Adnoddau Prosiect Pleidlais 2020-21

Hoffech chi wybod sut y gall eich disgyblion ddysgu mwy am eu pleidlais? Ar y dudalen hon fe welwch ein holl adnoddau Prosiect Pleidlais 2020-2021. Cyhoeddwyd yr adnoddau hyn i gyd-fynd ag etholiad Senedd 2021.

Gwersi

Wyneb-yn-wyneb: Gwers 1

  • 55 munud

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU
  4. Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig

Cynllun gwers athro – Cymraeg

Powerpoint – Cymraeg

Cynllun gwers athro – Saesneg

Powerpoint – Saesneg

Pecyn Dysgu Adref – Gwers 1

Mae’r pecyn yma yn fersiwn mwy syml o wers wyneb-yn-wyneb 1.

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU

Taflen Gwaith – Cymraeg

Powerpoint gyda throslais – Cymraeg

Taflen Gwaith – Saesneg

PowerPoint gyda sain – Saesneg

Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 2

  • 50 munud

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
  2. Bydd dysgwyr yn gwybod beth yw eu hetholaeth, beth yw eu rhanbarth, a phwy yw eu cynrychiolwyr presennol a beth maen nhw’n ei wneud
  3. Bydd dysgwyr yn deall yr hyn y mae aelod o’r Senedd yn ei wneud, pam y byddent yn cysylltu âg AS, a sut i wneud hyn
  4. Bydd dysgwyr yn deall beth yw plaid a beth maen nhw’n ei wneud

Cynllun gwers athro – Cymraeg

Powerpoint – Cymraeg

Cynllun gwers athro – Saesneg

Powerpoint – Saesneg

Pecyn Dysgu Adref – Gwers 2

Mae’r pecyn yma yn fersiwn mwy syml o wers wyneb-yn-wyneb 2.

Amcanion dysgu

  1. Mae dysgwyr yn dysgu mwy am y Senedd a’i haelodau
  2. Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholaethau a rhanbarthau

Taflen Gwaith – Cymraeg

Powerpoint gyda throslais – Cymraeg

Taflen Gwaith – Saesneg

PowerPoint gyda sain – Saesneg

Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 3

  • 50 munud

Amcanion dysgu

Bydd y wers hon yn helpu dysgwyr i benderfynu i bwy i bleidleisio amdanyn nhw yn yr etholiad paralel trwy ddarllen maniffestos pleidiau gwleidyddol.

Rydyn ni wedi ysgrifennu at bob plaid wleidyddol sydd ag ymgeisydd ym mhob etholaeth i ofyn iddyn nhw ysgrifennu fersiynau pobl ifanc o’u maniffestos, yn benodol ar gyfer Prosiect Pleidlais.

Cynllun gwers athro – Cymraeg

Cynllun gwers athro – Saesneg

Cynlluniau gwers hygyrch

Mae’r gwersi yma’n cynnig fersiwn mwy syml a hygyrch o’r cynlluniau gwers uchod. Gallech chi eu defnyddio mewn lleoliad lle mae angen help ychwanegol ar bobl ifanc, e.e. mewn ysgol arbennig.

Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn Prosiect Pleidlais 2021
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
  4. Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig

Cynlluniau gwers athro – Cymraeg

Gwrthrychau cyfeiriadol – Cymraeg

Cynllun gwers maniffestos – Cymraeg

Cynlluniau gwers athro – Saesneg

Gwrthrychau cyfeiriadol – Saesneg

Cynllun gwers maniffestos – Saesneg

Pecyn cymunedol

Mae’r pecyn yma’n cynnwys gweithgareddau gwahanol i’w defnyddio mewn lleoliadau gwahanol, cyn cynnwys clybiau ieuenctid, ac yn y cartref.

Gweithgareddau – Cymraeg

Powerpoint 1 – Cymraeg

Powerpoint 2 – Cymraeg

Gweithgareddau – Saesneg

Powerpoint 1 – Saesneg

Powerpoint 2 – Saesneg

Canllaw hystingau ar gyfer ysgolion

Cyfarfod yw hystingau lle bydd ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad i ddod yn aelodau o’r Senedd yn cael eu holi gan gynulleidfa.

Os ydych chi fel ysgol eisiau trefnu cyfarfod hystingau, rydyn ni wedi ysgrifennu canllaw i’ch helpu chi.

Canllaw – Cymraeg

Canllaw – Saesneg