Cyfarfod Swyddogol Cyntaf Panel Ymgynghorol yng Ngoleg Caerdydd a’r Fro

Blog gan Naz Ismail

Naz yn anerch y grwp

Ar 6 Hydref, cynhaliodd panel ymgynghorol De Cymru eu cyfarfod olaf ar gyfer 2018 yng ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ymhlith yr ymgynghorwyr roedd staff y Com Plant yn cynnal y digwyddiad (Kath a Sarah) ac roedd Margaret o’r panel ymgynghorol oedolion hefyd yn bresennol.

Dyma lun o Banel Ymgynghorol De Cymru ar hyn o bryd.

Nod y cyfarfod oedd:

  • Meithrin dealltwriaeth ddigonol o waith Comisiynydd Plant Cymru a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Deall ac ailedrych ar rolau a chyfrifoldebau fel y cadeirydd a’r is-gadeirydd
  • Cydweithio a chanfod cryfderau

Cychwynnwyd y cyfarfod â gêm fer “dod i nabod eich gilydd” lle bu pawb yn enwi hoff hobi, band a ffilm ar nodyn er mwyn i’r aelodau arall ddyfalu beth oedden nhw – ac roedd croissants a myffins ar gael yr un pryd.

Wedyn fe fuon ni’n trafod rolau a chyfrifoldeb gyda’r cyn-gadeirydd a’r is-gadeirydd, Eve a Cameron, fel bod yr ymgynghorwyr yn cael cipolwg ar rôl y cadeirydd. Mae bod yn gadeirydd yn golygu eich bod chi’n mynd i’r panel ymgynghorol oedolion, ac yn arwain trafodaethau mewn cyfarfodydd. Roedd rhywfaint o ddiwygio hefyd o ran cyfnod y cadeirydd yn y swydd – bellach mae’n 1 flwyddyn yn unig. Er mwyn bod yn Gadeirydd, roedd rhaid rhoi anerchiad 2 funud yn egluro pam roeddech chi eisiau bod yn gadeirydd.

Y panel yn sgwrsio dros skype

Yn y diwedd, pleidleisiodd y grŵp ar y pedwar ymgeisydd ac etholwyd Naz yn Gadeirydd y panel ac Amy yn Is-gadeirydd. Mae’r ddau ohonyn nhw’n gobeithio parhau â gwaith rhyfeddol Cameron ac Eve.

Dyma lun o Naz yn rhoi ei hanerchiad.

Yn fuan wedi i ni gael cinio yn Subway, buon ni’n chwarae gêm a ddyfeisiwyd gan y cyn is-gadeirydd, Cameron, gyda’r amcan o enwi hawl sydd gan blant er mwyn symud ymlaen yn y gêm. Yna cawson ni ddiweddariad ar Beth Nawr a chasglu barn ar gynllun gwaith y flwyddyn nesa. Daeth pawb ohonon ni ag amrywiaeth o syniadau ar gyfer ffocws y flwyddyn nesaf, fel gwrthfwlio, croesawu ffoaduriaid, trechu tlodi, iechyd meddwl, hawliau LHDT, a sgiliau am oes.

Yn olaf, i ddod â’r cyfarfod cyffrous i ben, cawson ni sesiwn cadair boeth gyda Sally Holland ar Skype gyda Phanel Gogledd Cymru. Yn ystod y sgwrs Skype, bu paneli Gogledd a De Cymru yn cyflwyno’i gilydd ac yn trafod beth oedd wedi cael ei wneud yn ystod y dydd.

Dyma lun o’r ddau banel yn cyfathrebu drwy Skype. Roedd y sgwrs fideo dros Skype yn hwylus iawn, heb ddim anawsterau.