Wrth sôn am y cyhoeddiad am docynnau bws £1 i blant a phobl ifanc, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae hwn yn gyhoeddiad gwirioneddol positif i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydw i wedi galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant ers dechrau fel Comisiynydd Plant – gan nodi’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar iechyd meddwl a chysylltedd, tra hefyd yn helpu teuluoedd gyda chostau cynyddol a helpu’r amgylchedd. Ac er nad dyma’r drafnidiaeth gyhoeddus am ddim rydw i wedi galw amdano, mae’n gam gwych i’r cyfeiriad cywir a dylid ei groesawu’n gynnes – rwy’n siŵr y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau plant ledled Cymru.”