’r byd o’u cwmpas. Fodd bynnag, i blant ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, nid dim ond cael eu clywed yw’r her, ond cael gwrandawiad ystyrlon sy’n canu cloch gyda nhw.

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau, ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu, eu diogelu, a’u cyflawni. Ac eto, er gwaethaf ymwybyddiaeth gynyddol o’r heriau mae plant ag anableddau yn eu hwynebu yng Nghymru, mae eu lleisiau’n aml yn cael eu hanwybyddu.

Sut gallwn ni sicrhau bod plant ag anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael gwrandawiad dilys oedd y ffocws mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yng Ngogledd Cymru. Daeth y digwyddiad â gweithwyr proffesiynol ynghyd i archwilio arferion effeithiol ar gyfer cyfranogiad, ac i amlygu pwysigrwydd gwrando ar blant sydd ag anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ffyrdd sy’n bwysig iddyn nhw.

Gwerthfawrogi Dulliau Cyfathrebu Amrywiol

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn golygu mwy na chasglu eu barn yn unig; mae’n golygu creu amgylchedd lle mae pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u grymuso i rannu eu meddyliau. Yn achos plant ag anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae hynny’n golygu gwrando mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion unigol, boed hynny trwy gyfathrebu llafar, celf, neu ddulliau creadigol eraill.

Cyn cynnal y digwyddiad, buon ni’n gweithio gyda nifer o bobl ifanc o Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam. Roedd y grŵp yn cynnwys 8 person ifanc 13-18 oed, pob un ohonynt ag anabledd neu angen dysgu ychwanegol, a chafodd eu hanghenion unigol eu hystyried yn ofalus ar hyd cyfnod y prosiect. Gyda’n gilydd, fe fuon ni’n archwilio pam mae “llais” yn bwysig iddyn nhw, gyda chefnogaeth gan dîm Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam i gyflwyno hyfforddiant Naratif Cyhoeddus, sy’n canolbwyntio ar sut mae adrodd hanesion personol sy’n ysbrydoli gweithredu ac yn cysylltu â materion cymdeithasol ehangach. Dros gyfnod o 6 wythnos, bu gweithwyr cyfranogiad yn cefnogi’r grŵp i baratoi cyflwyniad ar gyfer y digwyddiad gan ddefnyddio fframwaith “calon, pen a dwylo”:

  • Calon: Pam mae hyn yn bwysig? Bu’r grŵp yn myfyrio ar eu profiadau personol.
  • Pen: Beth yw’r ffeithiau? Creodd y grŵp arolwg i fesur barn eu cyfoedion.
  • Dwylo: Pa weithredu hoffen nhw weld? Trafododd y grŵp pa newidiadau roedden nhw’n gobeithio fyddai’n cael eu hysbrydoli gan eu cyflwyniad.

Roedd y dull gweithredu hwn yn galluogi’r bobl ifanc i ymgysylltu â’r pwnc ar lefel ddyfnach a mwy personol.

Un o ddeilliannau mwyaf trawiadol y prosiect hwn oedd yr amrywiaeth o ffyrdd a ddewiswyd gan y bobl ifanc i fynegi eu hunain. Er bod rhai wedi siarad yn uniongyrchol, defnyddiodd eraill wahanol ddulliau mynegiant: cyflwynodd un person ifanc feddyliau trwy stori ffuglen ffantasi, tra defnyddiodd eraill gelf weledol i rannu eu syniadau. Mae’r dulliau cyfathrebu amrywiol hyn yn amlygu’r gwahanol ffyrdd mae plant yn prosesu ac yn mynegi eu meddyliau, ac roedd yn ategu’r pwynt bod y dull cyfathrebu lawn mor bwysig â’r neges ei hun.

Yn ystod y digwyddiad, bu’r ymarferwyr yn cydnabod gwerth cynnig amrywiaeth o opsiynau cyfathrebu. Roedd yr adborth yn cynnwys sylwadau fel, “Mae cynwysoldeb a chynnig gwahanol ffyrdd i’r plant rannu eu barn yn hanfodol,” a “gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth aruthrol i gyfranogiad.”

