Trydydd cyfarfod a gwahoddiad am drydedd flwyddyn!

Post Gwestai gan Tom Sturt – Aelod o’n Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc

Ddydd Mercher 22 Chwefror, daeth y Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc at ei gilydd am y trydydd tro.

Roedd yn wych cwrdd â phawb eto ers mis Hydref, oherwydd bod llawer wedi digwydd; yn ein bywydau ninnau ac o ran y gwaith yn helpu Comisiynydd Plant Cymru.

Fe ddechreuon ni’r cyfarfod drwy dorri’r iâ (hani-kani-pani-san), oedd yn llawer o hwyl, ac fe roddodd wên ar wyneb pawb ar ddechrau’r diwrnod.

Ar ôl mwynhau ar y cychwyn, dyma ni’n eistedd lawr i drafod cynnwys pwysig yr agenda.

Fe fuon ni’n trafod fel grŵp rai o brosiectau Sally, a rhoddodd pawb farn ac awgrymiadau ynghylch sut gallai hi roi cyhoeddusrwydd iddyn nhw a sicrhau eu bod yn apelio i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Roeddwn i’n teimlo bod gwrando ar farn pobl eraill a dod i benderfyniad ar ôl trafodaeth yn ddiddorol iawn.

Wedyn cawson ni alwad fideo gan grwpiau’r Gogledd a’r De, fel bod pawb ohonon ni nid yn unig yn cael cyfle i gysylltu â’n haelodau cyfatebol, ond hefyd i siarad â Sally a’i holi am ei gwaith, ac eto roedd y grŵp yn teimlo bod hynny’n werthfawr iawn.

Roeddwn i hefyd yn falch bod grŵp y Gogledd a’r De yn awyddus i gynnig eu pwyntiau ar bynciau roedden ni wedi’u trafod yn gynharach, ac o ganlyniad fe gawson ni sgwrs grŵp ehangach.

Cyn i ni droi, roedd hi’n amser cinio!

Yn fy marn i, roedd hynny’n gyfle go iawn i ni sgwrsio’n fanwl am ein bywydau ers i ni gwrdd ddiwethaf, a hefyd am y pethau rydyn ni’n gobeithio eu cyflawni yn y dyfodol.

Arweiniodd hynny’n fuan aton ni’n dirprwyo aelodau o’r panel i gael cyfleoedd i gysgodi Sally yn ei digwyddiadau.

Yn ogystal, cawson ni’n crys-t newydd Hawliau Plant, sy’n ychwanegiad gwych! Rydyn ni nawr yn gallu hyrwyddo Hawliau Plant ar raddfa fwy, gan wisgo ein dillad newydd.

Y cadeirydd a’r is-gadeirydd oedd yn cadeirio ail hanner y cyfarfod, ac fe wnaethon nhw waith gwych! Fe arweinion nhw ni mewn trafodaeth am ein cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf a’n targedau personol fel Aelodau o’r Panel Ymgynghorol.

Ar ben hynny, fe roeson nhw wybod i ni am gyfarfod Grŵp y Panel Ymgynghorol Oedolion, y buon nhw hefyd yn rhan ohono trwy alwad fideo. Roedd sut aethon nhw ati i rannu’r wybodaeth yma gyda’r grŵp yn wir yn dangos bod ganddyn nhw ffordd awdurdodol o gadeirio cyfarfodydd.

Tua diwedd y cyfarfod fe gawson ni lythyr gan Sally Holland yn ein gwahodd i aros am flwyddyn arall fel aelodau o’r panel er mwyn i ni fedru cwrdd â’r genhedlaeth nesaf o Aelodau’r Panel Ymgynghorol a rhoi ‘cynghorion’ iddyn nhw. Yn fy marn i, roedd cael y llythyr yma’n beth gwych.

Rwy’n siŵr y galla i ddweud ar ran y tîm cyfan ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y cyfarfod sydd wedi’i drefnu i’w gynnal yn y Canolbarth!