Datganiad ar y cyd gan Gomisiynwyr Plant Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
“Yn 2025, mae’n annerbyniol bod unrhyw blentyn yn tyfu i fyny yn y lefelau o dlodi rydyn ni’n gweld ar draws y DU, yn aml yn mynd heb hanfodion fel bwyd, dillad, gwresogi, tai diogel a hanfodion eraill.
“Nid ystadegyn yn unig yw tlodi plant. Mae’n effeithio ar bob rhan o fywyd plentyn, o’u hiechyd, eu haddysg, eu cyfleoedd a’u dyfodol. Rydyn ni’n gweld yr effaith y mae tlodi yn ei gymryd ar lesiant miliynau o blant – ond nid oes rhaid i hyn ddigwydd. Tlodi yw canlyniad dewisiadau polisi, a gellir ei newid.
“Fel Comisiynwyr Plant, rydym yn sefyl gyda’n gilydd i alw am strategaeth tlodi plant sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac yn adeiladu system lle gall pob plentyn yn y DU ffynnu. Rhaid i hyn ddechrau gyda dau gam brys: cael gwared ar y terfyn dau blentyn, sy’n gyrru cannoedd o filoedd o blant i dlodi, a chynyddu’r holl fudd-daliadau sy’n gysylltiedig â phlant yn flynyddol, fel y gall teuluoedd ddiwallu anghenion sylfaenol eu plant hyd yn oed wrth i gostau godi.
“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i weithredu ar frys, oherwydd ni all plant fforddio aros.”