Gwrando
Swydd y Comisiynydd Plant yw diogelu a hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru. Mae'r Comisiynydd yn gwrando ar blant i glywed eu barn a phrofiadau am bethau gwahanol.
Codi llais
Mae'r Comisiynydd yn codi llais am y pethau mae angen ar blant. Ar ôl gwrando ar blant, mae'r Comisiynydd yn rhannu yr hyn mae hi wedi clywed gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau am fywydau plant.
Helpu
Ei swydd yw sicrhau bod plant yn gwybod eu hawliau a sut dylen nhw gael eu trin. Os ydy plant neu'r oedolion sy'n gofalu amdanynt yn teimlo fel bod nhw'n cael eu trin yn annheg, mae gyda hi dîm o bobl sy'n gallu helpu a rhoi cyngor.
Newid
Os nad ydy plant yn derbyn eu hawliau, bydd y Comisiynydd yn herio yr rhai sy'n gwneud penderfyniadau am fywydau plant a dweud wrthyn nhw beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i wella bywydau plant.
Cyngor
Cyngor os rydych chi'n meddwl bod plentyn rydych chi'n gofalu amdanyn nhw wedi cael ei drin yn annheg
Dysgwch fwy About Cyngor