Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Gwynedd

Bwriad y dudalen yma yn ein Hwb Gwybodaeth yw darparu manylion am weithgareddau a digwyddiadau mynediad am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod haf 2021.  Rydyn ni wedi gwahodd awdurdodau lleol, sefydliadau cenedlaethol ac elusennau i rannu manylion eu digwyddiadau a’u gweithgareddau gyda ni, i ni gael eu cynnwys ar y dudalen hon ar y we.

Rydyn ni wedi gofyn i sefydliadau roi gwybodaeth berthnasol i ni am hygyrchedd, darpariaeth iaith, lleoliad, staffio etc., gan gynnwys cadarnhau eu bod yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ond aethon ni ddim ati i wirio’r manylion maen nhw wedi’u darparu yn annibynnol.

Rydyn ni wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth mor gywir ac wedi’i diweddaru gymaint â phosib, ond yr asiantaeth allanol neu’r sefydliad(au) sy’n cynnal y gweithgaredd sydd wedi darparu’r wybodaeth y byddwn ni’n ei rhoi ar ein safle. Allwn ni ddim cael ein hystyried yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth, a bydden ni’n eich cynghori i gysylltu â darparwr y digwyddiad neu’r gweithgaredd yn uniongyrchol os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y manylion a nodwyd.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod rhai gwasanaethau’n cynnig llai o ddarpariaeth ar hyn o bryd oherwydd canllawiau Covid. Gallai hynny olygu bod lleoedd yn llenwi’n gyflymach nag arfer.

Ar y linc isod fe welwch restr o weithgareddau i blant a phobl ifanc yng Ngwynedd. Sylwch y dylech ychwanegu’r gair “rhad ac am ddim” i’r blwch geiriau allweddol i ddod o hyd i weithgareddau am ddim:

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – Gwynedd

Gallwch ddod o hyd i’ch amgueddfa genedlaethol agosaf wrth glicio ar y linc isod:

Amgueddfa Cymru

Fe fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli o fewn eich ardal leol wrth i ni glywed amdanyn nhw.