money on a table

Bysiau £1 i blant a phobl ifanc

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n cyflwyno prisiau bws £1 i blant a phobl ifanc yng Nghymru o fis Medi 2025.

Rydym wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth allweddol am y cyhoeddiad hwn isod.

Prisiau bws £1 i blant a phobl ifanc yng Nghymru -pethau pwysig

  • Bydd pobl ifanc 16-21 oed yn gallu cael prisiau bws rhad o fis Medi 2025
  • Bydd plant 5-15 oed yn gallu gwneud hyn o fis Tachwedd 2025
  • Bydd prisiau tocynnau sengl yn costio £1 ar weithredwyr sy’n cymryd rhan tra bydd tocynnau dydd yn costio £3
  • Bydd angen Fy Ngherdyn Teithio ar bobl ifanc 16-21 oed i hawlio eu pris iself

Fy Ngherdyn Teithio i bobl ifanc

Mae Fy Ngherdyn Teithio am ddim ac ar gael o wefan Fy Ngherdyn Teithio.

Ymateb y Comisiynydd i’r cyhoeddiad am brisiau bysiau

Croesawodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, y cyhoeddiad, gan nodi’r galwadau y mae wedi’u gwneud am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim ers dod yn Gomisiynydd Plant yn 2022.

Ein tîm Cynghori

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â’n tîm Cyngor.

Gall y tîm gefnogi pob plentyn a pherson ifanc (neu eu rhieni/gofalwyr, neu weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw) hyd at 18 oed sy’n byw yng Nghymru. Os oes gennych brofiad o ofal, gallan nhw eich cefnogi nes eich bod yn 21 oed, neu nes eich bod yn 25 oed os ydych mewn addysg amser llawn.