Effaith ein gwaith: Haf 2025
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
A ddylid caniatáu ffonau clyfar mewn ystafelloedd dosbarth?
Ydych chi’n gwybod pwy yw’r Prif Weinidog?
Pa mor lân yw toiledau eich ysgol?
Dyma rai o’r cwestiynau rydyn ni wedi’u gofyn i blant a phobl ifanc dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o’n hadnodd Mater y Mis. Mae eu barn ar y materion amserol hyn wedi siapio ymatebion y Comisiynydd i ymgynghoriadau, wedi ei helpu i rannu barn plant yn y cyfryngau, ac wedi ysgogi gwaith dilynol gyda phlant i ymchwilio’n ddyfnach y tu ôl i’r ffigurau.
Darllenwch ymlaen am grynodeb o’r hyn rydyn ni wedi ei glywed dros y misoedd diwethaf ar ymwybyddiaeth gwleidyddol, bwlio, ac amser sgrîn.
Mae gwybodaeth hefyd am ein tudalen safbwynt newydd ar ymddygiad mewn ysgolion, arolwg o strwythurau cyfranogiad, a themâu o’n gwasanaeth cyngor dros y cyfnod diwethaf.
Ymwybyddiaeth Gwleidyddol
Beth rydyn ni wedi clywed gan blant dros y tri mis diwethaf
Ym mis Mai, gyda blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd, gofynnon ni i blant a phobl ifanc am le maen nhw’n derbyn eu gwybodaeth ar wleidyddiaeth, pa gyngor sydd ganddyn nhw i wleidyddion o ran cyfathrebu â nhw, a’u hymywyddiaeth o dau aelod gwleidyddol allweddol. Dyma beth clywon ni:
- Mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn dysgu am yr hyn y mae gwleidyddion eisiau ei newid yng Nghymru, ond maen nhw eisiau dysgu amdano mewn ffordd sy’n gafaelgar, syml i’w ddeall, ac yn berthnasol iddyn nhw.
- Mae nifer uchel o blant a gwblhaodd yr holiadur yn defnyddio cynnwys newyddion yn yr ysgol: dywedodd 68% o blant oed cynradd eu bod yn gwylio, darllen neu’n gwrando ar y newyddion yn yr ysgol, o’i gymharu â dim ond 34% yn y cartref. Dywedodd 75% o blant a ddywedodd eu bod yn gwylio, yn darllen neu’n gwrando ar newyddion eu bod yn gwylio rhaglen newyddion y BBC Newsround.
- Mae gwahaniaeth clir rhwng nifer y plant a’r bobl ifanc oedd yn gwybod pwy oedd Prif Weinidog Cymru (8% o’r uwchradd a 15% o’r cynradd), a’r nifer oedd yn gwybod pwy oedd Prif Weinidog Prydain (49% o’r uwchradd a 48% o’r cynradd) yn ein holidaur ciplun. Er nad yw ein canlyniadau yn gynrychioliadol yn genedlaethol, maent yn paentio darlun tebyg i lefelau blaenorol o ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth ddatganoledig. Fel y daeth Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd i’r casgliad yn ei hadroddiad diweddar, mae angen ymdrech gydgysylltiedig a pharhaus – rhaid i hyn gynnwys gwella llythrennedd gwleidyddol plant a phobl ifanc.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Gwrthfwlio
Bwlio oedd ein ffocws ym mis Mehefin, gyda Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau gwrthfwlio newydd ar gyfer ysgolion. Mae bwlio yn fater blaenoriaeth gyson i blant a phobl ifanc, ac mae wedi bod yn ffocws nifer o ddarnau o waith i’r Comisiynydd Plant dros y blynyddoedd. Dyma rai o’r pethau allweddol o’n holiadur:
- Roedd nifer sylweddol o blant (27%) yn amymwybodol o bolisi gwrth-fwlio eu hysgol ac doedd bron i hanner (47%) ddim yn gwybod a oedd fersiwn i blant.
- Sgoriodd fformatau rhyngweithiol yn uchel gan blant pan ofynnwyd iddynt sut hoffen nhw ddysgu am bolisi gwrth-fwlio eu hysgol, gyda 56% yn galw am fideos esboniadol, dros hanner (51%) eisiau cyflwyniadau mewn gwasanaeth a 44% yn awgrymu gemau sy’n eu helpu i ddeall y polisi.
Dywedodd ein data hefyd fod nifer o bobl ifanc (35%) yn meddwl t dylai polisi gwrth-fwlio gynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n fwli. Mae’n amlwg bod y wybodaeth ar gyfer y math hwn o gefnogaeth ar goll o’r canllawiau diweddaraf.
“Os oes rhaid i ni gael lle diogel, mae hynny’n profi nad oes camau’n cael eu cymryd gan y dylai’r ysgol fod yn lle diogel.” – Person ifanc LGBTQ+ Gogledd Cymru
Yn ogystal â’n holiadur, rydyn ni hefyd wedi cyfarfod â grwpiau o bobl ifanc i glywed eu barn ar y canllawiau newydd ac ar fesurau gwrth-fwlio cyfredol. Mae themâu trafod wedi cynnwys:
- sicrhau bod y canllawiau’n rhoi sylw cyfartal i bob dysgwr
- sicrhau cefnogaeth gyson mewn ysgolion
- cymryd bwlio o ddifrif
- cymorth i rieni ar gefnogi pobl ifanc rôl rhieni
Bydd y Comisiynydd yn rhannu barn plant gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o’u hymgynghoriad ar ganllawiau newydd.