Yr Effaith ar y Bobl Ifanc

Cafodd y prosiect effaith sylweddol ar y bobl ifanc oedd yn rhan ohono. Rhoddodd ryddid iddyn nhw fynegi eu hunain mewn ffyrdd oedd yn addas iddyn nhw, gan roi hwb i’w hyder a sicrhau bod ganddynt deimlad o berchnogaeth ar y broses. Dywedodd un person ifanc, “Roedd yn hwyl ac yn her. Fe wnes i fwynhau, er mod i’n poeni ar y dechrau. Roedd yn help i roi mwy o hyder i fi.”

Dywedodd un arall, “Fe wnaethon nhw gymryd amser i wrando ar beth ddwedson ni.” Roedd y grŵp yn teimlo bod eu neges yn bwysig: “Mae llawer o bobl yn dweud bod angen gwrando mwy ar blant, ond dydyn nhw ddim yn dweud sut. Rwy’n credu bod ein neges ni’n helpu gyda hynny.”

Un adeg arbennig o gofiadwy oedd pan wnaeth person ifanc, oedd fel arfer yn ysgrifennu, ddewis siarad yn lle yn ystod y digwyddiad. Oherwydd bod amgylchedd wedi’i greu lle roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus a bod cefnogaeth iddyn nhw, fe fedron nhw gamu allan o’u sefyllfa gyfforddus, ac mae hynny’n dangos pŵer darparu lle diogel ar gyfer hunan-fynegiant. Roedd y foment hon yn ategu pwysigrwydd meithrin awyrgylch lle mae pobl ifanc yn teimlo digon o gefnogaeth a hyder i fynegi eu hunain fel maen nhw’n dymuno.

Mae’r prosiect yma wedi ategu’r dull yma o ymgysylltu, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau i gynnig dulliau creadigol i bobl ifanc rannu eu lleisiau. Trwy fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau, gallwn ni sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag yw eu gallu neu eu hanghenion, yn cael cyfle i ddylanwadu ar y byd o’u cwmpas.

2 – Gwireddwr Hawliau

Mae ein tîm Cyngor yn helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at eu hawliau dynol. Mae ein tîm wedi ymdrin â dros 300 o achosion dros y tri mis diwethaf.

Dyma manylion ein gwasanaeth cyngor.

Y materion mwyaf cyffredin

Roedd materion sy’n gysylltiedig ag addysg yn cynrychioli 41% o’n holl achosion. Roedd rhain yn cynnwys:

  • Cwynion am ddarpariaeth ysgol, bwlio, materion â’r math o leoliad addysg, a gwaharddiadau
  • Achosion yn ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig achosion sydd yn tynnu sylw at heriau gyda Chynlluniau Datblygu Unigol ac oedi statudol o dan y system ADY newydd.

Roedd 27% o faterion yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys:

  • diffyg cymorth ôl-18, sefydlogrwydd lleoliadau, mynediad at hawliau, ac oedi ni gynllunio neu gynllunio aneglur

Roedd themâu eraill o achosion yn cynnwys:

  • Roedd rhai achosion anghenion dysgu ychwanegol cymhleth yn tynnu sylw at sefyllfaoedd lle roedd diffyg cymorth wedi’i deilwra neu ddiffyg hyblygrwydd gan ysgolion yn ymddangos i gynyddu pryder plant, yn enwedig lle roedd anghenion ymddygiadol yn cael eu camddeall neu fod y gefnogaeth gywir ddim ar gael.
  • Iechyd meddwl a niwroamrywiaeth mewn cyd-destun polisïau ysgol anhyblyg ar faterion fel gwisg ysgol, a newidiadau mewn cymorth
  • Pobl ifanc sy’n gadael gofal ôl-18 yn profi anawsterau o ran cael mynediad at gymorth ariannol neu hawliau tai.
  • Plant ddim yn cymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt

3 – Heriwr

“Rwy’n teimlo fel ein bod ni fel pobl ifanc yn cael ein gadael i lawer. Mae gennym ni hawl i addysg am ddim, ond rydym yn gweld oherwydd y rhwystr hwn o bris tocyn bws bod ni ddim yn cael y mynediad hwnnw”

Dyma ddyfyniad gan berson ifanc yn siarad â ni ym mis Mawrth 2025, ynglŷn â’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gyrraedd yr ysgol bob dydd i gael mynediad at eu haddysg.

