Ymfalchio

‘Ymfalchïo’: hawliau i bobl ifanc LHDT* yng Nghymru

Yn ddiweddar fe fues i’n cymryd rhan mewn cynhadledd Ieuenctid wirioneddol arloesol, a gynhaliwyd yng Nghymru gan Pride Cymru. Hon oedd cynhadledd gyntaf Cymru dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer ieuenctid lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws*. Roedd neuadd y gynhadledd yn llawn cyffro pobl ifanc, llawer ohonynt yn gweithredu fel actifyddion a hyrwyddwyr yn eu cymunedau cartref. Cawson ni gyflwyniadau a gweithdai diddorol, doniol ac roedd weithiau’n anodd gwrando arnyn nhw wrth i’r bobl ifanc rannu profiadau o ddatgelu rhywioldeb, gael eu cefnogi, a chael eu bwlio neu eu cam-drin.

Mae yna rai tueddiadau cadarnhaol iawn o ran newid agweddau at wahanol rywioldeb yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae arolygon agwedd cenedlaethol yn dangos bod agweddau cadarnhaol at bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol yn cynyddu yn y boblogaeth gyffredinol, ac mae’r cenedlaethau iau yn arwain y ffordd wrth gofleidio amrywiaeth ym maes hunaniaeth rywiol. Rwy’n credu ein bod ni’n dechrau gweld cynnydd tebyg yn yr agweddau cadarnhaol at bobl traws*, gan gynnwys pobl ifanc traws*.

Fel rhywun a gafodd addysg yn y 70au a’r 80au, galla i ddweud bod y cynnydd mewn agweddau cadarnhaol at bobl LHDT yn un o’r newidiadau cymdeithasol mwyaf rydyn ni wedi’i weld. Fel person ifanc mewn tref fach yn yr Alban fe welais i bobl ifanc hoyw a lesbiaidd yn cael eu bwlio a’u stigmateiddio yn yr ysgol a’r gymuned – gan oedolion yn ogystal â chyfoedion.

Yr ail beth cadarnhaol yw bod pobl ifanc LHDT yn fwyfwy hyderus ynghylch eu hunaniaeth a’u hunanfynegiant, ac mae llawer o eiriolwyr ac ymgyrchwyr sy’n ysbrydoli mewn cymunedau yng Nghymru. Mae hefyd yn wych bod rhai pobl ifanc eraill nad ydynt yn LHDT* yn gwneud safiad yn erbyn homoffobia ac yn gweithredu fel cefnogwyr syth.
Serch hynny, mae rhwystrau i’w goresgyn o hyd, ac rwyf wedi clywed yn uniongyrchol am y rhain gan bobl ifanc yng Nghymru ers i mi gychwyn yn fy rôl ym mis Ebrill eleni.

Rwy’n gwybod bod rhai pobl ifanc yn profi bwlio ac ansensitifrwydd oherwydd eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywedd, ac nad yw hynny bob amser yn cael ei herio’n gadarn, na chwaith bod cefnogaeth yn cael ei darparu ym mhob ysgol a lleoliad ieuenctid. Mae pobl ifanc traws* yn arbennig yn wynebu llawer o rwystrau ym maes iechyd, addysg ac yn eu cymunedau lleol. Mae llawer o bobl ifanc wedi cwyno wrthyf fi am eu gwersi ABCI, ac yn arbennig am y diffyg sylw i berthnasoedd hoyw a lesbiaidd mewn addysg rhyw a pherthnasoedd.

