Diogel yn ein cymunedau

Yn ystod y tair wythnos diwethaf mae fy nhîm a finne wedi cael cyfle i siarad â channoedd o blant a phobl ifanc a chlywed eu syniadau am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a beth maen nhw eisiau i fi godi llais amdano ar eu rhan. Mae llawer ohonyn nhw wedi dweud wrtha i beth fydden nhw’n ei wneud tasen nhw’n gomisiynydd plant.

  • Rydw i wedi cynnal gweithdai gyda mwy na 150 o Lysgenhadon Gwych o ryw 60 o ysgolion cynradd ym Mharc Margam a Llandinam. Llysgenhadon Gwych yw fy llysgenhadon sy’n cael eu hethol i hybu hawliau plant yn eu hysgolion cynradd.
  • Fe fues i’n gwrando ar grŵp o bobl ifanc anabl yn eu harddegau ym Mlaenau Gwent sydd wedi cael help gan Barnardos i fod yn rhan o’u cymunedau.
  • Fe wnaeth fy nhîm a finne gwrdd â channoedd o blant a phobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd yn Nelson, Caerffili, lle buon nhw’n tynnu lluniau neu’n ateb cwestiynau ar iPad am y pethau sy’n fwya pwysig iddyn nhw.
  • Fe fues i’n ymweld ag Ysgol Sant Teilo, Dinbych-y-pysgod, i glywed sut maen nhw wedi trawsnewid teithio i’r ysgol trwy ddod o hyd i ffyrdd mwy diogel o gerdded, sgwtio a beicio.

Mae’r sgyrsiau yma wedi rhoi llwyth o syniadau i fi am y pethau mwyaf pwysig i blant a phobl ifanc. Un peth sydd wedi fy nharo i’n fawr yw teimlo’n ddiogel pan fyddwch chi’n treulio amser allan.

Mae plant yn fwy tebygol o gerdded nag oedolion, a hefyd (oherwydd eu taldra), maen nhw’n llawer agosach at y llawr! Maen nhw’n sylwi ar bethau ac yn teimlo pethau na fyddai oedolion o reidrwydd yn sylwi arnyn nhw, fel sbwriel, gwydr wedi torri, baw cŵn, cŵn heb neb i ofalu amdanyn nhw, nodwyddau a graffiti. Mae plant wedi siarad â fi am yr holl bethau yma, yn ogystal â sôn am beidio â bod eisiau cerdded heibio torf o bobl sy’n smygu ac weithiau pobl sy’n ymladd y tu allan i dafarn.

Y risg fwya i blant pan fyddan nhw allan yw traffig, ac mae plant wedi sôn wrtha i eu bod nhw eisiau i geir arafu tu allan i’w hysgolion, ond mewn gwirionedd, roedd plant yn siarad am rywbeth roedden nhw’n ei ofni’n fwy, sef risg brinnach perygl dieithriaid. Mae plant iau wedi siarad â fi am ofni cael eu cipio, tra bod merched hŷn wedi sôn am gael pobl yn aflonyddu arnyn nhw mewn ffyrdd fel gwneud sylwadau am sut maen nhw’n edrych.

Mae gan blant a phobl ifanc hawl i symud o gwmpas yn ddiogel yn eu cymunedau. Byddan nhw’n fwy hapus ac yn fwy iach os byddan nhw’n teimlo’n ddiogel yn chwarae tu allan ac yn cerdded neu’n beicio.

Ein her ni yw gwneud cymunedau Cymru’n fwy diogel i blant, a dyma rai ffyrdd ymarferol o symud tuag at hynny:

  • Cynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio llwybrau cerdded a beicio (o dan Ddeddf Teithio Llesol 2013).
  • Wrth adeiladu ysgolion newydd, ystadau tai ac adfywio canol trefi, cynllunio mannau chwarae diogel, a rennir, a llwybrau beicio.
  • Cynyddu’r defnydd o barthau 20 mya lle mae plant yn teithio ac yn chwarae.
  • Bod tafarnau, siopau a mannau gwerthu cludfwyd yn cadw sbwriel oddi ar y strydoedd o’u hamgylch.
  • Bod oedolion yn barod i gynnig help os bydd angen hynny ar blentyn neu berson ifanc pan fyddan nhw allan.