Rhagor o wybodaeth

Ar y dudalen hon rydym wedi ychwanegu gwybodaeth ac adnoddau pellach i chi isod am Y Ffordd Gywir gallai fod yn ddefnyddiol i chi.

Darlithiau/cynlluniau gwers

Rydyn ni wedi creu 3 darlith/cynllun gwers i Brifysgolion a Cholegau sy’n cyflwyno hawliau plant a gwaith ein swyddfa.

Maen nhw hefyd yn dangos sut gall myfyrwyr defnyddio hawliau plant fel fframwaith yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y dyfodol.

Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Hawliau Plant yng Nghymru

Fframwaith hawliau plant i helpu cyrff cyhoeddus integreiddio hawliau plant i bob agwedd o wneud penderfyniadau, ffurfio polisiau, ac ymarfer.

Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru

Fframwaith sy’n helpu athrawon, ac addysgwyr eraill, rhoi hawliau plant ar ganol eu gwaith.

Y Ffordd Gywir: Dyfodol addas i blant yng Nghymru

Teclun hunan-asesu i helpu Byrddau Gwasanethau Cyhoeddus (PSBs), a sefydlidau unigol sy’n rhan o’r PSB i wella’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i blant a phobl ifanc.

Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i dystio sut maen nhw wedi ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau. Er nad oes rhaid i bob sefydliad cyhoeddus cwblhau CRIA, maent yn adnodd defnyddiol wrth ystyried effaith penderfyniadau a sut gallent newid hwy i sicrhau’r effaith fwyaf bositif ar blant a phobl ifanc. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gofyn i ni am ddogfen templed CRIA fedran nhw ddefnyddio, ac rydym wedi ymateb i’r galw wrth greu’r ddogfen hon sydd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sefydliad.

Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro er mwyn i chi ystyried y pum egwyddor o’n Dull Hawliau Plant ac rydyn ni wedi gadael lle i chi nodi eich sylwadau ond does dim angen ei chwblhau yn llawn.

LAWRLWYTHWCH EIN HADNODD CRIA

Adnodd Hunan-Asesu Syml

Mae’r adnodd hunan-asesu hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i wellau’r modd maent yn gweithio dros blant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • cysylltu eich cynllun strategol i hawliau plant
  • darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc mewn iaith hygyrch
  • rhoi’r cyfle i blant dylanwadu ar benderfyniadau eich sefydliad
  • bod yn atebol i blant a phobl ifanc

DEFNYDDIWCH EIN HADNODD HUNAN-ASESU 

Myfyrwyr / Hyfforddiant Proffesiynol

Rydyn ni wedi creu 3 darlith/cynllun gwers i Brifysgolion a Cholegau sy’n cyflwyno hawliau plant a gwaith ein swyddfa.

Maen nhw hefyd yn dangos sut gall myfyrwyr defnyddio hawliau plant fel fframwaith yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y dyfodol.

Os hoffech chi weld y darlithoedd / gwersi hyn, ymwelwch â’n tudalen Myfyrwyr / Hyfforddiant Proffesiynol:

MYFYRWYR/HYFFORDDIANT PROFFESIYNNOL

Efallai y bydd y wybodaeth a’r adnoddau ar y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol i chi:

Adnoddau Cyfnod Sylfaen

Adnoddau Ysgolion Cynradd

Adnoddau Ysgolion Uwchradd

Adnoddau Addysgu Hygyrch

Rydyn ni wedi cyhoeddi adnodd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; bwriad yr adnodd yw helpu cyrff cyhoeddus i adolygu a gwella’r gwasanaethau mae nhw’n eu cynnig i blant a phobl ifanc.

Darllenwch fwy am y prosiect yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adnoddau hyn, e-bostiwch post@complantcymru.org.uk