Datganiad ar alwad y Prif Weinidog i ddileu Cap Budd-Dal Dau Blentyn

Rwy’n croesawu galwad y Prif Weinidog i ddileu cap budd-dal dau blentyn – mae hyn yn gam hanfodol i greu dyfodol tecach i blant yng Nghymru.   

Mae gan bob plentyn yr hawl i safon byw weddus, i gael ei drin ag urddas, ac i ffynnu, fel y nodir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.   

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu strategaeth tlodi plant, ac rwyf wedi bod yn lleisiol yn fy ngalwadau i’r fframwaith monitro cysylltiedig gynnwys targedau cadarn a chanlyniadau mesuradwy.   

Mae tua 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Byddai dileu’r cap yn helpu i godi miloedd o blant Cymru allan o dlodi, lleddfu pwysau ariannol ar deuluoedd, a hyrwyddo tegwch ac urddas i bob plentyn.   

Mae’r alwad gan y Prif Weinidog wedi dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant, a byddwn yn annog y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gydweithio i gyflawni’r newid hwn fel cam hanfodol i waredu ar dlodi plant.