Adnoddau Cydraddoldeb a Gwrth-Hiliaeth

Ar y dudalen hon mae linciau i ystod o adnoddau sy’n ymwneud â hawliau plant i Gydraddoldeb a Pheidio â Chamwahaniaethu.
Maent yn cynnwys adnoddau ystafell ddosbarth, llyfrynnau, a fideos.

Gwrth Fwlio

Rydym wedi datblygu cynlluniau gwersi ac adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd i’ch helpu i archwilio mater o fwlio yn yr ysgol:

Tudalen Gwrth Fwlio (2017/ 2019)

Seiberfwlio

Rydyn ni wedi cyhoeddi adnoddau i helpu plant arwain ar daclo seiberfwlio yn yr ysgol:

Tudalen Seiberfwlio (2019)

Taclo Islamoffobia

Rydym wedi datblygu adnodd sy’n cynnwys tair gwers, a ddyluniwyd ar gyfer disgyblion uwchradd, i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Islamoffobia, mynd i’r afael â chwedlau a chamsyniadau cyffredin am Islam, a chyflwyno profiadau bywyd go iawn Mwslimiaid ifanc yng Nghymru:

Tudalen Taclo Islamoffobia (2018)

Fi yw Fi

Mae’r adnodd hwn yn dangos sut y gall plant a phobl ifanc ledled Cymru ddathlu eu hunaniaeth:

Tudalen Fi yw Fi (2020)

Herio Adroddiadau Negyddol ar Gymunedau LHDT yn y Cyfryngau

Mae’r pecyn cymorth ymarferol hwn yn rhoi cyngor i bobl ifanc ar herio adroddiadau annheg neu niweidiol yn y cyfryngau ac yn darparu dadansoddiad defnyddiol o weithdrefnau cwyno ar gwahanol gyrff:

Herio Adroddiadau Negyddol ar Gymunedau LHDT yn y Cyfryngau (2019)

Herio Adroddiadau Negyddol ar Gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn y Cyfryngau

Mae’r pecyn cymorth ymarferol hwn (gweler isod) yn rhoi cyngor i bobl ifanc ar herio adroddiadau annheg neu niweidiol yn y cyfryngau ac yn darparu dadansoddiad defnyddiol o weithdrefnau cwyno ar gwahanol gyrff.

Buom yn gweithio gyda Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru i ddysgu pa wybodaeth yr oeddent am ei gwybod i’w helpu i nodi adroddiadau negyddol, a sut i gwyno:

Herio Adroddiadau Negyddol ar Gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn y Cyfryngau (2019)

AGENDA

Dyma ganllaw ar-lein a ddatblygwyd gan bobl ifanc sydd â chydraddoldeb yn ganolog iddo, amrywiaeth, hawliau plant a chyfiawnder cymdeithasol:

AGENDA: Canllaw i bobl ifanc ar wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri

AGENDA Cynradd

Dyma adnodd i ymarferwyr sydd am rymuso plant (7-11 oed) i wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig yn eu hysgol a’u cymunedau:

AGENDA Cynradd: Cefnogi plant i sicrhau bod perthnasoedd cadarnhaol yn cyfri

Ymchwiliadau a Chyngor

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu unrhyw gyngor yna cysylltwch â’n tîm Ymchwilio a Chyngor. Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol ac ar gael am ddim:

Tudalen Ymchwiliadau a Chyngor

Gallwch hefyd gysylltu â Meic neu Childline os ydych chi’n teimlo’n bryderus:

Meic

Childline