Wrth ymateb i fwriad Llywodraeth y DU i roi’r hawl i bobl 16 oed bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae hwn yn newyddion gwych ac yn hynod bositif i hawl pobl ifanc i gael dweud eu dweud yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Gyda phobl ifanc yn gallu pleidleisio yn 16 oed yn y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru yn barod, bydd hyn hefyd yn dod â chysondeb yn hawliau pleidleisio pobl ifanc, gan gynyddu cyfleoedd i drafod gwleidyddiaeth mewn ysgolion a chlybiau gyda’u cyfoedion.”