Ymateb i Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant 2025 Llywodraeth Cymru

Dyma ymateb y Comisiynydd Plant i Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant 2025 Llywodraeth Cymru

  • Mae’r gwaith o ran Siarter Budd-daliadau Cymru “yn mynd rhagddo”, ond nid oes manylion am ystyr hynny – er enghraifft, faint o awdurdodau lleol sydd wedi rhoi systemau ar waith i wireddu diben y Siarter a symleiddio’r system fudd-daliadau i deuluoedd. Y nod yw bod systemau’n weithredol ar draws pob awdurdod lleol erbyn mis Ebrill 2026, ond heb wybod faint o awdurdodau lleol sydd wedi gwneud cynnydd, mae’n anodd barnu a yw’r nod hwn yn realistig. Os nad yw’n realistig, mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr adnoddau ganddynt i roi systemau ar waith.

Galwad maniffesto’r Comisiynydd: Sicrhau bod pawb sydd â hawl i dderbyn budd-daliadau a weinyddir yng Nghymru yn gallu eu hawlio’n hwylus.

  • Mae’n dda gweld effaith gadarnhaol y Gronfa Gynghori Sengl, a “gyflwynwyd ym mis Ionawr 2020 ac a oedd, erbyn mis Mawrth 2025, wedi helpu mwy na 388,000 o bobl o’r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd fwyaf ar y cyrion i gael incwm ychwanegol o fwy na £208.9 miliwn, a chael dyledion gwerth £66.3 wedi’u dileu.”
  • Nodwn y bydd y gwerthusiad o’r Peilot Incwm Sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yn barod erbyn 2027. Ond ni ddylai hynny olygu bod y gwaith o gynnig gwell cefnogaeth, gan gynnwys cymorth ariannol, i bobl ifanc â phrofiad o ofal wrth iddynt bontio i fyw yn fwy annibynnol, yn cael ei ddal yn ôl hyd nes cyhoeddir y gwerthusiad.
  • Er ein bod yn croesawu cynnig prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, nodwn y paragraff canlynol: “Mae ein darpariaeth i holl blant ysgolion cynradd, wedi’i chyfuno â phrydau ysgol am ddim ar sail prawf modd a’r cynllun amddiffyn wrth bontio mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, yn golygu bod tua dwy ran o dair o’r plant sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.” Mae hynny’n celu’r ffaith bod llawer o ddisgyblion ysgol uwchradd o gartrefi sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a ddylai fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn parhau i fod yn anghymwys, os ydynt yn dod o gartrefi sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac yn ennill mwy na £7,400.

Galwad maniffesto’r Comisiynydd: Estyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd.

  • Nodir y canlynol ynghylch y Grant Hanfodion Ysgol: “Yn 2024 i 2025, rhyddhawyd £13.1 miliwn drwy’r Grant Hanfodion Ysgol (SEG) sydd wedi helpu i leihau’r gofid sy’n gysylltiedig â phrynu gwisg ysgol a chyfarpar (fel hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, cit chwaraeon a chyfarpar arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol) ac wedi helpu llawer o deuluoedd i fanteisio ar gyfleoedd dysgu yn yr awyr agored. Galluogodd y cyllid hwn dros 89,000 o ddysgwyr cymwys i fynychu’r ysgol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.” Mae prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol (SEG) yn fodd i leihau costau, yn unol ag amcan cyntaf y Strategaeth, sef “lleihau costau”, ond i gyflawni ail ran yr amcan hwn, sef “mwyafu incwm”, mae angen rhoi arian ym mhocedi pobl, ac nid yw polisïau megis Prydau Ysgol Am Ddim a’r SEG ynddynt eu hunain yn ddigon i wneud hynny. Bydd dileu’r cap dau blentyn a sicrhau bod teuluoedd yn gwybod pa fudd-daliadau sydd ar gael iddynt a sut i’w hawlio yn gwneud rhywfaint i roi arian ym mhocedi pobl, ond gyda bod siart LlC ei hun yn y ddogfen hon yn dangos bod tlodi plant yn dal i fod yn uchel ac yn gyndyn o newid, mae angen polisi mwy uchelgeisiol, megis Taliad i Blant Cymru.

Galwad maniffesto’r Comisynydd: Cyflwyno Taliad Plant yng Nghymru sy’n debyg i’r un yn yr Alban – bydd angen i bleidiau chwilio am ffordd o gyflawni hynny, naill ai trwy’r setliad datganoli presennol neu trwy newidiadau cyfreithiol a fyddai’n caniatáu iddo ddigwydd.

  • Sonnir am y Bil Gwasanaethau Bysiau a’r Asesiad Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) sy’n cyd-fynd ag ef, sy’n “amlygu pwysigrwydd teithiau bws fforddiadwy, dibynadwy a diogel er mwyn i blant fedru cwrdd â ffrindiau, mynd i’r ysgol a mynychu apwyntiadau, a’r ffaith y gall hyn fod yn anodd mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru.” Sonnir hefyd am y peilot teithio am £1 ar fysiau a gafodd ei “gynllunio i helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a gweithgareddau hamdden.” Er ein bod yn croesawu’r peilot, cynllun dros dro yw hwn ac ni all gymryd lle darpariaeth statudol. Yn sgîl ein gwaith, gwyddom fod llawer o blant yn profi anawsterau o ran cyrraedd yr ysgol, ac er bod y cynllun peilot i’w groesawu, dim ond newidiadau i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr all sicrhau trafnidiaeth ysgol barhaol a fforddiadwy i ddisgyblion. Mae’r Bil Gwasanaethau Bysiau yn gyfle i sicrhau bod newidiadau i wasanaethau bysiau yng Nghymru yn gweithio i blant a phobl ifanc – byddai peidio ag adolygu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr wrth gyflwyno darpariaethau’r bil yn golygu bod cyfle’n cael ei golli.

Galwad maniffesto’r Comisiynydd: Cynnal adolygiad llawn o Fesur Teithio gan Ddysgwyr 2008 a’r canllawiau cysylltiedig.