Iechyd meddwl a llesiant emosiynol babanod, plant a phobl ifanc – adroddiad ar ganfyddiadau ein hymarferiad ymgysylltu.
Ar sail ein harolwg cenedlaethol graddfa fawr ein hunain yn hydref 2022, a gwaith pobl eraill, rydyn ni’n gwybod mai iechyd meddwl a llesiant yw un o’r materion mae plant a phobl ifanc yn pryderu fwyaf yn ei gylch. Mae hynny’n wir hefyd am rieni a gofalwyr; a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi babanod, plant a phobl ifanc. Mae’r Comisiynydd wedi datgan mai un o’i phedwar blaenoriaeth strategol yn ei strategaeth tair-blynedd ar gyfer 2023-26 yw iechyd meddwl a llesiant emosiynol.
Ym mis Rhagfyr 2024 a Ionawr 2025, fe wnaethon ni gynnal 4 sesiwn grŵp ffocws gyda phobl ifanc; a 3 digwyddiad bord gron gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc, a throstyn nhw, a hynny ar draws y sector statudol a’r trydydd sector.
Strwythurwyd y sesiynau o amgylch 5 thema allweddol:
- Diffinio a iaith yng nghyswllt iechyd meddwl, a llesiant emosiynol
- Cefnogaeth yn y gymuned i iechyd meddwl a llesiant emosiynol
- Cefnogaeth yn yr ysgol i iechyd meddwl a llesiant emosiynol
- Cefnogaeth a gwasanaethau arbenigol i blant ag anghenion cymhleth
- Blaenoriaethau a negeseuon allweddol i’r Comisiynydd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru
Roedden ni’n awyddus i drafod enghreifftiau o arfer da, a phrofiadau cadarnhaol o’r hyn sy’n gweithio, yn ogystal â’r heriau ac enghreifftiau o brofiadau gwael. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau dethol o arfer da.
Os hoffech chi wybod mwy am ein barn a’n gwaith ar bolisi iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, gallwch chi ddarllen ein papur safbwynt yma.
Diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymarferiad hwn.
Y cyd-destun polisi diweddar
Ym mis Chwefror 2024, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Strategaeth newydd ddrafft ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant i bob oed. Mae’r strategaeth derfynol, a chynllun cyflawni i gyd-fynd â hi, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025.
Yn ein Hadroddiad Blynyddol yn 2022-23, fe wnaethon ni argymell:
Y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu’n glir ac yn derbyn sylw yn eu Strategaeth Iechyd Meddwl newydd, a bod argymhellion adroddiad ‘Meddyliau Iau o Bwys’ y Senedd Ieuenctid yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaeth hon.
Ymateb Llywodraeth Cymru oedd:
Wrth i ni ddatblygu’r strategaeth fe fyddwn ac fe fuom yn ymgysylltu â phobl ifanc i sicrhau ei bod yn adlewyrchu eu hanghenion. Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cwrdd â’r Senedd Ieuenctid i drafod yr adroddiad Meddyliau Iau o Bwys, ac mae bwriad i gynnal sesiynau pellach. Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â’r ymgysylltu â grwpiau eraill, yn llywio’r strategaeth derfynol.
Yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24, fe wnaethon ni argymell:
Y dylai Llywodraeth Cymru, o fewn blwyddyn ariannol 2024/25, gyhoeddi cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc.
Ymateb Llywodraeth Cymru oedd:
Rydyn ni’n cydnabod y gall fod gan blant a phobl ifanc anghenion penodol, ac rydym wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth iechyd meddwl ar eu cyfer. Fodd bynnag, rydym o’r farn mai’r dull gorau o gyflwyno’r gwelliannau hynny fyddai ymgorffori’r ddarpariaeth mewn cynllun cyflawni sy’n ystyried iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth gyfan. Bydd hynny’n helpu i sicrhau bod y gefnogaeth yn berson-ganolog ac yn ymateb i anghenion, yn hytrach na dilyn trothwyon oed. Bydd y Strategaeth yn parhau â’n ffocws ar bobl ifanc trwy flaenoriaethu’r blynyddoedd cynnar, rhoi ein fframwaith NEST/NYTH ar waith, a’n gwaith mewn ysgolion.
Beth rydyn ni’n ei olygu wrth iechyd meddwl a llesiant?
Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol beth roedden nhw’n meddwl oedd ystyr y termau ‘iechyd meddwl’ a ‘llesiant’, ydyn nhw’n wahanol, neu beth yw’r berthynas rhyngddyn nhw:
“Llesiant da yw atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu” – Person Ifanc
“Ystyr iechyd meddwl a llesiant da yw teimlo’n saff, yn ddiogel, a’ch bod yn cael cefnogaeth; gydag ymdeimlad o berthyn a phwrpas” – Gweithiwr Proffesiynol
“Mae gwydnwch yn bwysig, mae iechyd meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth negyddol, a dylai gael ei weld fel rhywbeth cadarnhaol; sut rydyn ni’n teimlo o ran ein hunain, ac effaith hynny ar ein rhyngweithio a sut rydyn ni’n delio â phethau” – Person Ifanc
“Mae gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl a llesiant. Yn rhy aml maen nhw’n cael eu cyfuno’n un peth. Mae iechyd meddwl yn ymwneud â iechyd a sefydlogrwydd emosiynol yr ymennydd, tra bod llesiant yn golygu gweithrediad cadarnhaol ehangach, mwy cyffredinol. Gall fod gennych chi iechyd meddwl gwael, ond llesiant cadarnhaol, ac fel arall” – Gweithiwr Proffesiynol
“Dwy ddim yn credu bod cytundeb ynghylch pa mor dda mae rhaid i iechyd meddwl fod i fod yn dda” – Gweithiwr Proffesiynol
“Dylen ni deimlo’n iawn am ddefnyddio’r term iechyd meddwl – mae e gan bob un ohonon ni, yn dda a drwg. Mae’n fater o adnabod yr offer pan fydd cyfnodau hir o ddiwrnodau gwael” – Gweithiwr Proffesiynol
Dywedodd pobl ifanc wrthyn ni fod:
- Llesiant emosiynol yn golygu ffynnu, nid dim ond goroesi; hapusrwydd; a gallu bod ag agwedd bositif at fywyd
- Mae llawer o stigma a beirniadaeth yn dal yn gysylltiedig â iechyd meddwl a llesiant emosiynol
- Bydden nhw’n hoffi i’r berthynas rhwng llesiant emosiynol, corfforol a chymdeithasol gael ei deall, ei gwerthfawrogi a’i chefnogi’n iawn
- Mae’r iaith a’r tabŵ ynghylch iechyd meddwl a llesiant yn amrywio yn ôl diwylliant, ac o ganlyniad mae’n hanfodol ystyried amgylchiadau unigol
Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthyn ni fod:
- Iechyd meddwl da yn golygu perthnasoedd llawn ymddiriedaeth; teimlo’n saff ac yn ddiogel; sut mae person yn teimlo amdanyn nhw eu hunain ac ymdopi/dod i ben.
- Mae’n bwysig defnyddio’r iaith mae pobl ifanc yn ei defnyddio’u hunain. Enghraifft gan un cyfranogwr oedd y gallai plant a phobl ifanc sôn am deimlo’n drist, wedi ypsetio, neu’n unig. Yn aml nid iechyd meddwl yw’r term cyntaf maen nhw’n ei ddefnyddio.
- Mae angen datblygu iaith a rennir ar draws gwasanaethau oherwydd bod amrywiadau o ran diffiniad a dealltwriaeth rhwng gwasanaethau. Yn aml mae dryswch o ran terminoleg a iaith, ac maen nhw’n amrywio o un gweithiwr proffesiynol i’r nesaf.
- Ar y cyd, mae angen i ni ystyried a rhoi sylw i benderfynyddion ehangach iechyd meddwl gwael – tlodi neu sefyllfa tai er enghraifft. Mae angen i ni sicrhau ymateb cyfannol ar sail y model cymdeithasol, yn hytrach na’r model meddygol o ofal iechyd.
- Mae angen i ni nodi’n gliriach beth yw union ystyr iechyd meddwl da, a sut mae’n edrych i fabanod, plant a phobl ifanc.
Dyma oedd y themâu mwyaf poblogaidd yn y data:
- Y teimlad bod problem gyda’r iaith a ddefnyddir, a chyfuno cysyniadau iechyd meddwl a llesiant.
- Mae angen defnyddio’r iaith mae pobl ifanc yn ei defnyddio i ddisgrifio’u teimladau – gofynnwch iddyn nhw!
- Pwysigrwydd teimlo’n ddiogel a bod â pherthnasoedd llawn ymddiriedaeth; ac effaith y perthnasoedd hynny ar eu gallu i reoli teimladau a meddyliau.
- Effaith ffactorau allanol ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc, gan gynnwys tlodi a phrofiadau bywyd eraill.
Cefnogaeth y gymuned
Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol beth mae cefnogaeth dda yn y gymuned yn gwneud, neu sut dylai edrych.
“Gwasanaethau ieuenctid sy’n derbyn digon o arian, mannau diogel i bobl ifanc eu defnyddio a chwrdd â chyfoedion a gweithwyr ieuenctid” – Person ifanc
“Dylai cefnogaeth gymunedol fod yn hawdd ei chyrchu, yn anfeirniadol, yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn gefnogol, yn gyfannol, a chanolbwyntio ar ataliaeth, ymyrraeth gynnar a chynnwys y teulu cyfan” – Gweithiwr Proffesiynol
“Fe ges i weithiwr cefnogi’n dod i’r tŷ, oedd yn wych achos mod i mewn lle cyfforddus” – Person ifanc
“Mae arnon ni angen dull gweithredu amlasiantaeth, sy’n cydnabod arbenigedd y plentyn, y teulu neu eraill sy’n gweithio gyda nhw” – Gweithiwr Proffesiynol
“Lle digynnwrf gyda gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd, fel cwnselwyr neu weithwyr iechyd meddwl, sy’n empathetig, yn amyneddgar, ac yn fedrus yn tawelu argyfyngau. Byddai’r staff yn dod atoch chi heb feirniadu, ac yn eich parchu, gan gynnig opsiynau heb eich gorfodi” – Person ifanc
“Mae arnon ni angen llwybrau estynedig, integredig gwell rhwng ac ar draws gwasanaethau a sectorau. Llai o gadw problemau ar wahân, a mwy o ddulliau gweithredu systemig cyfannol” – Gweithiwr Proffesiynol
“Cael cefnogaeth llesiant o fannau mae pobl ifanc yn mynd iddyn nhw, fel addoldai, clybiau chwaraeon, clybiau hobïau, llyfrgelloedd, hybiau” – Person ifanc
“Byddai’n wych gweld hybiau cymunedol yn datblygu ar draws pob ardal i deuluoedd gael mynediad at gyngor a chefnogaeth ar ‘stepen y drws’, a bod staff a hyfforddwyd yn briodol yn yr hybiau hynny er mwyn nodi’r angen a darparu’r gefnogaeth angenrheidiol, neu gyfeirio ymlaen yn briodol” – Gweithiwr Proffesiynol
Dywedodd y Bobl Ifanc wrthyn ni y bydden nhw’n hoffi:
- Mannau diogel mewn argyfwng yn y gymuned, y gall pobl ifanc fynd iddyn nhw er mwyn siarad â rhywun neu dreulio amser, gan wybod eu bod nhw’n ddiogel.
- Lle digynnwrf gyda gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd, fel cwnselwyr neu weithwyr iechyd meddwl, sy’n empathetig, yn amyneddgar, ac yn fedrus yn tawelu argyfyngau. Byddai’r staff yn dod atoch chi heb feirniadu, ac yn eich parchu, gan gynnig opsiynau heb eich gorfodi.
- Darpariaeth gymunedol fwy hygyrch sy’n cefnogi llesiant, gan gynnwys y rhai ag anableddau – mae hynny’n cynnwys clybiau/gwasanaethau ieuenctid, grwpiau cefnogi LHDTC+, llyfrgelloedd, nofio ac eraill.
Dywedodd y gweithwyr proffesiynol wrthyn ni fod angen sicrhau:
- Dulliau gweithredu tîm amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth – dim drws anghywir, un pwynt mynediad a dulliau gweithredu un llwybr. Mae cysylltu llwybrau yn allweddol – mae angen rhannu cynlluniau llwybr ar draws gwasanaethau ac ar draws daearyddiaeth, ac i’r rheiny fod yn glir ac yn hygyrch.
- Ymyrraeth gynnar o ran dechreuad iechyd meddwl gwael, ac o ran cefnogi plant yn gynharach, gan gynnwys cefnogi iechyd meddwl rhieni a phlant bach.
- Gwell hygyrchedd: cwrdd â phobl ifanc lle maen nhw – gan gynnwys dealltwriaeth o’u hamgylchiadau, a allai gynnwys oes ganddyn nhw brofiad o ofal, ydyn nhw’n byw mewn tlodi, neu ydyn nhw yn y system cyfiawnder ieuenctid neu â phrofiad ohoni.
- Gwell defnydd o’r Trydydd Sector a phartneriaeth ag ef, sy’n rhy aml heb gysylltiad llawn â’r gwasanaethau statudol, sy’n arwain at ddyblygu prosiectau a rolau. Gallai Llywodraeth Cymru a’r GIG sicrhau arbedion trwy gefnogi prosiectau trydydd sector sydd eisoes yn bodoli.
- Mynegwyd teimlad bod gennym ni enghreifftiau o arfer da, ond bod gwasanaethau heb yr offer na’r adnoddau i ehangu’r rheiny’n llwyddiannus.
Y themâu mwyaf poblogaidd yn y data oedd:
- Gwasanaethau amlasiantaeth ac amlddisgyblaeth / un pwynt mynediad yw’r rhai mwyaf cefnogol i blant.
- Dylai dulliau gweithredu ‘teulu cyfan’ neu ‘blentyn cyfan’ gael eu hymarfer yn ehangach, a dylen nhw fod ar gael i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf, gyda chefnogaeth i fabanod a phlant bach yn cael ei hystyried, yn ogystal ag anghenion plant a phobl ifanc hŷn.
O dan y testun hwn cyfeiriwyd at lawer o enghreifftiau a ddisgrifiwyd fel arfer da. Mae’r rhain yn cynnwys:
- The Hangout, Caerdydd a’r Barri. Mannau yw’r rhain a luniwyd i roi cyfle i bobl ifanc gwrdd ag eraill ac ymuno â grwpiau, cael mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl, a dod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli. Mae yng ngofal Platfform ac yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
- Paneli SPACE-Wellbeing Gwent – paneli amlasiantaeth sy’n cwrdd bob wythnos i drafod a chytuno ar gynlluniau ar gyfer plant sydd ag anghenion iechyd meddwl a llesiant emosiynol.
- AP Cymru. Mae’r elusen niwroamrywiaeth hon yn cynnal sesiynau a digwyddiadau teulu i blant a phobl ifanc niwroamrywiol a’u teuluoedd – disgrifiodd y bobl ifanc hyn fel lle cyfeillgar, diogel i gwrdd â chyfoedion.
- YEPS – darpariaeth gwaith ieuenctid yn Rhondda Cynon Taf.
- Gwasanaeth llesiant teuluoedd Barnardo’s, Caerdydd. Ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i deuluoedd, gydag angen a nodwyd am gefnogaeth mewn perthynas â llesiant emosiynol a iechyd meddwl, ond o dan y lefel lle byddai ganddyn nhw hawl i wasanaeth iechyd arbenigol a/neu ofal a chefnogaeth statudol.
- Mind Our Future Gwent, yn cael ei ddarparu gan ProMo Cymru mewn cydweithrediad â Mind Casnewydd. Prosiect pum mlynedd yw hwn, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, gyda’r nod o lunio atebion arloesol i atal heriau iechyd meddwl rhag codi neu waethygu ar draws Gwent. Mae 11 o bobl ifanc yn cydweithio ar y cyd gyda’r prosiect, a’u gwaith yw bod yn Ddylunwyr Gwasanaethau Cymheiriaid.
- Timau iechyd meddwl Rhieni-Babanod. Mae rhagor o wybodaeth am waith y timau presennol yng Nghymru i’w gweld yma
- Gwasanaeth ataliol yr NSPCC, Pregnancy in Mind – cefnogi iechyd meddwl rhieni yn ystod beichiogrwydd.
- Meic Cymru – mae’n cynnig 16 awr y dydd o lwybr sengl at wybodaeth, cyngor, eiriolaeth gefnogol, atgyfeirio, cyfeirio ymlaen ac ymyriadau sy’n canolbwyntio ar atebion.
- Fframwaith NEST / NYTH. Offeryn cynllunio yw NEST/ NYTH ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Gwasanaeth ffôn 111 gwasgu 2. Cynhaliodd Coleg Brenhinol Seiciatreg Cymru adolygiad blwyddyn 1 o’r gwasanaeth hwn sy’n dangos bod trallod 99.7% o’r galwyr o dan 18 oed wedi lleihau ar ôl galw 111 gwasgu 2, a hynny 25% ar gyfartaledd.
Cefnogaeth yr ysgol
Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sut mae neu sut dylai cefnogaeth dda edrych yn eu hysgol.
“Mae llawer o fy ffrindiau’n troi at staff llesiant am gefnogaeth yn y coleg ac rydyn ni’n teimlo bod dim digon o hyfforddiant i staff; mae’n bwysig bod staff yn cael hyfforddiant, achos mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu diystyru, a dyw rhai pethau ddim wedi cael sylw” – Person ifanc
“Mae gan lawer o ysgolion gefnogaeth llesiant gwych. Mae’n mynd yn anodd i rai pobl ifanc sydd ddim yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd neu sy’n cael trafferth yn yr ysgol am amrywiaeth o resymau” – Gweithiwr Proffesiynol
“Rhywbeth cadarnhaol yn chweched dosbarth yr ysgol sy’n gwthio’r Dim drws anghywir yw bod disgyblion yn troi at ddisgyblion chweched dosbarth fel cefnogwyr cyfoedion yn y clybiau rydyn ni’n eu rhedeg, a byddan nhw’n siarad am eu hiechyd meddwl” – Person ifanc
“Mae angen i athrawon a staff ysgolion deimlo’n hyderus i ymateb i arwyddion a symptomau cam-drin ac esgeuluso, a sut mae ymateb i ddatgeliadau posibl” – Gweithiwr Proffesiynol
“Dylai fod gwell opsiynau pan gewch chi’ch gwahardd o’r ysgol – addysgu gartref trwy’r ysgol, mynediad at unedau cyfeirio disgyblion a mwy o ysgolion iechyd meddwl arbenigol” – Person ifanc
“Mae llawer o apwyntiadau CAMHS yn ystod y diwrnod ysgol – ddylai hynny ddim digwydd – mae academia’n bwysig, ac mae gorfod gadael yn achosi straen” – Person ifanc
“Mae cosbau llym mewn rhai ysgolion – mae bod 5 munud yn hwyr yn cael ei weld yn beth difrifol iawn” – Person ifanc
“Mae’n dda gweld rhai ysgolion hefyd yn edrych ar ddulliau gweithredu sy’n meithrin perthynas a chefnogi ymddygiad yn hytrach na chosbi – mae yna newid meddylfryd” – Gweithiwr Proffesiynol
Dywedodd pobl ifanc wrthyn ni:
- Mae angen mwy o hyfforddiant ac adnoddau i athrawon a all fod heb wybodaeth na dealltwriaeth o anghenion iechyd meddwl a llesiant, ac maen nhw’n teimlo bod diffyg tosturi weithiau.
- Mae bwlio, pwysau arholiadau a phwysau cyfoedion yn cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant.
- Gall fod diffyg preifatrwydd wrth gyrchu cefnogaeth yn yr ysgol.
- Dywedodd rhai pobl ifanc wrthyn ni fod dim digon o gefnogaeth i anabledd corfforol, a bod hynny wedyn yn effeithio ar eu llesiant emosiynol a chymdeithasol.
- Mae angen gwell cefnogaeth i blant sydd ddim yn yr ysgol, neu sydd ddim yn yr ysgol yn rheolaidd.
- Mae angen gwell cysylltiadau rhwng gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc mewn ysgolion – yn arbennig rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, ac addysg.
- Mae ymyrraeth a chefnogaeth yn yr ysgol yn cael eu croesawu (gweithdai / gwasanaethau).
- Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi cefnogaeth cyfoedion, athrawon a staff cefnogi.
- Niwroamrywiaeth: Mae diffyg cefnogaeth os na chafwyd diagnosis, ac mae ysgolion yn mynnu prawf o ddiagnosis. Mae dibyniaeth ar athrawon i adnabod ADHD/awtistiaeth, ond teimlad eu bod nhw heb adnoddau/hyfforddiant digonol.
Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthyn ni:
- Mae nifer o heriau i gefnogaeth yn yr ysgol, yn enwedig o ran capasiti ac adnoddau. Mae ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu llethu gan lefel yr angen, a dyw staff ddim yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi nac yn hyderus i ddelio â’r materion sy’n cael eu hwynebu.
- Teimlai rhai fod angen mwy o gapasiti CAMHS i gefnogi ysgolion.
- Staff ysgol ‘ar y llawr’ sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf – “Cynorthwywyr Dysgu, Gweithwyr Ieuenctid a gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yw’r pwyntiau cyswllt allweddol i blant, nid y staff drud”
- Nododd gweithwyr proffesiynol fod gan rai ysgolion swyddog dynodedig, er iddynt nodi y gall hynny fod yn heriol os nad yw’r plentyn neu’r person ifanc yn gyfforddus yn siarad â’r oedolyn dan sylw.
- Mae heriau’r broses yn cynnwys diffyg cydgynhyrchu â rhieni, y ffaith nad yw’r broses atgyfeirio’n glir o fewn ysgolion, a’r angen am gefnogaeth bontio rhwng cerrig milltir allweddol.
- Mae cwnsela yn yr ysgol yn ddarpariaeth rhy gyfyngedig, ac nid yw’n gyfartal ledled Cymru. Hefyd nid yw bob amser yn ddarpariaeth briodol i’r plentyn neu’r person ifanc, ond maen nhw’n cael eu cyfeirio yno beth bynnag oherwydd bod yr opsiynau eraill yn gyfyngedig.
- Sut mae atebolrwydd y dull gweithredu ysgol gyfan yn edrych o bersbectif plentyn neu berson ifanc – sut rydyn ni’n monitro ac yn adrodd ar gynnydd? Sut mae hyn yn atebol i brofiadau plant a phobl ifanc?
Y themâu mwyaf poblogaidd yn y data oedd:
- Mae ysgolion wedi’u llethu a heb ddigon o adnoddau.
- Gall fod dulliau cosbi llym diangen mewn ysgolion, sy’n effeithio ar lesiant emosiynol, heb wybodaeth am drawma.
- Mae cwnsela yn adnodd cyfyngedig ac nid yw bob amser yn briodol.
- Diffyg mynediad at unrhyw gefnogaeth i’r rhai nad ydynt yn yr ysgol yn rheolaidd, sy’n cael eu haddysgu rywle heblaw’r ysgol, neu sy’n derbyn eu haddysg gartref.
- Dim digon o gynhyrchu ar y cyd â phlant a theuluoedd.
- Pwysigrwydd buddsoddi mewn Cynorthwywyr Dysgu, ELSAs (Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol), a staff bugeiliol / cefnogi.
O dan y testun hwn soniwyd am lawer o enghreifftiau oedd yn cael eu disgrifio fel arfer da. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhaglen In-Reach CAMHS, sydd ar waith ar draws Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma am un enghraifft, ym Mae Abertawe.
- Ysgolion sy’n hybu iechyd a llesiant.
- Dulliau cydlynus o weithredu gan glybiau ysgol a ieuenctid.
- Therapyddion Galwedigaethol wedi’u gwreiddio mewn ysgolion ym Mae Abertawe
- Bod â swyddog llesiant dynodedig ac ystafell/a lle ar gyfer llesiant.
- Ysgolion yn defnyddio dulliau gweithredu i gefnogi perthnasoedd ac ymddygiad sydd ddim yn cosbi, gan gynnwys gwreiddio’r Fframwaith Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) mewn ysgolion.
- ELSAs (Cynorthwywyr Cefnogi Llythrennedd Emosiynol) – mae gwerthusiad o werth ELSAs wedi digwydd yn Sir Benfro, ac wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Educational Psychology in Practice (Mai 2024).
- Ysgolion bro – “…sy’n golygu bod mwy o wybodaeth ar gael i rieni – mae hynny’n eu cynnwys mewn sgyrsiau ynghylch llesiant a iechyd meddwl. Bydd yn golygu eu bod yn gallu cychwyn sgwrs lle maen nhw’n gwybod â phwy dylen nhw siarad os ydyn nhw’n pryderu”
- Fforymau amlasiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr addysg a iechyd, i gefnogi datrys problemau ar gyfer plant a phobl ifanc unigol a’u teuluoedd
- Dull gweithredu ysgol gyfan Gwent (Cynefin)
- Cyngor Sir Caerfyrddin – bu’n siarad â holl arweinwyr gofal bugeiliol y sir ynghylch sut mae llunio a gweithredu polisi ysgolion mwy diogel i ddelio â hunan-niweidio a hunanladdiad.
Cenfnogaeth arbenigol / anghenion cymhleth
Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sut mae neu sut gallai cefnogaeth dda edrych i’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol, neu sydd ag anghenion cymhleth sy’n cynnwys anghenion iechyd meddwl.
“Dylai fod gan wasanaethau fwy o opsiynau cefnogaeth mewn argyfwng heblaw cael eich derbyn i’r ysbyty neu eich anfon adref heb ddim. Mae angen ailagor y canolfannau dydd ar gyfer argyfyngau!” – Person ifanc
“Mae pobl yn mynd heb ddiagnosis oherwydd yr aros” – Person ifanc
“Mae’r ddarpariaeth arbenigol yn boddi. Mae’r rhestrau aros yn hir ofnadwy. Yn aml mae defnydd o’r model meddygol yn atal pobl rhag cael mynediad at ddarpariaeth arbenigol” – Gweithiwr Proffesiynol
“Mae angen i rywun roi sylw i’r pontio o wasanaethau plant i rai oedolion, achos mae diffyg cefnogaeth – ar ddiwedd CAMHS fe ges i fy rhyddhau o’r gwasanaethau plant a gorfod ymuno â rhestr aros ar gyfer gwasanaethau oedolion a dechrau o’r dechrau eto” – Person Ifanc
Dywedodd pobl ifanc wrthyn ni:
- Mae llawer o stigma / feirniadaeth ynghylch cyflyrau iechyd meddwl
- Dylai gwasanaethau CAMHS roi gwerth i lais y person ifanc gynta, a dangos hynny yn sut maen nhw’n gweithredu
- Mae angen pontio mwy hwylus o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, gan fod llawer o bobl ifanc heb brofi hynny, ac mae’r broses ei hun yn gallu achosi trawma
- Dylai dulliau gweithredu person-ganolog gael eu gwreiddio ar draws gofal iechyd meddwl, gan gynnwys wrth drafod diagnosis; darparu therapi; mewn gwasanaethau profedigaeth; ac wrth gefnogi teuluoedd a gofalwyr.
- Anghysondeb rhwng ardaloedd o ran hygyrchedd gwasanaethau arbenigol
- Mae ‘canol coll’ o bobl ifanc sy’n cael eu hystyried ‘ddim yn ddigon gwael’ i dderbyn un gwasanaeth, ond yn ‘rhy wael’ i un arall, felly dyw’r gefnogaeth iawn ddim yno iddyn nhw.
Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthyn ni:
- Mae pobl ifanc sydd mewn argyfwng yn aml yn dal heb fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gwasanaethau arbenigol, a mynegodd gweithwyr proffesiynol bryder ynghylch y neges mae hynny’n ei roi i bobl ifanc ynghylch beth sydd angen digwydd cyn bydd rhywun yn eu helpu.
- Mae angen i’r gwaith ataliol yn y gymuned ac mewn ysgolion wella er mwyn cefnogi gwasanaethau arbenigol.
- Nid yw ansawdd y gofal mewn argyfwng yn gyson ar draws Cymru.
- Bod gwasanaethau CAMHS ddim yn hygyrch, a bod ‘loteri côd post’, yn arbennig i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
- Dylen ni fod yn dylunio gwasanaethau ar y cyd â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys profiadau o wardiau a mannau mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio.
- Mae angen cefnogaeth broffesiynol, gwybodus am drawma, mewn amgylchedd lle mae plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus.
- Cefnogaeth i grwpiau lleiafrifol sy’n wynebu mwy o risg hunan-niweidio a hunanladdiad. Dylai fod gwasanaethau cefnogi arbenigol, hygyrch i bawb ar gael i blant sydd â phrofiad o ofal a phlant heb eu hebrwng sy’n ceisio lloches.
- Dylai’r cynnig eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol gael ei estyn i bob plentyn a pherson ifanc sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl.
Dyma oedd y themâu mwyaf poblogaidd yn y data:
- Mae angen mwy o ffocws ar ymyrraeth gynnar i ddiogelu adnoddau arbenigwyr; ond yna mae angen i arbenigwyr gefnogi’r ymyriadau cynnar hynny.
- Yr angen am well gofal mewn argyfwng.
- Rhwystrau ariannol i gyrchu cymorth/lle.
- Gwybodus am drawma / dim beirniadu.
- Cyd-ddylunio gwasanaethau, gan gynnwys profiad o wardiau a lleoedd.
- Angen cefnogaeth Iechyd Meddwl arbenigol ar gyfer rhieni a babanod.
- Hygyrchedd i bawb; cefnogaeth ychwanegol i grwpiau lleiafrifol.
- Dylai fod mwy o wybodaeth am wasanaethau arbenigol i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. “Pam mae CAMHS arbenigol mor guddiedig?”
O dan y testun hwn soniwyd am lawer o enghreifftiau a gafodd eu disgrifio fel arfer da. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y gwasanaethau Noddfa Iechyd Meddwl sy’n cael eu modelu ar draws Cymru. Ceir un enghraifft yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
- Tîm Tonnau – model galw heibio dan arweiniad seicolegwyr addysg yw hwn, yng Nghastell-nedd Port Talbot.
- Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn arwain prosiect partneriaeth yn Dundee o’r enw ‘Together to Thrive‘. Mae ysgolion, CAMHS a phartneriaid trydydd sector yn hyfforddi ac yn gweithio gyda’i gilydd i ymateb i atgyfeiriadau, gan ddarparu cefnogaeth yn y gymuned i blant a’u teuluoedd. Gwelwyd bod y prosiect yn lleihau’r pwysau ar CAMHS, a bod gwell cefnogaeth yn cael ei darparu’n gynt i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Y Gwasanaeth Therapiwtig Ymlyniad Positif ym Mhowys. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma, ac sydd ddim yn cael digon o gefnogaeth ar gyfer Niwroamrywiaeth a heriau ymlyniad.
Negeseuon i Lywodraeth Cymru
“Mae angen i ni ddal i gloddio i gael hyd i’r achosion gwaelodol – yn naturiol, rydyn ni’n canolbwyntio ar y rhestr aros, ailddylunio gwasanaethau – ond mae angen i ni fod yn gofyn pam fod cynifer o blant a phobl ifanc yn profi lefelau mor uchel o drallod?” – Gweithiwr proffesiynol
“Mae cydnabod y fframwaith hawliau plant yn ateb – os oes gennym ni system sy’n gweithio gyda hawliau mewn golwg, gallwn ni fynd i’r afael â hyn” – Gweithiwr proffesiynol
“Cafodd Covid effaith fawr ar yr ymdeimlad o gymuned, ac argaeledd oedolion i ymddiried ynddyn nhw tu allan i’r cartref… Dyna’r peth negyddol, ond mae hefyd ddysgu cadarnhaol – mae cymuned yn creu atebion. Yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniadau negyddol Covid yn unig – mae’n fwy cadarnhaol ein bod ni bellach wedi dysgu bod tystiolaeth ar gael” – Gweithiwr proffesiynol
Dywedodd pobl ifanc wrthyn ni fod:
- Angen lle diogel, hygyrch, heb feirniadaeth arnyn nhw. Model clwb ieuenctid yw hynny, ond gyda mynediad at gefnogaeth i’r rhai sydd angen hynny. Byddai’r Hangouts yng Nghaerdydd a’r Barri yn enghreifftiau o’r model yna.
- Cafodd niwroamrywiaeth a diffyg cefnogaeth / amserau aros i gael asesiad eu codi’n aml.
- Mae angen un wefan ar gyfer adnoddau cysylltiedig â iechyd meddwl a llesiant –“Siopa am wasanaethau”
Gweithwyr proffesiynol:
- Mae angen canolbwyntio ar ddeilliannau, nid rhestrau aros
- Mae angen datblygu a chyflwyno gwasanaethau seicolegol wybodus
- Dylen ni flaenoriaethu dylunio a arweinir gan blant ar gyfer gwasanaethau a lleoedd
- Mae angen mynd i’r afael â’r achosion gwaelodol; penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant gwael
- Cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar a buddsoddi yn hynny
- Gwreiddio gweithwyr iechyd proffesiynol mewn ysgolion fel arfer da
- Yr angen am wella’r data sydd ar gael ynghylch y cynnig iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant a phobl ifanc. Pa ddata sydd ar goll sy’n ein hatal rhag rhoi adnoddau yn y lle cywir i fynd i’r afael â’r materion hirsefydlog hyn? Ar hyn o bryd nid oes data’n cael ei gyhoeddi ar amserau asesu a thriniaeth CAMHS arbenigol. Y rheswm am hynny yw bod modelau Un Pwynt Mynediad wedi cael eu cyflwyno ledled Cymru – fodd bynnag, mae hynny’n golygu bod gennym ni lai o ddata i’w ddefnyddio’n ystyrlon yng nghyswllt gwasanaethau iechyd meddwl plant
- Yr angen am ddefnyddio cyfraniad y trydydd sector a’r sector preifat, a all fod yn fwy ystwyth ac arloesol na’r sector statudol.
Y themâu mwyaf poblogaidd yn y data oedd:
- Pryderon ynghylch dull gweithredu pob oed y strategaeth Iechyd Meddwl – mae angen canolbwyntio ar fabanod, plant a phobl ifanc
- Cyd-gynhyrchu – cefnogi pobl ifanc i gynhyrchu atebion
- Ataliaeth – mynd i’r afael ag achosion gwaelodol / penderfynyddion cymdeithasol
- Yr angen am wreiddio Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant
- Mae’r trydydd sector yn aml yn fwy ystwyth, ac felly’n gallu arloesi mwy – dylai hynny gael ei ddefnyddio a’i gefnogi’n fwy
- Yr angen am ymarfer gwybodus am drawma ar draws pob gwasanaeth sy’n cefnogi babanod, plant a phobl ifanc
Ein Casgliadau Ni
Yn dilyn ceir crynodeb o’r prif bwyntiau o dan bob thema a archwiliwyd yn y sesiynau ymgysylltu.
Diffinio a iaith yng nghyswllt iechyd meddwl a llesiant emosiynol: Yn rhy aml, mae diffyg eglurder ynghylch iaith ymhlith asiantaethau. Dylai gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r iaith mae pobl ifanc yn ei defnyddio eu hunain wrth drafod eu hiechyd meddwl a’u llesiant emosiynol. Dylai plant a phobl ifanc gael eu cynnwys yn weithredol fel cyd-gynhyrchwyr wrth lunio polisi, ac wrth roi polisi ar waith. Dylen nhw fod yn gyd-ddylunwyr ar y mannau a’r lleoedd maen nhw’n eu defnyddio.
Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant emosiynol yn y gymuned: Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi mannau diogel hygyrch yn eu cymuned, sy’n eu cefnogi’n gymdeithasol, ac sy’n gallu darparu gwasanaeth i bobl ifanc â lefelau is o angen a’r rhai sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. Mae angen llwybrau un pwynt mynediad clir, hygyrch sy’n cynnwys mewnbwn a gwasanaethau cefnogi asiantaethau lluosog, gan gynnwys partneriaid sector statudol a thrydydd sector. Dylai’r rhain gynnwys dulliau gweithredu teulu cyfan.
Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant emosiynol yn yr ysgol: Mae angen mwy o adnoddau a hyfforddiant ar staff ysgolion i wireddu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol. Elfen allweddol o hyn yw buddsoddi mewn staff ‘ar y llawr’, y mae modd meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda nhw. Dylai plant a phobl ifanc fod yn cyd-gynhyrchu cynllun gweithredu dull ysgol gyfan eu hysgol.
Gwasanaethau arbenigol a chefnogaeth i blant ag anghenion cymhleth: Dylai gofal argyfwng fod yn fwy hygyrch, a dylai gwybodaeth am sut mae cyrchu darpariaeth arbenigol fod ar gael yn fwy hwylus i’r rhai sydd angen hynny. Mae angen mwy o ffocws ar ddulliau ataliol ac ymyrraeth gynnar, a hynny ar hyd beichiogrwydd ac ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn ogystal. Os gwnawn ni hynny’n iawn, gallwn ni dynnu peth o’r pwysau oddi ar ymyriadau iechyd meddwl arbenigol yn ddiweddarach.
Blaenoriaethau a negeseuon allweddol i’r Comisiynydd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru: Mae pryderon ynghylch elfen pob oed y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd i Gymru. Rhaid sicrhau ffocws ar fabanod, plant a phobl ifanc i ofalu bod eu hanghenion yn derbyn sylw gweithredol.
Casgliadau’r Bobl Ifanc
Cefnogaeth yn yr Ysgol
- Does dim digon o hyfforddiant i staff; mae’n bwysig bod staff yn cael eu hyfforddi, gan fod pobl ifanc yn gallu teimlo eu bod yn cael eu diystyru, a bod rhai pethau heb dderbyn sylw.
- Mae angen i’r Ysgol fod yn fwy sensitif ac ystyriol ynghylch apwyntiadau iechyd meddwl, er enghraifft cydnabod effaith galw plentyn neu berson ifanc allan o’r dosbarth i fynd i apwyntiad.
Cefnogaeth yn y gymuned
- Mae gwasanaethau/gweithwyr ieuenctid yn wych oherwydd bod perthynas a lle i siarad. Mae’r rhwystrau i gefnogaeth yn cynnwys lleoliadau anodd eu cyrraedd; mae angen i wasanaethau feddwl am yr amseru, teithio a lleoliad. Mae hynny’n arbennig o anodd mewn ardaloedd gwledig neu lle mae opsiynau trafnidiaeth yn gyfyngedig a/neu’n ddrud.
Cynghorion gwych
- Sefydlu un wefan ar gyfer adnoddau, fel dywedodd un person ifanc, er mwyn i chi fedru “siopa am wasanaethau”.
- Ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael a sut mae ei chyrchu.
- Mae angen i rywun roi sylw i’r pontio o wasanaethau plant i rai oedolion, oherwydd mae diffyg cefnogaeth ac mae’n gallu teimlo fel dechrau o’r dechrau eto.
Argymhellion
- Nid oes cynllun cyflawni penodol ar gyfer plant a phobl ifanc fel rhan o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant, a gweithredoedd sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd sy’n eistedd o fewn un o’r pedwar Datganiad Gweledigaeth yn y cynllun cyhoeddedig yn unig. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu naratif manwl a chamau gweithredu penodol i blant a phobl ifanc ar draws pob un o’r pedwar maes o’r cynllun cyflawni’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant, gan gynnwys y themâu a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.
- Mae pob rhan o Gymru bellach yn gweithredu math ar wasanaeth Un Pwynt Mynediad ar gyfer iechyd meddwl a llesiant plant, ac mae hynny i’w groesawu. O ganlyniad, mae bellach llawer llai o atgyfeiriadau uniongyrchol i CAMHS arbenigol. Nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi data asesiadau a thriniaeth ar gyfer CAMHS arbenigol oherwydd y gwahaniaeth yn y dull o gyflwyno atgyfeiriadau. Rydyn ni’n cytuno ag argymhelliad 26 o’r adroddiad ar y cyd gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, Estyn a CIW ar gefnogaeth i anghenion iechyd meddwl plant, ym mis Tachwedd 2024, sy’n galw am ystyried cyhoeddi data ar ymyriadau CAMHS craidd / eilaidd. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi sut bydd yn sicrhau bod data ystyrlon ynghylch y rhai sy’n cyrchu gwasanaethau CAMHS eilaidd ar gael i’r cyhoedd.
- Soniwyd yn rheolaidd yn yr holl sesiynau bord gron am gyflyrau niwroddatblygiadol a phrofiadau o lesiant gwael, yn ogystal â iechyd meddwl gwael ar yr un pryd. Rhaid i’r Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth a adnewyddwyd ddatblygu dull gweithredu seiliedig ar anghenion sy’n darparu cefnogaeth cyn asesiad i ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc ar yr adeg pan fydd angen cefnogaeth, nid dim ond ar ôl cael diagnosis. Rhaid i’r Rhaglen hefyd sefydlu mecanwaith ar gyfer ymgysylltu’n rheolaidd ac yn ystyrlon â phlant a phobl ifanc eu hunain wrth i gynlluniau gael eu datblygu ar gyfer dyfodol gwasanaethau.
- Trwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, rhaid sicrhau buddsoddiad parhaus wedi’i dargedu mewn modelau cyflwyno amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth, sy’n arddangos egwyddorion NEST / NYTH. Daeth rôl a gwerth y trydydd sector wrth gefnogi gwasanaethau statudol ac arddangos arfer da i’r amlwg yn glir iawn yn y sesiynau bord gron.
- Mae teimlad bod y dull gweithredu ysgol gyfan yn dal heb ei wireddu mewn llawer o ysgolion. Er y gwelwyd cynnydd da o ran ysgolion yn ymrwymo i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer cyflwyno’r fframwaith Dull Gweithredu Ysgol Gyfan, mae’n aneglur i ba raddau mae gan y plant a’r bobl ifanc eu hunain berchnogaeth ar y cynlluniau hynny, neu a ydynt wedi’u dylunio ar y cyd. Rhaid i’r gwerthuso parhaus ar wreiddio dull gweithredu ysgol gyfan ar draws ysgolion Cymru sicrhau bod gwerthusiad penodol o lefel cyd-ddylunio dull gweithredu eu hysgolion gan blant a phobl ifanc.
Camau Nesaf
Diolch i bawb a fu’n cymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu hwn. Y cam nesaf yn y broses hon fydd cyflwyno’r canfyddiadau hyn i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn Llywodraeth Cymru. Bydd y Comisiynydd yn monitro’n fanwl gyhoeddi Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd Cymru, a’r cynllun cyflawni i gyd-fynd â hi.