Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Stori Sam

Ysgrifenwyd y blog hwn gan ddisgybl o Ysgol Gyfun Casnewydd, fel rhan o’n hadroddiad Stori Sam.

Yn ystod #WythnosGwrthFwlio 2017, lansion ni set o adnoddau gwrth-fwlio i’w defnyddio mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd.

Shwmae. Sam ydw i. Rydw i’n 14 oed ac rydw i am rannu fy stori gyda chi…

Rydw i wedi bod yn yr ysgol ers 6 mis nawr. Ysgol Uwchradd Westfield. Roeddwn i wedi tybio y byddai’n lle gwych, ac y byddai popeth yn wahanol yno. Roeddwn i wedi disgwyl gwneud ffrindiau newydd, achos mod i yn rhywle lle doedd neb yn fy nabod i na’m stori. Ond roeddwn i’n anghywir.

Ar ôl un wythnos yn yr ysgol roeddwn i eisiau gadael.

Roedd pobl yn meddwl eu bod nhw’n fy nabod i. Roen i’n cael fy nhrin fel hen lyfr llychlyd – yn cael fy marnu cyn i neb gael cyfle i weld beth oedd y tu mewn. Roen i’n cael fy nhaflu o’r neilltu fel rhywun oedd ddim yn deilwng yn eu cymdeithas gyntefig nhw. Ces i fy ngadael i ofalu amdanaf fy hun yng nghanol pobl oedd yn fy nghasáu a’m dirmygu heb reswm da.

Bydden nhw’n chwerthin yn gas ac yn pwyntio at fy sgidiau ail-law wrth i mi gerdded ar hyd y coridorau oedd yn teimlo’n ddiddiwedd.

Bydden nhw’n syllu ar fy nhrowsus ‘baggy’ wrth i mi sefyll yng nghornel yr ardal fwyd.

Bydden nhw’n galw enwau arna i ac yn dweud mod i’n dlawd achos mod i’n byw mewn ardal ryff o’r dre.

Byddwn i’n holi fy hunan o hyd pam bod rhaid i fi ddioddef, pam mai fi oedd yn cael pobl yn chwerthin am fy mhen ac yn fy mhryfocio.

Roedd wedi digwydd ym mhob ysgol arall, a nawr roedd yn digwydd eto, ond doeddwn i ddim yn deall pam.

Doedden nhw ddim yn gwybod bod Mam yn rhy dost i weithio a bod rhaid i Dad geisio dod o hyd i swydd newydd. Doedden nhw ddim yn gwybod mai dyna pam doedd fy sgidiau ddim yn ffasiynol a bod gen i wisg ysgol ail-law. Doedden nhw ddim yn gwybod mod i wedi cael fy mwlio yn y 3 ysgol ddiwetha hefyd.

Felly pam gwnaethon nhw farnu fi? Pam roedden nhw mor greulon? Fydda i byth yn gwybod.

Un diwrnod allwn i ddim wynebu rhagor. O’r diwedd roedd y pryfocio, y chwerthin, y sylwadau sarhaus a’r crechwenu wedi fy nhrechu.

Mai 4ydd oedd hi; y diwrnod pan newidiodd popeth.

Dydw i ddim yn ferch sy’n osgoi mynd i’r ysgol nac yn gwrthryfela, a dweud y gwir roedd fy nghofnodion presenoldeb ac ymddygiad yn rhagorol.

Ond y diwrnod hwnnw es i ddim i’r ysgol. Fe adawes i’r tŷ am 8 y bore fel arfer, ond yn lle cyrraedd Ysgol Uwchradd Westfield fe es i mewn i’r goedwig ryw 10 munud i ffwrdd.

Yn fy mag roedd gen i boenladdwyr o gwpwrdd moddion mam.

Fe eisteddes i yno wrth y dŵr am oriau.

Cysylltodd yr ysgol â’m rhieni oherwydd mod i’n absennol heb ganiatâd, ac fe gysyllton nhw â’r heddlu ar ôl sylweddoli mod i ddim gartre.

Roeddwn i’n eistedd ar fy mhen fy hun yn meddwl am bopeth oedd wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf.

Yn atgofio fy hun am fy holl feiau ac yn cofio popeth cas roedd y plant yn fy mlwyddyn wedi’i ddweud wrtha i. Fe geisies i grio fy ffordd trwy’r tristwch am 3 awr, er mwyn peidio â gorfod gwneud beth oedd yn fy meddwl.

