Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i’r sylfaen bresennol o wybodaeth ynghylch profiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ag anableddau, er mwyn amlygu bylchau yn y dystiolaeth a meysydd posibl ar gyfer ymchwil ystyrlon.
Rydyn ni eisiau Cymru i bob plentyn – gwlad lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau ac yn gallu cyrchu cefnogaeth i wireddu’r hawliau hynny. Rydyn ni eisiau herio a helpu i wella arfer lleol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod mwy o hawliau plant yn cael eu diogelu a’u gwireddu.
Yn ein cynllun tair blynedd, rydyn ni wedi ymrwymo i fwrw goleuni ar faterion penodol a chwyddo sain hanesion sydd heb eu clywed. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi ceisio archwilio mathau ehangach o anghydraddoldeb mae plant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn eu hwynebu. Dechreuodd y gwaith trwy greu dadansoddiad sefyllfa, i ganfod beth sy’n hysbys am fywydau plant anabl yng Nghymru, amlygu bylchau yn y dystiolaeth a nodi meysydd gwaith posibl.
Fe wnaethon ni ystyried y cyfleoedd oedd ar gael i ni er mwyn dylanwadu ar newid, a blaenoriaethu’r agweddau hynny trwy ein gwaith craidd a phrosiectau eleni. Maen nhw’n cynnwys:
- Llais a gallu i gael effaith
- Trafnidiaeth
- Darpariaeth addysg
- Cyflogaeth
- Gwaith craidd: Grymuso plant a’u teuluoedd
Dyma beth wnaethon ni eleni
Llais a gallu i gael effaith
Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio’n hymdrechion ar gefnogi a galluogi plant a phobl ifanc i leisio barn wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, ac mae gwaith eleni wedi canolbwyntio ar gyfleoedd i ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r canllawiau chwarae, yn ogystal â’r ddyletswydd sydd ar gyrff cyhoeddus i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ynghylch agweddau eraill ar eu bywydau.
Ffocws ar chwarae
Mae materion cysylltiedig â chwarae yn cael eu codi’n rheolaidd gyda ni gan blant a phobl ifanc, ac nid yw plant a phobl ifanc anabl yn eithriad i hynny. Yn sgîl hyn, a’r ffaith bod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi eu Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2025 (mae’r asesiadau hynny’n darparu’r dystiolaeth angenrheidiol i ganfod bylchau yn y ddarpariaeth a chefnogi datblygiad cynlluniau gweithredu i roi sylw i unrhyw ddiffygion), fe wnaethon ni gyflwyno sylwadau eleni i Lywodraeth Cymru i gefnogi eu hymdrechion i ddiweddaru pecyn offer a thempled fydd yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni’r ddyletswydd hon.
Roedd sylwadau terfynol diweddaraf Pwyllgor y CU i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Partïon Gwladol ynghylch sut mae’r Deyrnas Unedig yn gweithredu hawliau plant hefyd yn cyfeirio at welliannau angenrheidiol o ran cyfleoedd i chwarae. Fe wnaethon nhw alw ar lywodraethau i: “gryfhau mesurau i sicrhau bod pob plentyn, gan gynnwys plant ag anableddau, plant ifanc, plant mewn ardaloedd gwledig a phlant o gefndir sosio-economaidd difreintiedig, yn cael mynediad at fannau chwarae cyhoeddus hygyrch a diogel yn yr awyr agored”
Roedden ni’n arbennig o awyddus bod Llywodraeth Cymru’n gwneud cynnydd o ran yr argymhelliad hwn trwy sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed ym mhob rhan o’r broses Asesu Digonolrwydd Chwarae, a bod hynny’n digwydd yn gyson ar draws holl awdurdodau Cymru. Mae canllaw diwygiedig Llywodraeth Cymru ‘Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae’ yn cynnwys pennod manylach ar ymgynghori, cyfranogi ac ymgysylltu, sy’n cyfeirio at ein fframwaith a’n canllawiau ‘Y Ffordd Gywir’.
