Yn ymateb i’r strategaeth, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
‘Mae hon yn strategaeth bwysig i blant yng Nghymru, ar y mater mwyaf arwyddocaol sy’n effeithio ar eu bywydau. Rydw i wedi galw tro ar ôl tro i gael gwared ar y terfyn 2 blentyn, a rydw i’n croesawu’n gynnes fwriad Llywodraeth y DU i ddod â’r polisi creulon hwn i ben. Ond mae’n hanfodol nad ydym yn gweld y newid hwn fel ateb hawdd – tlodi plant yw’r mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru a bydd ei ddileu yn gofyn am benderfyniad a gweithredu hirdymor ar ddau ben yr M4. I Lywodraeth Cymru, dylai hyn olygu rhoi tlodi plant ar frig eu hagenda, a’i gadw yno. Rydw i wedi galw am fesurau penodol fel prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd, cludiant am ddim i rai dan 21 oed, a Thaliad Plant Cymru newydd, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rudw i hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dargedau hirdymor ar leihau tlodi plant, rhywbeth y maen nhw wedi methu â’i wneud. Mae targedau’n darparu atebolrwydd clir, sydd mor bwysig ar fater mor arwyddocaol. Mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn sefyllfaoedd ariannol difrifol a fydd angen sawl ymyriad polisi a ffocws clir am flynyddoedd i ddod.’