Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Hawliau

Beth mae’r pethau hawliau hyn yn ei olygu?

Mae CCUHP yn golygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc, ble bynnag yn y byd, ni waeth pwy ydyn nhw, ble maent yn byw na’r hyn maent yn credu ynddo.

Mae gan y CCUHP 54 erthygl ynddo, mae 42 yn hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae’r lleill yn ymwneud â sut y dylai llywodraethau ac oedolion gydweithio i wneud yn siŵr y gall plant a phobl ifanc ddefnyddio’u hawliau.

Mae’r hawliau ar y rhestr yn bethau y mae ar blant a phobl ifanc eu hangen i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, bod ganddynt y pethau y mae arnynt eu hangen i oroesi a datblygu, a’u bod yn cael dweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Gallwch weld y rhestr lawn o hawliau ar wefannau CEWC Cymru ac UNICEF UK. Gallwch brynu copïau o daflen Cewc Cymru trwy gysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Os hoffech ddarllen yr CCUHP mewn ieithoedd eraill ewch i wefan UNICEF

Nid cyfraith yw CCUHP, ond oherwydd bod llywodraeth y DU wedi’i lofnodi, mae’n gweithio i wneud yn siŵr fod pob plentyn yn y DU yn cael eu hawliau yn yr CCUHP i gyd. Yn ogystal, mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn gwybod am y Confensiwn ac yn ei ddeall.

 
 

Dolenni Cymdeithasol