Breuddwydion Cudd

Darllenwch yr adroddiad yma.

Yn yr adroddiad yma r’yn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, elusennau a mentrau preifat addo rhoi eu cefnogaeth i wireddu breuddwydion cudd pobl ifanc sy’n gadael gofal.

Mae’n hadroddiad sbotolau yn tanlinellu rhai o’r anghydraddoldebau mae ymadawyr gofal a phobl ifanc mewn gofal yn eu wynebu, ac yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu y byddwn ni fel pencampwr plant a phobl ifanc Cymru, Llywodraeth Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn i adeiladu Cymru sy’n galluogi pob person ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Yn ogystal, ry’n ni hefyd wedi creu poster yn dangos perthynas y gwaith gyda dau ddarn o ddeddfwriaeth perthnasol: CCUHPDeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cefndir

Person ifanc yn ysgrifennu syniadau ar ganfasAr ôl cynnal ymgynghoriad mawr gyda phlant a phobl ifanc yn 2015, fe wnaethom benderfynu blaenoriaethu darn o waith i sicrhua fod ymadawyr gofal yn cael gwell mynediad  i opsiynau tai diogel, eu bod yn cael chynnig swydd, addysg neu le mewn hyfforddiant a sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth emosiynol sydd ei angen ar bob person ifanc.

Buon ni hefyd yn gwrando i bryderon llwyth o bobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal mewn digwyddiadau. Dyma rhai o’r pryderon mwyaf cyffredin:

  • Pobl ifanc yn cael eu symud allan o ofal maeth neu ofal preswyl cyn gynted ag y byddan nhw’n 18 oed, hyd yn oed os yw hynny yng nghanol blwyddyn astudio bwysig fel lefel A.
  • Dyw trefniadau byw ôl-18, ‘Pan Fydda i’n Barod’, ddim yn caniatáu i bobl ifanc aros yn eu cartref gofal preswyl ar ôl cyrraedd 18 oed, yn wahanol i bobl ifanc mewn gofal maeth.
  • Mae’r gefnogaeth i ymadawyr gofal yn dod i ben yn 21 oed, oni bai bod y person ifanc mewn addysg neu hyfforddiant, er bod yr rhai sydd ddim mewn addysg neu hyfforddiant yn fwy tebygol o angen cefnogaeth.

Yn ogystal â hyn, gofynnon ni i bob awdurdod lleol am y cyngor mae nhw’n cynnig i’w ymadawyr gofal i’w helpu i gael swydd neu hyfforddiant. Mae canlyniadau’r holiadur yna yma.

Beth am eu breuddwydion?

Allwn ni ddim disgwyl i’r rhai sy’n gadael gofal – sy’n gallu bod mor ifanc ag 16 – wireddu eu breuddwydion os byddan nhw’n pryderu ynghylch ble maen nhw’n mynd i fyw, sut byddan nhw’n talu’r biliau, neu sut gallan nhw gael gwybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw.

Mae angen i ymadawyr gofal gael yr un math o gyfleoedd, cymorth a chefnogaeth ag y mae pob rhiant yn ceisio’u rhoi i’w plant wrth iddyn nhw ddechrau dod o hyd i’w ffordd yn y byd.

Beth sydd angen newid?

Cefnogaeth i bawb

  • Dylai pob person ifanc sy’n gadael gofal fedru cael mynediad i gefnogaeth hyd at 25 oed (p’un a ydyn nhw mewn addysg/hyfforddiant neu beidio).
  • Dylai awdurdodau lleol a gofalwyr roi mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau annibyniaeth pobl ifanc.
  • Dylai adrannau gwasanaethau cymdeithasol, tai ac addysg i gyd weithio gyda’i gilydd i helpu i gynllunio symudiad person ifanc at fyw’n annibynnol, yn unol â’r dulliau gweithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Dylai awdurdodau lleol ystyried sefydlu fforymau neu grwpiau trafod yn benodol ar gyfer ymadawyr gofal; gall yr hyn sydd o ddiddordeb neu sy’n destun pryder i ymadawyr gofal fod yn wahanol i’r pethau sy’n cael eu trafod gan blant sy’n dal i fyw mewn gofal.

Tai ac Incwm

  • Dylai awdurdodau lleol fod yn defnyddio Llwybr Tai Cadarnhaol Llywodraeth Cymru a’r Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal a ddatblygwyd gan Barnardo’s yn ganllaw ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda’r person ifanc.
  • Dylai fod gan bob person ifanc sy’n gadael gofal becyn cyson, tryloyw o gefnogaeth ariannol, wedi’i seilio ar wybodaeth glir ynghylch yr arian a’r grantiau sydd ar gael iddyn nhw wrth adael gofal.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar beth allai gael ei wneud i sicrhau bod Treth y Cyngor yn decach i bobl yng Nghymru. Dylai pobl ifanc sy’n gadael gofal gael blaenoriaeth yn y gwaith yma

Cyfleoedd

  • Dylai Awdurdodau Lleol fod fel Busnesau Teulu mawr wrth weithredu fel Rhieni Corfforaethol i
    bobl ifanc sy’n derbyn gofal. Dylen nhw fod yn barod i gynnig mynediad wedi’i deilwra i’r holl blant yn eu gofal i gyfleoedd hyfforddi a swyddi yn eu meysydd cyflogaeth niferus.
  • Mae angen i bobl ifanc gael cynnig cefnogaeth yn rhagweithiol gan ofalwyr a gweithwyr cymorth, i’w helpu nhw i baratoi ar gyfer cynlluniau hyfforddi a chael mynediad iddyn nhw

Gallwch ddarllen yr ymrwymiadau rydyn ni, Llywodraeth Cymru a CLlLC wedi gwneud i droi’r gwelliannau yma’n realiti yn yr adroddiad.

Astudiaethau Achos

Mae’r adroddiad yn cynnwys esiamplau da o’r cefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal i’w helpu nhw gydag arian, ffeindio lle i fyw, a chyfleoedd swydd.

Ymwelon ni â dau gynllun, y cynllun Cynnydd yng Nghaerffili a’r cynllun Cam yn y Cyfeiriad Cywir yn RCT, i ddysgu mwy am sut rydyn nhw wedi helpu eu pobl ifanc i gael mynediad i hyffroddiant a gwaith, ac i gwrdd â’r pobl ifanc sydd wedi buddio o’r cynlluniau.

Cynllun Cynnydd

Cynllun Cam yn Cyfeiriad Cywir

Mwy o wybodaeth

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein hadroddiad Breuddwydion Cudd, neu ei dderbyn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.