Ffocws ar gefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau
Mae dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus i gynnwys a gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y ddyletswydd ar awdurdodau lleol ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i hybu a hwyluso cyfranogiad plant mewn penderfyniadau a allai effeithio arnyn nhw, ac mae Pennod 5 Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn esbonio sut mae angen i awdurdodau lleol a chyrff GIG roi sylw dyledus i Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad yn Llanelwy, yng ngogledd Cymru, lle buon ni’n archwilio’r dyletswyddau hynny gyda mwy nag 80 o weithwyr proffesiynol. Roedd y digwyddiad yn arddangos sut gallai dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant ddarparu fframwaith gwerthfawr i gyflawni’r dyletswyddau hynny a sicrhau cyfranogiad effeithiol i bob plentyn a pherson ifanc.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam, fe fuon ni’n gweithio gyda grŵp o bobl ifanc o Ysgol Sant Christopher, Wrecsam, i ddilyn hyfforddiant Naratif Cyhoeddus. Bu dysgwyr o’r ysgol yn derbyn sesiynau hyfforddiant naratif cyhoeddus wyneb yn wyneb, i’w cefnogi i gyflwyno anerchiad dull TEDx ar destun ‘llais’.
Ein nod oedd sicrhau bod pawb yn gadael ein digwyddiad â nod amlwg fyddai’n hybu eu gwaith ar gyfranogiad ac ymgysylltiad â phlant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Dyma grynodeb o’r adborth gan y rhai oedd yn bresennol:
Pan holwyd am un neges allweddol byddai’r cyfranogwyr yn ei chofio o’r digwyddiad:
“Gwrando mwy ar blant”
“Gall gwrando ar blant a phobl ifanc ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd”
“Mae cymryd amser i wrando a meithrin perthynas yn arbed amser yn y diwedd”
“Bod yn fwy ymwybodol o gynhwysedd a meddwl am ffyrdd gwahanol o gasglu lleisiau pobl ifanc”
“Gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth aruthrol i gyfranogiad”
“Grymuso plant i roi llais iddyn nhw, gwrando ar eu llais a gweithredu pan na fedran nhw wneud hynny”
Pan holwyd am unrhyw newidiadau bydden nhw’n eu gwneud i’w hymarfer o ganlyniad i’r digwyddiad, fe glywson ni am:
“Sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn i blant a phobl ifanc fedru defnyddio’u lleisiau”
“Addasu fy ffordd o feddwl”
“Trafod dewisiadau cyfathrebu”
“Cysylltu ag ysgolion anghenion arbennig i weld sut galla i helpu i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed”
“Rhannu gwybodaeth ac adnoddau gyda chydweithwyr a’u rhoi ar waith”
“Galla i ddefnyddio rhai o’r strategaethau mewn grwpiau datblygu gwasanaeth parhaus i hybu cynnwys plant”
“Adolygu faint o fewnbwn mae plant yn cael i’n gwasanaeth a’n datblygiad”
Bu’r bobl ifanc oedd yn rhan o’r prosiect yn myfyrio ar eu hymwneud ag e:
“Roedd yn hwyl ac yn dipyn o her. Fe wnes i fwynhau, er mod i’n poeni ar y dechrau. Fe wnaeth e helpu fi i ddatblygu hyder.”
Dywedodd un arall: “Fe wnaethon nhw gymryd amser i wrando ar beth roedden ni’n dweud.” Roedd y grŵp yn teimlo bod eu neges yn bwysig: “Mae llawer o bobl yn dweud bod angen gwrando mwy ar blant, ond dydyn nhw ddim yn trafod sut mae gwneud hynny. Rwy’n credu bod ein neges ni’n helpu gyda hynny.”
Trafnidiaeth
Ffocws allweddol i ni fu pwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob plentyn a pherson ifanc. Rydyn ni’n credu’n sylfaenol y byddai gwneud hynny’n codi baich ariannol oddi ar ysgwyddau teuluoedd, yn helpu i gysylltu pobl ifanc â chyfleoedd, ac yn symudiad cadarnhaol at Gymru fwy gwyrdd.
Fe wnaeth Pwyllgor Deisebau’r Senedd gydnabod gwerth yr alwad hon yn ei adroddiad, Rhyddid i ffynnu.
Er gwaethaf cryn gefnogaeth, mae’r Llywodraeth hyd yma wedi gwrthod pob galwad i roi’r newid hwn ar waith, ond yn ddiweddar maent wedi ildio rhywfaint trwy gyflwyno tocynnau bws am £1 i bobl ifanc 16-18 oed. Er ein bod ni’n croesawu’r cam yma, sy’n mynd â ni i’r cyfeiriad cywir, byddwn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth i sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob plentyn, gan ein bod ni’n credu’n bendant y gallai hynny helpu i drawsffurfio bywydau yma yng Nghymru.
