Iechyd y Geg – Sut wyt ti’n gofalu am dy ddannedd? Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Cyflwyniad
Yn ystod mis Ebrill 2025 gofynnon ni i blant a phobl ifanc am iechyd y geg a sut mae nhw’n gofalu am eu dannedd.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel ydyn nhw wedi gweld y deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol a pha fwyd a diod y dylen nhw fod yn fwy gofalus gyda o ran eu dannedd. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 734 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 198 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 4 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 19 awdurdod lleol.
Datblygwyd y cwestiynau gan dîm y Comisiynydd gyda chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc
Wyt ti wedi bod i’r deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol?
Ydw (323) – 66%
Nac ydw (94) – 19%
Dwi ddim yn gwybod (71) – 15%
Pa mor aml wyt ti’n brwsio dy ddannedd?
Dwywaith y diwrnod (347) – 71%
Unwaith y diwrnod (66) – 13%
Tair gwaith y diwrnod (42) – 9%
Mwy na tair gwaith y diwrnod (20) – 4%
Llai nag unwaith y diwrnod (13) – 3%
Byth (3) – 1%
Pryd wyt ti’n brwsio dy ddannedd? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un.
Cyn i fi fynd i’r gwely (367) – 75%
Ar ôl brecwast (324) – 66%
Cyn brecwast (161) – 33%
Ar ôl swper/tê (68) – 14%
Rhywbryd arall (27) – 6%
Cyn swper/tê (17) – 4%
Beth wyt ti’n gwneud ar ôl i ti orffen brwsio dy ddannedd?
Gadael y past dannedd ar dy ddannedd (233)
Golchi dy geg mas gyda dwr (226)
Ffrwythau (ffres/mewn tin/wedi rhewi/wedi sychu)
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (141) – 29%
Dwywaith y diwrnod (124) – 25%
Unwaith y diwrnod (91) – 19%
Tair gwaith y diwrnod (80) – 16%
Bron byth neu fyth (29) – 6%
Llai nag unwaith y diwrnod (27) – 6%
Cacennau neu fisgedi
Unwaith y diwrnod (147) – 30%
Llai nag unwaith y diwrnod (117) – 24%
Dwywaith y diwrnod (93) – 19%
Bron byth neu fyth (75) – 15%
Tair gwaith y diwrnod (28) – 6%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (26) – 5%
Losiynau neu siocled
Unwaith y diwrnod (166) – 34%
Dwywaith y diwrnod (101) – 21%
Llai nag unwaith y diwrnod (100) – 20%
Tair gwaith y diwrnod (54) – 11%
Bron byth neu fyth (35) – 7%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (34) – 7%
Diet coke neu ddiodydd eraill heb siwgr
Bron byth neu fyth (143) – 29%
Unwaith y diwrnod (110) – 23%
Llai nag unwaith y diwrnod (105) – 22%
Dwywaith y diwrnod (67) – 14%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (36) – 7%
Tair gwaith y diwrnod (26) – 5%
Coke neu ddiodydd eraill fel squash gyda siwgr
Unwaith y diwrnod (126) – 26%
Bron byth neu fyth (118) – 25%
Llai nag unwaith y diwrnod (87) – 18%
Dwywaith y diwrnod (78) – 16%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (40) – 8%
Tair gwaith y diwrnod (33) – 7%
Diodydd ynni (energy drinks) fel lucozade
Bron byth neu fyth (287) – 59%
Llai nag unwaith y diwrnod (84) – 17%
Unwaith y diwrnod (64) – 13%
Dwywaith y diwrnod (26) – 5%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (15) – 3%
Tair gwaith y diwrnod (12) – 3%
Dwr (o’r tap neu botel)
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (237) – 49%
Tair gwaith y diwrnod (85) – 17%
Dwywaith y diwrnod (75) – 15%
Unwaith y diwrnod (47) – 10%
Bron byth neu fyth (25) – 5%
Llai nag unwaith y diwrnod (20) – 4%
Sudd ffrwythau neu smwddi
Bron byth neu fyth (124) – 26%
Unwaith y diwrnod (114) – 23%
Llai nag unwaith y diwrnod (101) – 21%
Dwywaith y diwrnod (78) – 16%
Pedair gwaith y diwrnod neu fwy (39) – 8%
Tair gwaith y diwrnod (31) – 6%
Wyt ti’n yfed neu fwyta yn y nôs ar ôl i ti frwsio dy ddannedd?
Nac ydw (233) – 48%
Weithiau (149) – 31%
Ydw (73) – 15%
Dwi ddim yn gwybod (34) – 7%
Diweddglo
Mynediad at ddeintyddion
- Dywedodd dwy ran o dair o’r plant (66%) sy’n cymryd rhan yn ein holiadur eu bod wedi gweld deintydd ers dechrau’r flwyddyn ysgol. Mae’r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 45.8% o blant wedi cael eu trin gan ddeintyddion y GIG yn y flwyddyn cyn mis Mawrth 2024.
Arferion iechyd y geg
- Mae 80% o blant sy’n cymryd rhan yn ein holiadur yn brwsio eu dannedd o leiaf ddwywaith y dydd, er bod 13% yn dweud eu bod dim ond yn brwsio eu dannedd unwaith y dydd.
- Dywedodd bron i hanner (49%) eu bod yn rinsio eu ceg â dŵr ar ôl brwsio, er nad yw rinsio yn neges allweddol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Er bod nifer uchel o blant yn dweud eu bod yn brwsio eu dannedd ddwywaith y dydd, mae canlyniadau ein holidaur ciplun yn awgrymu bod negeseuon parhaus ynghylch arferion iach ar gyfer iechyd y geg yn bwysig i blant a theuluoedd.
Rydym wedi rhannu’r canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru fel y gallant eu hystyried fel rhan o’u hymgynghoriad ar Ddiwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG.
Hefyd rydym wedi rhannu’r canfyddiadau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.