Comisiynydd: ‘Diffyg goruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol’

Yn ymateb i ddatblygiadau yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae’r sefyllfa yn yr Eglwys yng Nghymru yn codi’r un cwestiynau rydw i wedi’u codi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru, a chwestiynau a ofynnwyd gan ymchwiliad IICSA. Mae diffyg goruchwyliaeth annibynnol o drefniadau diogelu mewn sefydliadau crefyddol, ac mae angen atebolrwydd allanol llawer cryfach yn y maes hwn. Dylai hyn fod yn arwydd arall i Lywodraeth Cymru fod angen iddynt weithredu ar y galwadau hyn heb oedi pellach.”