Un peth rwy’n teimlo sydd o bosib wedi gwaethygu yn hytrach na gwella yn ystod y degawdau diwethaf yw’r dychwelyd at normau rhywedd braidd yn gyfyng – fwy na thebyg yn sgîl marchnata a masnacholi (h.y. mae cwmnïau eisiau i ni brynu mwy a mwy o’u staff). I ferched yn arbennig mae hynny wedi golygu dychwelyd at binc eithafol, pethau sgleiniog a thema tywysoges i bopeth yn ystod y blynyddoedd ifanc, ac yna llawer o ymbincio – gwallt, ewinedd, colur, lliw haul o stiwdio – yn yr arddegau. Yn achos bechgyn, gall llanciau fod yn awyddus i arddangos eu gwrywdod – yn fwy mewn rhai cymunedau nag eraill. I blant a phobl ifanc sydd am blygu, torri ar draws neu wrthod y normau rhywedd a roddwyd iddynt gan gymdeithas, mae eu bywyd yn cael ei wneud yn anoddach os bydd llai o ffyrdd derbyniol o ‘fod yn ferch’ neu ‘fod yn fachgen’.

Er bod digon o bobl syth hefyd am wrthod normau rhywedd, ieuenctid LHDT sy’n arwain y ffordd wrth ddangos i’r gymdeithas bod llwyth o wahanol ffyrdd diddorol a chadarnhaol o fod yn fachgen neu ferch – neu yn wir o beidio â phoeni am labeli rhywedd o gwbl.

Yn ddiweddar fe sylwais i ar hysbyseb dillad Diesel oedd yn disgrifio’i hun fel un niwtral o ran rhywedd. Er y gallen ni feddwl bod hyn yn enghraifft o gwmnïau mawr yn manteisio ar y sefyllfa ac yn ceisio gwneud arian ar sail newidiadau a grewyd gan bobl ifanc sydd wedi arwain y broses o dorri ar draws normau rhywedd, rwy’n croesawu hyn yn hytrach na’r benyweidd-dra neu’r gwrywdod eithafol sydd i’w weld mewn cynifer o hysbysebion.

Fodd bynnag, mae bywyd yn dal i allu bod yn galed i’r rhai sy’n gwrthod cydymffurfio â normau rhywedd. Mae rhai pobl fel petaen nhw’n meddwl bod ymddygiad o’r fath yn fygythiad neu’n her, ac maen nhw’n gallu ymateb trwy gam-drin â geiriau, neu hyd yn oed yn gorfforol.

Felly beth ddylai gael ei wneud i roi gwell cefnogaeth i bobl ifanc LHDT* yng Nghymru? Dyma dri awgrym:

• Mae angen i ni gael addysg bersonol, gymdeithasol a iechyd (ABCI) o ansawdd uchel, gyda’r nod o sicrhau bod pobl ifanc yn gallu deall a chofleidio gwahanol hunaniaethau fel rhywbeth cadarnhaol i’r gymdeithas. Ac yn hytrach na chyfyngu’r dysgu yma i un pwnc (ABCI), dylai goddef gwahaniaeth (p’un a yw hynny’n cyfeirio at rywioldeb, hunaniaeth rywedd, hil, cenedl neu anabledd) fod yn ddull gweithredu i’r ysgol neu’r coleg cyfan

• Mae angen polisïau clir ar ysgolion a lleoliadau ieuenctid er mwyn herio bwlio a iaith homoffobig (DS yn fy marn i mae’r ddau beth yma – gwersi ABCI a herio bwlio – yn gweithio’n well o gael eu dylunio a’u harwain gan bobl ifanc)

• Gwybodaeth i bobl ifanc LHDT* ynghylch sut mae herio rhagfarn a goresgyn rhwystrau. Yn ogystal â’r grwpiau rhagorol fel Stonewall a Trans*form Cymru, mae fy swyddfa wrthi ar hyn o bryd yn cynhyrchu canllaw ar sut gall pobl ifanc herio stereoteipiau o bobl LHDT* yn y cyfryngau. Mae wedi cael ei gynhyrchu gyda phobl ifanc yng Nghymru, a bydd ar gael yn fuan.

Fel pencampwr hawliau holl blant a phobl ifanc Cymru, bydda i’n codi llais dros hawliau pobl ifanc LHDT* i fyw bywydau llawn fel dinasyddion cyfartal, yn rhydd rhag stereoteipio, bwlio neu rwystrau sefydliadol.