Adnodd Pontio’r Cenedlaethau

Ry’n ni wedi creu Adnodd Pontio’r Cenedlaethau gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn i annog ysgolion a grwpiau o bobl hŷn i ffurfio grwpiau sy’n pontio’r cenedlaethau.

Gall yr adnodd cael ei lawrlwytho a’i ddefnyddio fel gwers mewn ysgolion.

Pam ddylwn i ddechrau grwp sy’n pontio’r cenedlaethau yn fy ysgol i?

Mae prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau’n gallu chwalu’r rhwystrau sydd yn aml yn cadw’r cenedlaethau ar wahan, yn cynnig ffordd o ddysgu sgiliau newydd, ac o godi hyder a chreu amgylcheddion positif sy’n gwella lles.

Adnodd Pontio’r Cenedlaethau

Ry’n ni wedi creu 3 fideo sy’n dangos yr effaith positif gall grwpiau sy’n pontio’r cenedlaethau cael ar ysgolion a grwpiau o bobl hŷn, a chynllun gwers i helpu athrawon i drafod sefydlu grwp gyda disgyblion.

Lawrlwythwch y cynllun gwers

Fideos

Ysgol Plascrug

Yn Ysgol Plascrug, Aberystwyth, mae preswylwyr yn ymuno â disgyblion i chwarae gemau ac i gymdeithasu.

Cartref Gofal Trenewydd

Mae disgyblion o Ysgol Llanfaes yn Aberhonddu yn ymuno gyda phreswylwyr Cartref Gofal Trenewydd, sy’n byw â dementia, pob wythnos i chwarae gemau ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Yn ddiweddar, enillodd y prosiect gwobr o Gymdeithas Cenedlaethol Alzheimer’s sy’n cydnabod y partneriaeth arbennig rhwng yr ysgol a’r cartref gofal.

Ysgol Lewis Pengam

Mae disgyblion yn cario bwyd i aelodau hŷn y gymuned ac yn bwyta gyda nhw mewn clwb bwyd wythnosol.

Mwy o wybodaeth

Bydden ni’n dwli i glywed o ysgolion sydd wedi defnyddio’r adnodd. Cysylltwch â ni ar Trydar i rhannu eich syniadau!

Os hoffech chi mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.