Cymru i Bob Plentyn

Uchelgais y Comisiynydd, gan Rocio Cifuentes

Rydw i eisiau i Gymru fod yn wlad lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau ac yn gallu cyrchu cefnogaeth er mwyn gwireddu’r hawliau hynny. Un o brif ddibenion gwaith fy sefydliad yw cefnogi plant a phobl ifanc i wybod am eu hawliau a’u deall, a chefnogi a chynghori gwasanaethau cyhoeddus ynghylch hybu a diogelu hawliau plant.  

Yn fy strategaeth tair blynedd, a seiliwyd ar farn a phrofiadau dros 8,000 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru, fe wnaethon ni ymrwymo i archwilio galwad i uno, er mwyn cyfuno’r ystod o fentrau â ffocws ar hawliau plant oedd eisoes yn bodoli a rhoi mwy o amlygrwydd a blaenoriaeth i anghenion a hawliau plant a phobl ifanc. Yng nghyd-destun yr heriau difrifol mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu, ac er mwyn sicrhau ymateb cydlynus i ddyddiadau pwysig cysylltiedig â hawliau plant (roedd 2024 yn nodi canmlwyddiant ers i’r cysyniad o hawliau plant cyffredinol ddod i fodolaeth), roedden ni eisiau creu rhywbeth a fyddai’n crisialu ymrwymiad hirsefydlog Cymru i hawliau dynol plant trwy ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus syml, ond llawn cymhelliant: A Wales for All Children / Cymru i Bob Plentyn’.  

Fe aethon ni â’r syniad yma at Lywodraeth Cymru, ac roedd ein cais yn un syml: gadewch i ni sefydlu cynllun cyfathrebu a chreu naws o amgylch gweithgareddau hawliau plant yng Nghymru, y gallai ein partneriaid alinio ag ef. Nid yn unig byddai hynny’n helpu i gyflawni rhai o’r rhwymedigaethau o dan Erthygl 42 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, byddai hefyd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni rhai o’u hymrwymiadau hwythau, a amlinellwyd yn y Cynllun Cynyddu Ymwybyddiaeth o Hawliau Plant. Byddai hefyd yn caniatáu i ni ddechrau datblygu iaith gyson ynghylch hawliau dynol plant yng Nghymru, ac yn allweddol, yn gweithredu fel galwad unol i weithredu er mwyn cyfuno’r ystod o fentrau presennol sydd â ffocws ar hawliau plant, a rhoi mwy o amlygrwydd a blaenoriaeth i anghenion a hawliau plant a phobl ifanc.  

Isod rydyn ni wedi amlinellu prif agweddau’r cynllun y byddwn ni’n ei gyflwyno gyda Llywodraeth Cymru. 

Yr Her

Yng Nghymru, mae rhwymedigaethau cyfreithiol ar sawl corff cyhoeddus i ddiogelu, hybu ac ystyried hawliau plant. Maen nhw’n cynnwys dyletswyddau fel a ganlyn: 

  • ar Weinidogion Cymru i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ymhlith y cyhoedd, gan gynnwys plant: Adran 5 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011; 
  • ar y Comisiynydd Plant i ddiogelu a hybu hawliau a lles plant yng Nghymru, ac i wneud plant yn ymwybodol o rôl a gwaith y swyddfa: Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001; 
  • ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau addas i hybu a hwyluso cyfranogiad plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnyn nhw: Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Adran 12) 

Er gwaethaf cryfder y ddeddfwriaeth hon, credwn fod angen gwella gwelededd hawliau plant yng Nghymru a dealltwriaeth ohonynt, fel bod: 

  • hawliau plant yn amlycach yng ngwaith cyfathrebu’r sector cyhoeddus 
  • plant yn ymwybodol ac yn manteisio ar gyfleoedd i lywio newid, i gael eu gwrando gan lunwyr penderfyniadau, ac yn chwarae rhan ystyrlon mewn newid 
  • llunwyr penderfyniadau yn ategu ac yn amddiffyn hawliau plant 
  • llunwyr penderfyniadau a deiliaid dyletswydd yn atebol ac yn ymateb i blant a phobl ifanc 
  • cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant 

Y Syniad

Rydyn ni eisiau sicrhau cyfatebiaeth rhwng gweithgarwch cyfathrebu sy’n ymwneud â hawliau plant ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn cyflwyno hawliau plant a sicrhau hefyd nad ydyn ni’n dyblygu ein hymdrechion.  

Trwy greu strategaeth gyfathrebu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru, byddwn ni’n cynnig cyfle (a chefnogaeth) i sefydliadau eraill integreiddio ein hegwyddorion Y Ffordd Gywir (dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant), iaith seiliedig ar hawliau, a gweledigaeth/blaenoriaethau Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu gweithgarwch cyfathrebu.  

Oddi mewn i’r strategaeth hon, defnyddir yr is-bennawd ‘Cymru i Bob Plentyn’ i atgyfnerthu’r weledigaeth a dangos pa gamau mae cyrff cyhoeddus yn eu cymryd i gefnogi a chynnal hawliau plant yng Nghymru. 

Beth byddwn ni’n ei wneud i roi’r syniad ar waith

  1. Cefnogi cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, gan gynnwys cyhoeddi adnoddau newydd ynghylch defnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant i daclo tlodi plant, ac un arall ar ddull seiliedig ar hawliau plant o ymdrin â chyllidebu 
  2. Bwrw goleuni ar arfer da rhoi dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant ar waith 
  3. Hybu hawliau plant trwy ein gwaith cyfathrebu a chyfranogiad, gan gynnwys ein cynllun Llysgenhadon 
  4. Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod bod comisiynydd plant yno i amddiffyn a hybu eu hawliau 
  5. Cynnwys negeseuon ynghylch ‘Cymru i bob plentyn’ yn ein gwaith cyfathrebu, gan gynnwys ein gwaith cyfryngau a’n hanerchiadau 

Sut byddwn ni’n gwybod bod hyn yn llwyddo

  1. Byddwn ni’n mesur nifer y sefydliadau sy’n mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant; byddwn ni’n ceisio casglu deilliannau’r mabwysiadu yna, ac yn mesur swm ac effeithiolrwydd ein rhaglen gefnogi i gyrff cyhoeddus. 
  2. Byddwn ni’n mesur effaith ein gwaith ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn gwybod am eu hawliau, yn eu deall ac yn eu defnyddio. 
  3. Trwy arolwg Beaufort Omnibus byddwn ni’n mesur bob dwy flynedd lefelau ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc ledled Cymru o’r Comisiynydd a’i swyddfa.