Beth yw hawliau plant?
Mae gan blant a phobl ifanc 42 hawl dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r 42 hawl yma yn cynnwys y pethau mae angen ar blant i dyfu yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Dyma adnoddau defnyddiol i’ch helpu ddysgu mwy am hawliau plant:
Gwybodaeth i Rieni
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yma i’ch helpu chi ddysgu mwy am hawliau plant.
Mae hawliau plant yn amlinellu y pethau sydd ange ar blant i gael y cyfle gorau o dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Tudalen – Canllaw Hawliau Plant i Rieni
Beth i’w wneud os nad yw’ch plentyn yn cael ei hawliau
Mae’r Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol, ddi-dâl sydd yno i gynghori a helpu plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw’n teimlo bod plentyn wedi cael eu trin yn annheg.