Cydraddoldeb a Pheidio â Chamwahaniaethu

Ystyr cydraddoldeb yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i wneud yn fawr o’u galluoedd. Mae’n golygu sicrhau bod plant yn gallu datblygu hyd eithaf eu potensial, ac nad oes rhaid i unrhyw blentyn oddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd camwahaniaethu. Diben llawer o’r gwaith mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud i blant yw helpu i greu sefyllfa fwy gwastad ar gyfer plant sy’n profi anfantais. Dylid llunio gwasanaethau gan roi anghenion cefnogi plant yn y canol. Fodd bynnag, ni fydd pob plentyn yn cyrchu’r gefnogaeth honno yn yr un modd, a bydd rhai yn profi rhwystrau ychwanegol oherwydd tlodi, rhagfarn hiliol, anabledd a mathau eraill o anghydraddoldeb a ffactorau sy’n eu gwthio i’r cyrion.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu ar waith

  • Cynnwys ymrwymiad clir i hybu cydraddoldeb a mynd i’r afael â chamwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn erbyn grwpiau penodol o blant ym mhob polisi pwysig, a rhannu hynny yn neges glir a chyson ar draws y gwasanaeth.
  • Cynnal Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant, sy’n ymgorfforoi dadansoddiad o faterion cydraddoldeb, er mwyn ystyried sut gall penderfyniadau ar lefel gwasanaeth effeithio ar wahanol grwpiau o blant a pha gamau fydd yn angenrheidiol i liniaru hynny.
  • Darparu lle i ymarferwyr ddeall a thrafod heriau cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu. Er enghraifft, gall hyn fod ar ffurf cyfleoedd i adfyfyrio er mwyn trafod tueddiadau gwybyddol a defnydd o iaith ormesol. Darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant er mwyn helpu staff i ddeall anghenion grwpiau penodol yn well.

Dysgu mwy am sut mae JIGSO yn cymhwyso egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu:

Tîm o fydwragedd, nyrsys meithrin (iechyd), hwyluswyr teulu a gweithwyr datblygu iaith cynnar (Awdurdod Lleol) yw Jigso. Mae’r prosiect partneriaeth hwn wedi cael ei ddatblygu i gefnogi rhieni ifanc, y mae llawer ohonynt yn 18 oed neu’n iau, gyda’u teithiau rhianta. Mae rhieni ifanc yn aml yn teimlo eu bod yn wynebu camwahaniaethu oherwydd stereoteipiau a rhagdybiaethau ynghylch eu cefndir, eu hymddygiad a’u gallu.

Fe wnaethon ni gwrdd â rhieni oedd yn derbyn cefnogaeth gan JigSo. Fe rannon nhw sut roedd y prosiect wedi eu grymuso trwy eu cefnogaeth bersonol, er enghraifft helpu i eiriol dros y rhieni a’r plentyn pan oedd angen a rhoi amser ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer magu plant. Mae’r prosiect hwn ar y cyd yn enghraifft gadarnhaol o sut gall gwasanaethau gydweithio i rymuso rhieni ifanc trwy gefnogaeth a dargedwyd. Mae hefyd yn dangos sut mae gwasanaethau wedi gweithio i hybu cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu trwy gefnogi teuluoedd i gyflawni eu potensial.

Cliciwch ar y linc yma i ddysgu mwy am Jig-so