Yn ogystal â phwyso am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob plentyn a pherson ifanc, rydyn ni hefyd wedi amlygu materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth i ddysgwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n gorfod mynd i ddarpariaeth arbenigol. Mae ein sefyllfa bolisi yn amlinellu ein pryderon a’n hymrwymiad i barhau i fwrw goleuni ar y materion hyn nes bod trefniadau’n cael eu diweddaru a fyddai’n galluogi pob plentyn i gael mynediad cyfartal at addysg.
Darpariaeth addysg
Rydyn ni’n gwybod mai plant ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant ag anabledd sy’n wynebu rhai o’r rhwystrau pennaf i addysg.
Yn achos plant anabl, mae ein gwaith eleni wedi cynnwys:
- pwyso ar y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i ystyried hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc anabl wrth iddo geisio datrys problem barhaus absenoldeb;
- galw Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch cyflawni’r argymhellion sy’n deillio o Ymchwiliad Pwyllgor Plant y Senedd oedd yn asesu a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg;
Roedd Argymhelliad 10 o’r adolygiad hwnnw yn gofyn i Lywodraeth Cymru “… ystyried adolygu strategaethau a chynlluniau hygyrchedd ledled Cymru, gyda golwg ar roi cyfarwyddyd i unrhyw awdurdod lleol neu ysgol sy’n methu cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010”.
Mae gan ein swyddfa gorff eang o dystiolaeth a hanes hir o godi pryderon ynghylch y rhwystrau sylweddol mae plant anabl yn eu hwynebu, yn arbennig materion hygyrchedd. Mae hyn yn dilyn adroddiad yn 2014 ar hygyrchedd ysgolion i gadeiriau olwyn ac adroddiad dilynol ar yr un mater yn 2019, oedd yn dangos diffyg cynnydd. Roedd ein hadroddiad ‘Blociau Adeiladu’ yn 2020 yn dangos bod angen gwneud mwy i sicrhau addysg gynhwysol yn y cyfnod sylfaen. Fe wnaethon ni alw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen ar frys i adolygu a chryfhau canllawiau a fyddai’n helpu i gynyddu mynediad dysgwyr anabl i ysgolion. Fe wnaeth y Llywodraeth gytuno yn eu hymateb i ni, a byddwn ni’n gweithio gyda swyddogion i sicrhau bod yr adolygu ar y canllawiau ‘Cynllunio i Gynyddu Mynediad Disgyblion Anabl i Ysgolion’ yn rhoi sylw i’r anghenion rydyn ni wedi’u hamlygu ac yn diogelu a hybu hawliau plant yn effeithiol.
- Ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i nodi ein pryderon ynghylch y penderfyniad i beidio â chyflwyno TGAU Iaith Arwyddion Prydain (BSL), er mwyn deall beth oedd yr heriau ymarferol a sut bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu’n barhaus.
Yn achos plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rydyn ni wedi:
- parhau i gyflwyno sylwadau yng ngrŵp llywio Gweithredu ar ADY Llywodraeth Cymru, a rhannu gyda’r aelodau enghreifftiau o achosion amser go iawn o’n gwasanaeth gwaith achosion;
- archwilio cwmpas eu gwaith gydag Archwilio Cymru, gan edrych ar gynaliadwyedd y system ADY yng Nghymru;
- gweithio gyda theuluoedd rydyn ni wedi’u cefnogi trwy ein gwasanaeth cyngor annibynnol i greu ffilm fer am eu profiadau o gael hyd i ffordd trwy system sy’n aml yn creu llawer iawn o rwystredigaeth a gofynion. Mae’r ffilm yn darlunio ymdrechion teuluoedd i ymdopi wrth i blant fod heb ddarpariaeth angenrheidiol, aros yn hir am ddiagnosis, derbyn amserlen ysgol gyfyngedig a heriau niferus eraill.
