Mater y mis
Pecynnau trafodaeth a fideo ar gyfer ysgolion a chlybiau ieuenctid. Sesiynau byr a amlbwrpas; addas ar gyfer amser bugeiliol a gwasanaethau
Posteri Hawliau, Pecyn Symbolau CCUHP, Fideos a Chân Hawliau
Dyma adnoddau i hyrwyddo’r CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn). Mae’r dudalen hon yn cynnwys posteri, pecyn symbolau’r CCUHP, fideos, awgrymiadau gwych a'n cân hawliau.
Gwasanaethau, Gweithgareddau, Llyfrau a Gwersi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyflwyniadau Pwerbwynt ar y Comisiynydd a'i rôl, llyfrau CCUHP, gwersi hawliau cyflwyniadol ar gyfer bob oedran a'n fideos ar hawliau'r mis.
Dull Hawliau Plant
Ar y dudalen hon fe welwch adnoddau sy'n cefnogi dull hawliau plant gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Blynyddoedd Cynnar
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ein cynlluniau gwersi ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, rydyn ni wedi creu pecyn gweithgareddau ac adnodd hyfforddi i leoliadau Blynyddoedd Cynnar.
Gwrth-fwlio a Chydraddoldeb
Ar y dudalen hon rydym wedi casglu adnoddau i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am wrth-fwlio a chydraddoldeb.
Adnoddau Gwrthdlodi
Mae ein hadnoddau wedi’u llunio i helpu plant a phobl ifanc, staff a llywodraethwyr ysgol i fapio’r costau a allai fod yn anodd i blant a theuluoedd eu fforddio – a hynny yn ystod y diwrnod ysgol ac yn ystod y flwyddyn ysgol.
Democratiaeth a Llais y Disgybl
Sut i wneud y mwyaf o leisiau pobl ifanc drwy gyngor eich ysgol.
Adnodd Pontio'r Cenedlaethau
Ry'n ni wedi creu Adnodd Pontio'r Cenedlaethau gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i annog ysgolion a grwpiau o bobl hŷn i ffurfio grwpiau sy'n pontio'r cenedlaethau.
Llesiant yn eich ysgol
Mae’r holiaduron a gynhalion ni nôl ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021 wedi dangos bod y pandemig wedi cael effaith ar lesiant llawer iawn o blant. Rydym hefyd yn gwybod bod ysgolion yng Nghymru yn gwneud llawer o waith i ofalu am eu disgyblion a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n mwynhau eu hawliau i fod yn iach ac yn ddiogel. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddarganfod sut mae eich ysgol yn cefnogi llesiant disgyblion a sut allwch chi rannu hyn gyda disgyblion eraill yn eich ysgol.
Pecyn Adnoddau - Erthygl 22
Mae’r pecyn yma yn tanlinellu Erthygl 22 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – ‘Os wyt ti’n ffoadur (refugee), mae gennyt ti’r un hawliau ag unrhyw blentyn arall yn y wlad’. Cafodd y pecyn ei gyhoeddi i gydfynd gyda Diwrnod Byd-eang y Plant yn 2021.
Bathodynnau Her Hawliau - Sgowtiaid a Geidiaid
Rydyn ni wedi gweithio gyda Sgowtiaid Cymru a Girlguiding Cymru i greu Bathodyn Hawliau i helpu pobl ifanc ddysgu am hawliau plant a rôl y Comisiynydd Plant.
Adnoddau i rieni a gwarchodwyr
Mae'r dudalen hon yn esbonio mwy am hawliau plant ac yn amlinellu'r hyn sydd ei angen ar blant i gael y cyfle gorau o dyfu'n hapus, yn iach ac yn ddiogel.