Llythyr agored i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru

Annwyl Arweinwyr,

Mae pleidleisio yn hawl ddemocrataidd i bawb dros 16 oed yng Nghymru ac, i rai pobl ifanc, etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf iddyn nhw allu arfer yr hawl hon. Er mwyn i ddemocratiaeth weithio’n effeithiol yn y wlad hon, mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad i wybodaeth dda ac yn cael eu hannog i gymryd rhan.  Rydym eisiau gwneud popeth posibl i gynyddu cyfranogiad gwleidyddol trwy gael gwared ar rai rhwystrau amlwg.

Dim ond 43% o bobl ifanc 16–17 oed cymwys yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio ar hyn o bryd. Gwyddom nad oes gan lawer o ddinasyddion Cymru, gan gynnwys pobl ifanc, ddealltwriaeth gadarn o ddemocratiaeth Cymru ac mewn arolwg diweddar gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru o dros 800 o blant a phobl ifanc yng Nghymru, clywsom nad oedd 55% o bobl dan 16 erioed wedi bod mewn gorsaf bleidleisio (nid oedd 41% o bobl 16+ erioed wedi bod mewn gorsaf bleidleisio) ac nad oedd 92% o bobl dan 16 oed yn adnabod Prif Weinidog Cymru (nid oedd 85% o 16+ erioed wedi clywed am Brif Weinidog Cymru). Yn y pôl hwnnw, maen nhw wedi gofyn i bleidiau gwleidyddol ddarparu gwybodaeth am yr hyn rydych chi’n sefyll amdano, a pha wahaniaeth y byddwch chi’n ei wneud i’w bywydau – gan ddefnyddio iaith syml a chynnwys diddorol.

Fel eiriolwyr dros hawliau plant a democratiaeth yng Nghymru, mae ein gofynion ar y cyd yn syml:

  • rydym am i bob plaid wleidyddol gyfathrebu eu haddewidion maniffesto i bobl ifanc mewn ffordd sy’n ymgysylltu, hawdd ei ddeall, ac yn berthnasol iddynt;
  • rydym am i’r cynnwys o’ch maniffestos plaid gael ei rannu lle mae pobl ifanc yn debygol o ddarllen a dysgu amdano (er enghraifft, trwy gyfrifon a sianeli cyfryngau cymdeithasol perthnasol); a
  • hoffem i chi fod yn agored i Hustings neu ddigwyddiadau cwestiwn ag ateb tebyg, a fydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phleidleiswyr iau a phleidleiswyr tro cyntaf.

Gellir dod o hyd i ddadansoddiad pellach o’r pôl diweddaraf hwn gan swyddfa’r Comisiynydd yma, gan gynnwys cyngor gan blant a phobl ifanc am yr hyn y byddent yn ei ddisgwyl o faniffesto a ble y byddent yn mynd i ddarllen / cael mynediad at y wybodaeth honno.

Gyda diolch,

Rocio

Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru, gyda chefnogaeth gan:  

Y Comisiwn Etholiadol, Cymru

Plant yng Nghymru, y corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.