Mae teithio gan ddysgwyr, gan gynnwys trothwyon milltiroedd ar gyfer cludiant ysgol am ddim, yn fater rydym wedi’i godi’n gyson, gan gynnwys trwy argymhellion ffurfiol yn ein Hadroddiadau Blynyddol.

Heriwr “Rwy’n teimlo fel ein bod ni fel pobl ifanc yn cael ein gadael i lawer. Mae gennym ni hawl i addysg am ddim, ond rydym yn gweld oherwydd y rhwystr hwn o bris tocyn bws bod ni ddim yn cael y mynediad hwnnw” Ym mis Mawrth, trafodwyd y mater yn y Senedd, gyda’n galwadau wedi’u dyfynnu’n helaeth gan aelodau. Ac mae Llywodraeth Cymru newydd cynnal ei Uwchgynhadledd Teithio i Ddysgwyr, a ddaeth â rhanddeiliaid allweddol ynghyd, yn cynnwys y Comisiynydd, i drafod y problemau sy’n wynebu pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru.

Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i roi profiadau plant wrth wraidd trafodaethau trwy gynhyrchu amrywiaeth o fideos yn dangos rhai o’r anawsterau y mae pobl yn eu cael gyda’r system bresennol. Cafodd y fideo hwn o ysgol yn ne Cymru ei chwarae yn y digwyddiad, gan gyflwyno barn pobl ifanc ar gost mynd i’r ysgol ar hyn o bryd a’r effaith y mae’n ei chael ar deuluoedd.

Mae fideo arall rydyn ni wedi’i wneud yn dangos taith plentyn i’r ysgol yn ystod y gaeaf – taith a wnaeth i’n staff deimlo’n anghyfforddus ac yn anniogel.

Ac mae dwy fam yn dweud wrthym am eu pryderon – un y rhoddodd ei phlentyn lwybr cerdded gan ei chyngor lleol trwy gae o geffylau gwyllt, ac un arall sy’n poeni am ei phlentyn yn cerdded pellteroedd hir ar ei phen ei hun.

4 – Un sy’n dweud y gwir

“Mae’r to wedi torri yn stafell wely mam. Roedd rhaid i ni roi bwced dano fe i stopio fy chwaer rhag cael socad yn y nos. Mae llwydni ar bob ffenest. Mae’n rhy ddrud. Allwn ni ddim fforddio bwyd a’r tŷ.” – Merch 10 oed oedd yn byw gyda’i Mam a’i chwaer iau

  • Wrth ddisgrifio’u cartref rhentu preifat, dywedodd un person ifanc, “mae’r weirio’n beryglus yn fy nhŷ i, ac alla i ddim plygio unrhyw beth i mewn heb ofni mod i’n mynd i gael niwed.”
  • Dywedodd person ifanc oedd yn byw mewn tŷ cymdeithasol wrthyn ni fod eu “cartref presennol yn llaith. Mae’n teimlo fel bod y llwydni a’r lleithder yn fy ngwneud i’n dost” ac mae’r “waliau’n teimlo’n wlyb.”

Fel rhan o’n hymchwil i brofiadau plant o broblemau tai a digartrefedd, cynhaliodd fy nhîm sgyrsiau wyneb yn wyneb â phobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Cyflwynodd ein hadroddiad, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, argymhellion i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar flaenoriaethu hawliau plant mewn polisi tai.

Mae tai yn ffactor hanfodol sy’n sylfaen i hawliau a lles plant. Nid dim ond mater o ddarparu lloches yw ty digonol—mae’n hanfodol i ddatblygiad corfforol ac emosiynol plentyn, ei iechyd, ei fynediad at addysg, a’i gyfleoedd yn y dyfodol.