Mae copi wedi cael ei rannu gydag Ysgrifennydd Addysg y Cabinet yn Llywodraeth Cymru ac rydyn ni wedi’i phostio ar draws ein platfformau cyfryngau cymdeithasol i amlygu’r heriau. Ein gobaith yw y bydd y profiadau hyn yn rhoi ffocws i ymdrechion y Llywodraeth, sydd wrthi ar hyn o bryd yn adolygu eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol ADY. Gallwch wylio copi o’r ffilm, ‘Y frwydr barhaus’, a darllen ein safbwynt polisi ar anghenion dysgu ychwanegol ar ein gwefan, o dan ‘Cyhoeddiadau’;
ymgysylltu â’r broses o ddrafftio’r weledigaeth a’r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu gan Gwella Anabledd Dysgu Cymru (rhan o Weithrediaeth y GIG), a bwydo i mewn i’r broses honno:
Cyflogaeth
Rydyn ni wedi bod yn trafod mynediad at gyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith, gan nodi’r rhwystrau i gyfleoedd pobl ifanc yn sgîl y symudiad at weithio hybrid a dileu cyllid i gefnogi a rheoli rhaglen genedlaethol o leoliadau profiad gwaith. Rydyn ni wedi mynd â’r mater hwn at y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a ymrwymodd i archwilio posibiliadau a chyllid i’r dyfodol yn y cyswllt hwn.
Rydyn ni wedi bod yn rhan o Weithgor Plant a Phobl Ifanc Tasglu Anabledd Llywodraeth Cymru. Mae gweithgorau ehangach wedi ystyried Cyflogaeth ac Incwm, a bydd y Cynllun Gweithredu yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yng ngwanwyn 2025.
Gwaith craidd – sut rydyn ni wedi grymuso plant a’u teuluoedd
Eleni buon ni’n cefnogi plant a’u teuluoedd trwy ein gwasanaethau cyngor a chymorth annibynnol gyda materion oedd yn ymwneud ag anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol.
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, bu ein gwasanaeth yn cefnogi 116 o achosion oedd yn ymwneud â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd hynny’n cynnwys chwe achos lle cododd teuluoedd bryderon ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd ym myd addysg, a phedwar achos arall lle’r adroddwyd am wahaniaethu mewn perthynas â’r ddarpariaeth ADY.
Ar hyn o bryd nid yw ein system rheoli achosion yn caniatáu i ni gofnodi “anabledd” fel nodwedd annibynnol, felly ni allwn ddarparu ffigur manwl gywir ar gyfer nifer y plant anabl a gefnogwyd. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio categorïau materion cysylltiedig – megis ADY/AAA a gwahaniaethu ar sail anabledd – rydyn ni wedi gallu amcangyfrif nifer yr achosion perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys plant a theuluoedd yn wynebu rhwystrau i addysg briodol, heriau wrth sicrhau lleoliadau ysgol, a phryderon ynghylch digonolrwydd darpariaeth ADY. Er nad yw’r ffigurau hyn yn bendant yn cynnwys yr holl blant anabl rydyn ni wedi’u cefnogi, mae’n rhoi darlun ystyrlon o natur a chwmpas y materion rydyn ni wedi helpu i roi sylw iddynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Beth nesaf i ni?
Byddwn ni’n parhau i weithio tuag at ein huchelgais, sef Cymru i bob plentyn – gwlad lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau ac yn gallu cael mynediad at gefnogaeth i wireddu’r hawliau hynny. Bydd gwaith yn parhau i herio a helpu i wella arfer lleol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod mwy o hawliau plant yn cael eu diogelu a’u gwireddu.
Yn ogystal â pharhau i bwyso am ddiwygio materion y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt yn 2024/25, bydd y tîm hefyd yn gwneud peth gwaith sydd â mwy o ffocws ar faterion cysylltiedig â phresenoldeb yn yr ysgol, ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau gwrthfwlio sydd ar ddod, a chyfranogiad ystyrlon plant mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc anabl a’u cynnwys yn ein gwaith trwy ein cynllun llysgenhadon cymunedol a’n panel ymgynghorol pobl ifanc.
Gan feddwl am y plant a’r bobl ifanc a fu mor ddewr yn rhannu eu profiadau â ni yn 2022 fel rhan o’n gwaith Gobeithion i Gymru, byddwn ni’n mireinio ein prosesau atebolrwydd er mwyn gallu dangos pa effaith rydyn ni wedi’i chael ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau, a chanfod i ba raddau mae cyrff cyhoeddus a llunwyr penderfyniadau yn gweld plant fel dinasyddion gweithredol, i ba raddau mae hawliau plant yn cael eu cynnwys mewn polisïau lleol a chenedlaethol, ac i ba raddau mae cyrff cyhoeddus a llunwyr penderfyniadau yn ymwybodol o hawliau plant ac yn eu parchu.