-
Ystod cyflog £73,978 – £84,882* y flwyddyn (*yn amodol ar ddyfarniad cyflog 2025-26)
-
Amser llawn, 35 awr yr wythnos
-
Parhaol
Rydyn ni’n chwilio am Brif Swyddog Gweithredu eithriadol ac angerddol i ymuno â’n tîm o uwch-reolwyr a sbarduno rhagoriaeth wrth weithredu ar draws y sefydliad. Fel Prif Swyddog Gweithredu, chi fydd yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau o ddydd i ddydd, datblygu ffyrdd o fesur ein heffaith, ac alinio’n timau i gyflawni gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol y Comisiynydd. Mae effaith fawr i’r rôl hon, ac mae’n galw am weledigaeth strategol, arweinyddiaeth ymarferol, a dealltwriaeth fanwl o gymdeithas sifil a rôl swyddfa’r Comisiynydd Plant yn hynny. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dod â hanes cadarn o lwyddiant wrth reoli newid, meithrin cydweithio ar draws swyddogaethau, a throi strategaeth yn weithredu ystyrlon.
Os ydych chi’n arweinydd sy’n cael eich llywio gan werthoedd, yn ffynnu mewn amgylcheddau deinamig ac eisiau ffurfio dyfodol sefydliad hawliau plant hanfodol, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Gwybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru
Dyma ein cenhadaeth: Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais ar eu rhan fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, ac er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd yn chwarae rôl allweddol ym mywyd sifil Cymru ac mae yn y sefyllfa freintiedig o fedru siarad yn uniongyrchol â llunwyr penderfyniadau, llywodraethau ac allfeydd cyfryngau cenedlaethol. Rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r sefyllfa honno.
Mae ein dogfen ‘Llond Gwlad o Bwrpas’ yn rhoi cipolwg i chi ar sut brofiad yw gweithio i’r Comisiynydd.
Beth byddwch chi’n gwneud?
Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn cefnogi’r Comisiynydd trwy arwain a bod yn atebol am holl weithrediadau mewnol y sefydliad, gan gynnwys bod yn rheolwr llinell ar Benaethiaid y pedair swyddogaeth (Pennaeth Ymgysylltu; Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus; Pennaeth Cyngor a Chymorth a Phennaeth Cyllid a Gwasanaethau Craidd)
Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi’r Comisiynydd i gael hyd i ffordd trwy sefyllfaoedd cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth, er mwyn eiriol dros hawliau plant a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn prosesau llunio polisi. Byddwch yn sicrhau trefniadau cynllunio, adrodd a monitro effeithiol i gefnogi gweithrediad hwylus y sefydliad, ac i reoli ac arddangos ei berfformiad yn erbyn amcanion strategol allweddol, safonau a chyllidebau.
Pa sgiliau a phrofiad bydd arnoch chi eu hangen ar gyfer y rôl hon?
Rydyn ni’n chwilio am arweinydd neilltuol, sy’n llawn angerdd ac ysgogiad, ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a hawliau plant.
Bydd gennych chi hanes diamheuol o arwain a rheoli’n llwyddiannus yn y trydydd sector neu’r sector cyhoeddus, a dealltwriaeth fanwl o faterion polisi ac ymarfer sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â thirlun cymdeithasol, gwleidyddol a deddfwriaethol hawliau plant yng Nghymru.
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau pobl a rheoli cryf i sicrhau ffocws ac aliniad ym mhobl a gwaith Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru er mwyn cyflawni gweledigaeth, cenhadaeth ac amcanion strategol y Comisiynydd, yn unol â chylch gorchwyl statudol y sefydliad.
Ydy’r swydd hon i chi?
Mae ymchwil wedi dangos i ni fod rhai pobl yn amharod i wneud cais os na allan nhw roi tic ym mhob un o flychau’r disgrifiad swydd. Felly, os ydych chi’n meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd, ond heb fedru bodloni pob un o bwyntiau’r disgrifiad swydd o reidrwydd, rhowch alwad i ni er mwyn i ni fedru trafod y cyfle hwn gyda chi.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm yn barhaus a darparu modelau rôl cryf i blant o bob ethnigrwydd a chefndir. Ymunwch â ni a dathlu diwylliant ein gweithle, lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a lle rydym yn derbyn pawb fel y maent.
Byddwn ni’n gwarantu cyfweliad i bobl sy’n bodloni gofynion hanfodol y rôl ac sydd â phrofiad bywyd sy’n ein helpu i gynyddu cynrychiolaeth nodweddion gwarchodedig nad ydynt wedi’u cynrychioli yn ein Tîm ar hyn o bryd. Protected characteristics | EHRC
Os hoffech chi gael gwarant o gyfweliad, nodwch hynny ar ein ffurflen gais, os gwelwch yn dda.
Mae fersiwn print bras, braille neu sain o’r hysbyseb hon ar gael ar gais.
Dyddiadau cau a dogfennau
Lawrlwythwch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 25 Mehefin 2025
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar: 7 Gorffennaf 2025
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, anfonwch e-bost i recriwtio@complantcymru.org.uk neu ffoniwch 01792 765600 ac fe wnawn ein gorau i’w hateb.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd y rheiny’n cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.