Coronafeirws a Fi: Holiadur Cenedlaethol i Blant a Phobl ifanc yng Nghymru – Ionawr 2021

 

Diolch i bob plentyn a pherson ifanc wnaeth cwblhau ein holiadur.

A diolch i ysgolion, colegau, rhieni, a phawb arall a rhannodd yr holiadur gyda phlant a phobl ifanc.

Rhannodd dros 19,000 o blant a phobl ifanc eu profiadau gyda ni.

Y canlyniadau

Byddwn ni’n rhannu y canlyniadau yn syth gyda Llywodraeth Cymru, i’w helpu wrth iddyn nhw ystyried rheolau coronafeirws yng Nghymru.

Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad yng nghanol mis Chwefror i bawb i’w ddarllen.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch gyda ni.