Ond er gwaethaf yr hawl sydd gan bob plentyn i safon byw dda o dan erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), mae’r ymchwil hon wedi datgelu profiadau plant a phobl ifanc o deimlo’n anniogel yn eu tai, o fyw mewn amodau byw sy’n amharu ar eu gallu i ffynnu a dysgu, a’r effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol o fyw gyda llwydni a lleithder. Rydym wedi clywed yn glir y pwysau y gall hyn i gyd ei roi ar ysgwyddau ifanc; pwysau na ddylai unrhyw blentyn orfod ei ddelio gyda fe. Dyma’r tro cyntaf i’r profiadau hyn cael eu clywed yn genedlaethol gan rai dan 16 oed, ond rhaid iddo beidio â bod yr olaf.

Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei holl ganllawiau tai a digartrefedd i sicrhau bod gofynion penodol yn ymwneud â hawliau plant o dan y CCUHP, ac mae rhoi barn a phrofiadau plant wrth wraidd datblygiadau yn ofyniad allweddol wrth symud ymlaen.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan.

Cynnwys barn plant yn ein gwaith – Jordan Doherty a Sophie Williams, arweinwyr cyfranogiad ar gyfer ein hymchwil Tai a Digartrefedd

“Roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn drwm iawn, ond roedd yn iawn mewn gwirionedd.”

Fel swyddog cyfranogiad does dim gwell canmoliaeth i chi na hyn, yn enwedig wrth drafod pwnc sensitif. Dyma ddywedodd un bachgen ifanc wrthym ar ôl cymryd rhan yn gweithdy ar gyfer ein prosiect Tai a Digartrefedd.

Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn siarad â phlant a phobl ifanc 7 i 18 oed ar draws Cymru am eu profiadau o broblemau tai a digartrefedd yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint cael gwrando ar y plant a’r bobl ifanc hyn yn rhannu eu stori a’u cefnogi i feddwl am yr hyn yr hoffent ei weld yn newid yng Nghymru.

Treulion ni lawer o amser fel tîm yn meddwl am y mathau o adnoddau y gallem eu cynhyrchu i gefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y prosiect, roeddem yn cadw mewn ystyriaeth y gallai fod yn drawmatig iddynt rannu manylion a storiâu personol iawn.

Fe benderfynon ni gael gwaith celf wedi’i gomisiynu i helpu i ddechrau sgyrsiau a gweithio gyda’r talentog ‘Sian Moore Illustration’ i arlunio stryd oedd yn adlewyrchu y nifer mwyaf o wahanol fathau o gartrefi â phosib.

Chwaraeodd y gwaith celf yma ran allweddol yn y sgyrsiau a gafwyd, gyda phlant a phobl ifanc yn cydnabod eu straeon eu hunain yn cael eu hadlewyrchu iddynt.

Roedd y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yn awyddus i dynnu sylw at y pethau oedd yn teimlo’n gyfarwydd iddyn nhw a’u teulu ac a alluogodd ni i’w cefnogi i rannu cartrefi eu hunain. Gwnaeth y pobl ifanc arlunio eu cartrefi a rhannu eu straeon mewn sesiynau un-i-un. Clywon ni rai straeon gofidus am fod yn ddigartref, sut gall amser brecwast teimlo mewn B&B a pha mor anodd y gall bywyd fod pan nad oes digon o welyau ac ystafelloedd gwely i bawb yn eich cartref. Roedd plant a phobl ifanc yn poeni am yr effaith ar eu hiechyd eu hunain (o lwydni) a hefyd yr effaith a gafodd y straen ar iechyd meddwl a lles eu rhieni.

Mae’r adroddiad llawn a’r straeon plant bellach wedi’u cyhoeddi mewn adroddiad llawn, gallwch ddod o hyd iddo drwy fynd i’n gwefan.

Os ydych chi eisiay trafod y gwaith yn bellach, cysylltwch gyda ni trwy ebostio post@complantcymru.org.uk

Diolch am ddarllen!

Byddwn yn cyhoeddi ein ‘Effaith yn gwaith’ nesaf yn tymor yr haf.