Yn ymateb i’r ddogfen ‘Sins of the Church’, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae’r sefyllfa yn yr Eglwys yng Nghymru yn codi’r un cwestiynau rydw i wedi’u codi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru, a chwestiynau a ofynnwyd gan ymchwiliad IICSA. Mae diffyg goruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol, ac mae angen atebolrwydd allanol llawer cryfach yn y maes hwn. Dylai pob opsiwn fod yn cael ei ystyried yn weithredol gan y Llywodraeth, gan gynnwys newid deddfwriaethol.
‘Rydw i hefyd yn galw am yr adolygiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd o gylch gwaith y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau hyn yn uniongyrchol. Dylai’r adolygiad hwn roi eglurder ar sut y gellir bodloni galwad IICSA am Awdurdod Amddiffyn Plant.
‘Dylai’r adroddiad hwn gan y BBC fod yn arwydd arall i Lywodraeth Cymru bod angen iddynt weithredu ar y galwadau hyn heb oedi pellach.”