Y ddwy brif her

Mae 2019 wedi cychwyn gyda Phrif Weinidog newydd i Gymru.

Yn y postiad blog hwn, hoffwn i danlinellu’r ddwy brif her rwy’n credu y bydd Mark Drakeford a’i lywodraeth yn eu hwynebu o ran gwella bywydau plant yng Nghymru.

Mae dau fater yn arbennig yn sefyll allan: tlodi plant a gofal iechyd meddwl.

Tlodi Plant

Mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi tanlinellu graddfa tlodi plant yng Nghymru a’r caledi mae miloedd o deuluoedd yn ei wynebu.

Mae’r Credyd Cynhwysol newydd a’r newidiadau eraill i’r system les yn cael effaith negyddol ar amodau byw plant yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl y bydd hynny’n gwaethygu.

Ni all Llywodraeth Cymru wneud llawer i newid y mesurau hynny sy’n bodoli ar draws y Deyrnas Unedig, ond byddaf yn parhau i’w hannog i lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i liniaru effaith negyddol y newidiadau hyn a defnyddio’u holl bwerau i leddfu effaith tlodi ar ein plant mwyaf agored i niwed a’u teuluoedd.

Rwy’n falch bod Mark Drakeford wedi nodi y bydd tlodi plant yn un o’i flaenoriaethau. Dyma rai ffyrdd posib iddo weithredu yn y maes hwnnw:

Cynllun Cyflawni ym maes Tlodi Plant

Byddai cynllun cyflawni ym maes tlodi plant, gyda thargedau a cherrig milltir clir, i sbarduno gweithrediad strategaeth genedlaethol, yn helpu i sicrhau nad oes un plentyn o dan anfantais wrth wireddu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae meddu ar gynllun o’r math hwn yn arbennig o bwysig nawr bod holl adrannau’r llywodraeth wedi derbyn cyfrifoldeb am edrych ar sut gallan nhw fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, er mwyn helpu i sicrhau bod camau gweithredu’n cyd-fynd â’i gilydd a bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol.

Buddsoddi mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel

Nid gwasanaeth i rieni’n unig yw gofal plant.

Mae ymchwil yn dangos bod darpariaeth o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn gallu bod o fudd mawr i blant, a hynny yn y tymor byr a’r tymor hir, ac yn arbennig i’r rhai o’r cefndiroedd tlotaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig mwy o ofal plant am ddim i deuluoedd ledled Cymru, ond bydd y polisi cyfredol yn rhoi mwy o ofal plant am ddim i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed yn unig. Bydd hynny’n golygu bod plant teuluoedd sydd ddim yn gweithio, a fyddai’n elwa fwyaf o’r ddarpariaeth, yn colli cyfle.

Gallai olygu bod plant sy’n tyfu i fyny mewn tlodi yn syrthio ymhellach fyth y tu ôl i’w cyfoedion mwy cefnog.

Mae rhagor o fanylion am fy meddyliau ynghylch hyn ar gael i chi eu darllen yma.

Darparu prydau ysgol am ddim i fwy o blant

Ar hyn o bryd mae llawer o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn colli cyfle i gael prydau ysgol am ddim. Trwy godi’r trothwy cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o’n plant mwyaf agored i niwed yn cael bwyd da ac yn gallu dysgu.

Mae modd i hyn ddatgloi manteision eraill hefyd, fel cefnogaeth i gostau ysgol eraill fel gwisg ysgol. Cawsom arwydd gan Mark Drakeford yn ei ymgyrch arweinyddol mai dyma un uchelgais sydd ganddo. Rwy’n gobeithio gweld hyn yn dod yn flaenoriaeth.

Ehangu cynlluniau i blant llwglyd yn ystod y gwyliau

I lawer o deuluoedd, yr ysgol yw’r unig fan lle gallan nhw fod yn hyderus y caiff eu plentyn bryd iach o fwyd. Yn ystod gwyliau’r ysgol, gall y pwysau ar deuluoedd i fwydo’u plant ar hyd y dydd eu llethu. Gall cynlluniau i blant llwglyd yn ystod y gwyliau nid yn unig helpu i liniaru’r straen hon, ond hefyd ddarparu cyfleoedd i blant ddysgu, chwarae a chymdeithasu mewn amgylcheddau diogel, llawn cymhelliad.

Rwy’n falch bod y cyllid ar gyfer hyn wedi cael ei ehangu eleni, a charwn annog y Llywodraeth i archwilio ystod o fodelau, gan gynnwys rhai sy’n cael eu harwain gan gymunedau, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau’n cyrraedd cynifer o blant â phosibl.

Cyfyngu ar gostau ysgol i deuluoedd

Gall talu am gostau hanfodol fel gwisg a chyfarpar ysgol, ynghyd â thripiau ysgol a gweithgareddau eraill, roi teuluoedd o dan straen wirioneddol.

Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod ysgolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyfyngu ar y baich y mae’r costau hyn yn ei roi ar rieni ledled Cymru.

Mae peth cymorth eisoes ar gael i deuluoedd: mae cronfa mynediad i’r Grant Datblygu Disgyblion, a ddyblwyd yn ddiweddar, yn darparu arian i deuluoedd cymwys, er mwyn helpu gyda chostau hanfodol. Mae hwn yn adnodd gwerthfawr a allai fynd yn llawer pellach i deuluoedd petai costau gwisg ysgol, cyfarpar, gweithgareddau a theithiau yn cael eu cadw’n isel.

Iechyd meddwl

Nododd adroddiad Cadernid Meddwl y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar fod gan ‘dri phlentyn ym mhob dosbarth maint arferol broblem iechyd meddwl’, a hefyd ‘y bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi cychwyn erbyn 14 oed.’

Ar hyn o bryd, dyw’r ddarpariaeth gofal iechyd meddwl ddim yn gweithio i holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae gwasanaethau’n cael eu cyflwyno mewn modd rhy anhyblyg, ac mae llawer o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth heb gael y gofal angenrheidiol oherwydd eu bod nhw ddim yn bodloni meini prawf penodol. Mae cymorth yn aml yn cael ei ddarparu’n rhy hwyr, pan fydd problemau wedi gwaethygu.

Rydw i am weld newid sylweddol yn y ffordd mae pobl ifanc yn cael mynediad i’r help angenrheidiol er mwyn gwella’u hiechyd meddwl a’u llesiant.

I blant sydd ag anwasterau ymddygiad ac emosiynol heriol iawn, nad oes fawr ddim darpariaeth breswyl addas yng Nghymru. Yn fy adroddiad blynyddol, amlinellais bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant tung at gomisiynu darpariaeth newydd.

Dim drws anghywir

Dylai plant fedru derbyn yr help mae arnyn nhw ei angen, ar yr adeg briodol. Os yw hynny i ddigwydd, mae angen i wasanaethau gydweithio, gan gyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddarparu gofal hyblyg sy’n ffitio o amgylch anghenion plant. Rwy’n annog byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ‘feddwl tu allan i’r blwch’ yn hytrach na gwneud addasiadau bac h i wasanaethau presennol, y mae eu patrwm yn aml wedi dyddio. Mae rôl i’r Llywodraeth yma, i sicrhau bod gwasanaethau’n cyrraedd yr un safon uchel ledled Cymru.

Ysgolion – safleoedd rhagoriaeth

Mae ysgolion yn safleoedd allweddol ar gyfer hybu llesiant a darparu cymorth cynnar ar gyfer iechyd meddwl. Bydd dull ysgol gyfan o ymdrin â iechyd meddwl ac emosiynol yn sicrhau bod plant yn dysgu am iechyd meddwl, yn dysgu sgiliau i hybu iechyd meddwl da, ac yn cael cefnogaeth pan fydd angen hynny arnynt.

Gallwch chi ddarllen ein safbwynt polisi llawn ar wella’r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yma, a’m safbwynt ar y cwricwlwm newydd yma.

Diweddglo

Mae Prif Weinidog newydd Cymru a’i Lywodraeth yn wynebu llawer o heriau yn ystod y flwyddyn sy’n dod, nid lleiaf goblygiadau posibl Brexit.

Ond beth bynnag sy’n digwydd, rhaid iddyn nhw sicrhau bod gwella bywydau plant a phobl ifanc yn cael y lle blaenaf yn eu hymdrechion.

Ym mis Mawrth, bydda i’n cyhoeddi fy ngwaith ymchwil fy hun ar brofiadau plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, gyda chamau gweithredu clir y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eu cymryd i liniaru effaith tlodi ar y plant a’r teuluoedd hynny.

O ran iechyd meddwl, mae angen i wasanaethau gydweithio i ddarparu gwasanaeth integredig sy’n wir yn gweithio dros blant a phobl ifanc, ble bynnag y maen nhw ar eu taith iechyd meddwl eu hunain. Bydda i’n monitro’n fanwl sut mae gwaith y Llywodraeth ar hyn yn datblygu.

Wrth i’m cynllun tair blynedd cyntaf ddirwyn i ben, mae fy nhîm a minnau’n brysur yn drafftio’n gwaith ar gyfer gweddill fy nghyfnod yn swydd Comisiynydd Plant Cymru. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi ymgynghori â mwy na 10,000 o blant a phobl ifanc, yn ogystal â mwy na 1,000 o oedolion, i sicrhau eu barn ar y materion mae angen rhoi sylw iddyn nhw.

Bydd tlodi a iechyd meddwl ar frig yr agenda unwaith yn rhagor.