school bags on pegs

Beth i’w wneud os nad yw eich plentyn wedi cael lle mewn ysgol

Mae ein tîm Cyngor wedi clywed gan rieni sy’n poeni nad yw eu plentyn wedi cael ei osod mewn ysgol eto ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Beth i’w wneud os nad yw eich plentyn wedi cael lle mewn ysgol eto

Os nad yw eich plentyn wedi cael lle yn unrhyw un o’ch dewisiadau ysgol:

  • Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol am leoliad ysgol, cysylltwch â thîm derbyniadau’r awdurdod lleol ar unwaith.
  • Os oes gennych apêl ar hyn o bryd, dylech wneud cais am ysgol arall o hyd. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich apêl. Mae hwn yn gam pwysig i’w gymryd i sicrhau nad yw’ch plentyn yn cael ei adael heb ysgol ym mis Medi a’i fod yn gallu cael mynediad at ei hawl i addysg, i chwarae, ac i gymdeithasu.

Ein tîm Cyngor

Mae’n Tîm Cyngor a Chymorth Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim sydd yno i gynghori a chynorthwyo plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

Meysydd y gallwn helpu gyda nhw

Ein nod bob amser yw rhoi cyngor neu gefnogaeth i chi’n uniongyrchol, neu i’ch cyfeirio i’r cyfeiriad cywir. Er ein bod yn ceisio helpu gydag unrhyw fater sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, mae llawer o’n gwaith yn ymwneud â:

  • Hawliau addysgol
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Mynediad at iechyd
  • Cwynion

Bydd ein Tîm Cyngor cyfeillgar yn gwrando arnoch chi i ddeall eich sefyllfa cyn cynnig cyngor neu gymorth i chi. Os na allwn eich helpu, byddwn yn ceisio dod o hyd i rywun arall i’ch helpu. Sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni, ein nod yw cysylltu â chi o fewn 3 diwrnod gwaith i’ch cyswllt cychwynnol.

Cysylltwch â ni