Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE)

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan o’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac mae’n rhaid i ysgolion yng Nghymru ddysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o fis Medi 2022, gan ei chyflwyno’n raddol.

Beth yw barn y Comisiynydd Plant am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cefnogi cynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn Neddf y Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o gydberthynas a rhywioldeb. Bydd hyn yn helpu i rymuso plant a phobl ifanc â’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i wneud dewisiadau gwybodus ac i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Pa hawliau plant sy’n cael eu cefnogi gan Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb effeithiol, o safon uchel, yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn profi eu hawliau o dan CCUHP, gan gynnwys:

  • yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn (Erthygl 2)
  • yr hawl i gael eu clywed, i fynegi barn ac i fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir (Erthygl 12);
  • yr hawl i gael mynediad i wybodaeth (Erthygl 17);
  • yr hawl i brofi’r iechyd gorau posibl, mynediad at gyfleusterau iechyd, gofal iechyd ataliol, ac addysg a gwasanaethau cynllunio teulu (Erthygl 24)
  • yr hawl i addysg sy’n cefnogi pob plentyn i ddatblygu a chyflawni hyd eithaf eu potensial, ac yn paratoi plant i ddangos dealltwriaeth wrth ymdrin ag eraill (Erthygl 29)
  • yr hawl i amddiffyniad gan y llywodraeth rhag cam-drin ac ecsbloetio rhywiol (Erthygl 34).

Beth yw’r gyfraith a’r canllawiau gan y Llywodraeth?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Côd a Chanllawiau ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Rhaid i leoliadau addysg ddilyn y canllawiau hyn wrth gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Ble gallwch chi gael hyd i wybodaeth i rieni, gofalwyr a phobl ifanc?

Mae ystod o wybodaeth ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar blatfform Hwb y Llywodraeth.

Pryd bydd plant yn dysgu am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Bydd plant a phobl ifanc yn datblygu eu dealltwriaeth ar hyd eu dysgu. Mae’r Côd a’r Canllawiau’n nodi bod angen i athrawon sicrhau bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn briodol ar gyfer datblygiad plant a phobl ifanc. Ystyr priodol i’w datblygiad yw bod plant yn dysgu am gydberthynas a rhywioldeb mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran, eu profiadau a’u dealltwriaeth.

Beth os wyf fi am gael rhagor o wybodaeth?

Mae disgwyl i ysgolion rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau penodol ynghylch plentyn rydych chi’n gyfrifol amdanynt, trafodwch nhw gydag ysgol y plentyn. Gallwch chi ofyn am weld polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yr ysgol, a gallwch chi ofyn hefyd i’r athrawon rannu eu gweithgareddau a’u hadnoddau gyda chi.

Beth os wyf fi’n pryderu?

Gall swyddfa’r Comisiynydd ymchwilio i unrhyw faterion sy’n torri hawliau plant, a rhoi cyngor arnyn nhw. Os bydd gennych chi bryderon penodol ynghylch lleoliad neu blentyn unigol, mae croeso i chi gysylltu â’n gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor.