Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Y Ffordd Gywir: Dyfodol addas i blant yng Nghymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi adnodd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; bwriad yr adnodd yw helpu cyrff cyhoeddus i adolygu a gwella’r gwasanaethau mae nhw’n eu cynnig i blant a phobl ifanc.

I bwy mae’r adnodd?

  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Asiantaethau unigol sy’n rhan o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cyrff â dyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Unrhyw sefydliad sydd eisiau dysgu mwy am fuddion cynnig gwasaneth sy’n parchu hawliau plant

Beth yn union yw’r adnodd?

Mae tri darn i’r adnodd:

  • Teclun hunan-asesu a fydd yn eich galluogi i fesur i ba raddau mae’ch gwasanethau yn rhoi plant a phobl ifanc mynediad i’w hawliau, a sut i gynllunio gwelliannau
  • Porth gyda chwestiynau ac astudiaeth achos i’ch tywys yn y cyfieiriad cywir
  • Adroddiad gyda gwybodaeth defnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus feddwl am hawliau plant fel rhan o’r saith nod llesiant a’r Pum Ffordd o Weithio, sy’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch am fwy o wybodaeth.