Ein gwaith ar gydraddoldeb a’r iaith Gymraeg

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn awdurdod rhestredig o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Mae hwn yn golygu bod yn rhaid i ni ddilyn y ‘dyletswyddau cyffredinol’ i hyrwyddo cydraddoldeb.

Darllenwch fwy am y Deddf Cydraddoldeb 2011 a’r dyletwysddau cyffredinol

Ein Hamcanion Strategol Cydraddoldeb 2023 – 2027

Darllenwch ein Datganiad ar Gwrth-Hiliaeth

Mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn ein sefydliad. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu’r canlynol:

  • Mae’r tîm yn defnyddio’r iaith bob dydd, ym mhob agwedd ar ein gwaith;
  • Nid dim ond i gyfleu negeseuon rydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg; mae’n ddolen gyswllt rhyngon ni a’n gilydd, ac â’r rhai rydyn ni yma i’w cynrychioli;
  • Ymhlith aelodau’r Tîm sydd ddim yn siarad Cymraeg mae ewyllys da ac ymdeimlad o berchnogaeth at ddysgu a defnyddio’r iaith;
  • Mae pawb yn cydnabod cyfraniad yr iaith i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru;
  • Rydyn ni’n cyflawni, ac mewn rhai achosion yn rhagori ar ein rhwymedigaethau statudol o dan y safonau sydd wedi’u hamlinellu ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
  • Mae perchnogaeth ar ein dyheadau o ran cydymffurfio, hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg ar lefel y Tîm Rheoli; ac
  • Rydyn ni’n monitro ein gweithgareddau trwy gyfarfodydd y Tîm Rheoli, yn derbyn cyfrifoldeb ar y cyd, ac yn cytuno ar gamau rhagweithiol i gefnogi a chynyddu defnydd o’r iaith yn ein gweithle.

Dyma fwy o wybodaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg am yr hyn ddylsen ni fod yn gwneud fel sefydliad i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg:

HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO – ADRAN 44 MESUR Y GYMRAEG (CYMRU) 2011

Fe allwch chi ddarllen mwy yma am y Gymraeg yn ein gweithle a mwy am yr hyn rydym yn gwneud i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg:

Cymraeg ein gweithle