Amser Sgrin
Mae ein holiadur presennol, sy’n rhedeg tan ddiwedd mis Awst, wedi codi rhai pwyntiau pwysig ar amser sgrin a nodweddion lles o fewn apiau.
Dyma beth rydyn ni wedi’i glywed hyd yn hyn:
- Mae 20% o’r plant sy’n ymateb i’r arolwg wedi dweud eu bod yn treulio 7 awr neu fwy y dydd ar-lein
- Mae 70% a ddywedodd eu bod yn defnyddio TikTok wedi diffodd botwm o fewn yr ap sy’n cyfyngu’r defnydd i 1 awr y dydd
- Byddai 30% yn cefnogi terfyn 2 awr ar apiau cyfryngau cymdeithasol
- Roedd 32% yn meddwl eu bod wedi treulio’n rhy hir ar ddyfeisiau
Rhannodd y Comisiynydd y canfyddiadau cynnar hyn mewn darn newyddion a oedd yn nodi dechrau rheolau newydd ar gyfer cwmnïau digidol ar gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan bwysleisio’r angen am ffocws cymdeithasol ar sicrhau cydbwysedd iach rhwng amser sgrin a gweithgareddau all-lein.
Ymddygiad mewn Ysgolion
Mae ymddygiad disgyblion wedi bod yn bwnc cynyddol amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda llawer yn rhannu barn ar raddfa’r mater ac atebion posibl.
Mewn papur safbwynt newydd, mae’r Comisiynydd yn ystyried safbwyntiau allweddol ar draws y sector, yn edrych nôl ar Uwchgynhadledd Ymddygiad Dysgwyr Llywodraeth Cymru, ac yn cyflwyno ei galwadau am newid.
Strwythurau cyfranogi
I ba raddau gall plant ddweud eu dweud yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw? Mae’n gwestiwn allweddol rydyn ni’n ei ofyn eleni fel rhan o’n hadolygiad cenedlaethol o strwythurau cyfranogiad lleol yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae 18 o awdurdodau lleol wedi ateb holiadur am gyfranogiad yn eu hardaloedd: sut mae’n cael ei gyflawni, sut mae’n cael ei werthuso, a’r rhwystrau.
Beth rydyn ni wedi’i glywed hyd yn hyn?
Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthym mai rhai rhwystrau cyffredin i gymryd rhan yw:
- Capasiti a sgiliau staff
- Strwythurau mewnol a ffyrdd o weithio
- Hyder pobl ifanc i gymryd rhan
- Materion ymarferol fel argaeledd teithio, neu amser i gymryd rhan
Y Camau Nesaf
Rydyn ni’n cwrdd wyneb yn wyneb â phob awdurdod lleol dros y misoedd nesaf i ymchwilio’n ddyfnach o dan ymatebion yr arolwg. Ein nod yw hyrwyddo arfer da, tynnu sylw at y rhwystrau i waith cyfranogiad effeithiol a’r atebion, ac yn y pen draw gwella profiadau plant o gyfranogiad ledled Cymru.
Byrddau Crwn Iechyd Meddwl – Adroddiad wedi’i gyhoeddi
Ym mis Rhagfyr 2024 ac Ionawr 2025, cynhalion ni 4 sesiwn grŵp ffocws gyda phobl ifanc; a 3 digwyddiad bwrdd crwn gyda gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r sector statudol a’r trydydd sector, gan drafod 5 thema allweddol ar iechyd meddwl.
- Diffiniad ac iaith ynghylch iechyd meddwl, a lles emosiynol
- Cefnogaeth yn y gymuned ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol
- Cefnogaeth yn yr ysgol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol
- Gwasanaethau a chymorth arbenigol i blant ag anghenion cymhleth
- Blaenoriaethau a negeseuon allweddol i’r Comisiynydd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru
Darllenwch ein hadroddiad dilynol a’n pum argymhelliad allweddol i Lywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Cymorth a Chyngor – Gwaith Achos Diweddar
Mynediad at chwarae, a thrafnidiaeth ysgol
Gan arwain at fisoedd yr haf, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn rhieni yn cysylltu gyda phryderon am fynediad at gyfleoedd chwarae i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau. Mae llawer o deuluoedd hefyd yn poeni am fynediad at drafiniaeth ysgol cyn y flwyddyn academaidd newydd, yn dilyn toriadau mewn darpariaeth ar draws awdurdodau lleol. Gallwch ddarllen ein papur safbwynt ar hyn ar ein gwefan.
Lleoliadau addysg arbenigol
Mae cynnydd wedi bod mewn cyswllt gan deuluoedd lle mae plentyn angen lleoliad addysg arbenigol. Ond gyda lleoliadau’n aml yn llawn, mae hwn yn enghraifft arall o sut mae’r system bresennol yn fethu pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y Comisiynydd yn adnewyddu ei galwadau am newid yn y maes hwn pan fydd hi’n cyhoeddi ei galwadau Maniffesto ym mis Medi, cyn etholiad y Senedd.
“Rwy hefyd yn ddiolchgar am eich ymateb cynhwysfawr yn arbennig y gwybodaeth ynglyn a Mesur Plant a Theuluoedd.”
“Staff have always been friendly and knowledgeable.”
Diolch am ddarllen!
Byddwn yn cyhoeddi ein ‘Effaith yn gwaith’ nesaf yn tymor yr hydref.