Wrth i’r diwrnod fynd heibio fe glywes i sŵn timau chwilio’r heddlu a’r seiren wrth iddyn nhw chwilio amdana i.

Yn y diwedd fe glywes i sŵn traed yn y pellter. Roeddwn i’n meddwl mai fy chwaer oedd yno, ac roeddwn i’n ofni edrych mewn i’w llygaid a gweld y pryder a’r siom yno.

Ond nid hi oedd yno; pwy ddaeth i’r golwg ond 3 o’r merched mwyaf poblogaidd yn fy mlwyddyn, Amy, Emily a Katy.

Y merched oedd wedi gwneud i mi faglu yn y coridor un tro, oedd yn fy ngalw i’n dlawd, ac yn chwerthin am ben fy ngwisg ysgol a sut roeddwn i’n gwneud fy ngwallt.

Pan glywais i nhw’n chwerthin yn y pellter, fe geisiais i ddianc, ond roedden nhw eisoes tu ôl i fi, yn syllu arna i.

Roeddwn i’n meddwl y bydden nhw’n gwneud sylw sarhaus, yn chwerthin ac yn cerdded ymlaen.

Ond fe ddaethon nhw i eistedd gyda fi. Fe roddon nhw hances papur i fi sychu fy llygaid. Fe dynnon nhw’r tabledi allan o’m bag a rhoi rhywbeth i fi fwyta.

Am sbel, ddwedson nhw ddim byd; ambell waith bydden nhw’n gwenu ac yn rhwbio fy ysgwydd.

Yn y diwedd roeddwn i’n ddigon dewr i ddiolch iddyn nhw mewn llais crynedig. Fe ddechreuon ni siarad ac fe wnes i gyfadde fy nghynllun a dweud sut roeddwn i’n teimlo oherwydd y bwlio di-baid yn yr ysgol.

Roeddwn i’n gweld yr euogrwydd yn eu llygaid wrth i mi ddweud wrthyn nhw faint roedd hynny’n brifo, pan ddwedais i fod mam yn dost a bod nhad yn chwilio am waith.

Ychydig cyn i ni gyrraedd y tŷ, dyma nhw’n stopio fi. Rhoddodd pob un ohonyn nhw gwtsh i fi yn eu tro, a sibrwd “Wi mor flin” yn fy nghlust.

Y diwrnod wedyn fe es i mewn i’r ysgol yn ofni wynebu’r athrawon oedd yn pryderu a’r holl fyfyrwyr fyddai’n chwerthin am fy mhen oherwydd beth roeddwn i wedi treio gwneud.

Ond y bore hwnnw, wrth i fi gerdded at ddrysau’r ysgol, daeth Amy, Emily a Katy i gwrdd â fi’n sydyn.

Wrth i ni gerdded drwy’r ysgol fe weles i’r disgyblion eraill yn syllu arna i, ac fe glywais i ambell chwerthiniad cas.

Ond bob tro byddai hynny’n digwydd, roedd y merched yn edrych arna i ac yn dweud “Paid â phoeni amdanyn nhw nawr”.

Ydw, wi’n dal i gael ambell edrychiad ffiaidd, ac ambell sylw sarhaus o bryd i’w gilydd.

Ond mae pethau wedi gwella. Mae gen i ffrindiau bellach, ac rydw i’n ymddiried ynddyn nhw ac yn eu caru achos eu bod nhw wedi dod ac achub fi ar fy niwrnod mwyaf tywyll.

Erbyn hyn rwy’n teimlo’n hyderus wrth gerdded ar hyd y coridor, ac rwy’n siarad â’r myfyrwyr eraill yn y dosbarth.

Rwy’n falch o ddweud mod i wedi trechu’r bwlio, a fydda i byth yn gadael iddo fe ddigwydd i fi eto.

Ond gair o gyngor cyn i mi orffen fy stori, os wyt ti’n cael dy fwlio mae’n teimlo fel diwedd y byd.

Rwyt ti’n colli hyder ynot dy hunan a phawb o’th gwmpas.

Dwyt ti ddim trystio neb ac rwyt ti’n teimlo bod neb eisiau ti.

Ond fe fydd pethau’n gwella.

Mae wastod rywun i siarad â nhw, p’un a yw’r person yna’n fam, yn chwaer, yn athro neu’n rhywun yr un oed â thi.

Bydd rhywun eisiau helpu; ac mae rhaid i ti adael iddyn nhw wneud hynny.