Syrffio Saff
Mae’n bwysig iawn i chi gadw’n ddiogel pan fyddwch ar-lein. Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel a dyma saith cyngor diogelwch i chi:
- Cofrestru ar-lein - Mae llawer o wefannau’n gofyn i chi gofrestru ar-lein cyn y gallwch ymuno a gallent ofyn i chi deipio gwybodaeth bersonol fel eich enw, rhif ffôn, oedran, cyfeiriad etc. Gofynnwch i riant/gofalwr bob tro a yw hi’n iawn cyn i chi gofrestru.
- Cadw pethau’n breifat – Defnyddiwch lysenw (nickname) bob tro pan fyddwch yn cofrestru ar wefan. Byddwch yn ofalus i beidio â rhoi’ch enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn symudol, ffotograffau nac enw’ch ysgol i bobl ar-lein. Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod chi’n dewis yr opsiwn i gadw’ch proffil yn breifat oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pwy allai fod yn edrych ar eich tudalen we. Cadwch eich cyfrineiriau’n breifat bob amser (hyd yn oed wrth eich ffrindiau).
- Pwy yw pwy? – Ni allwch fod yn siŵr bob amser fod y bobl y cysylltwch â nhw ar-lein yn onest o ran pwy ydyn nhw na’r oedran maent yn dweud ydyn nhw. Gall trefnu cwrdd â rhywun rydych chi ond yn cysylltu â nhw ar-lein fod yn beryglus. Gwnewch hynny gyda chaniatâd eich rhieni / gofalwr yn unig, a hynny pan fyddant yn gallu bod yn bresennol.
- Beth sydd yn eich mewnflwch? - Gall agor negeseuon e-bost ac atodiadau gan bobl nad ydych yn eu hadnabod nac yn ymddiried ynddynt eich arwain at drafferth - gallent gynnwys firysau neu negeseuon cas. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw e-bost (hyd yn oed gan ffrind) sganiwch ef gyda meddalwedd gwrthfirws cyn i chi ei agor neu dilëwch ef.
- Ydy hyn yn wir? – Yn union fel y gall rhywun ar-lein fod yn dweud celwydd ynglŷn â phwy ydyn nhw, efallai nad yw unrhyw wybodaeth y dewch o hyd iddi ar y rhyngrwyd yn ddibynadwy. Nid yw’r ffaith ei bod ar y rhyngrwyd yn golygu ei fod yn wir!
- Siaradwch – Dywedwch wrth eich rhiant neu ofalwr os oes rhywun neu rywbeth yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n bryderus. Adroddwch ar negeseuon amhriodol neu gas i bwy bynnag sy’n rhedeg y wefan.
- Peidiwch ag anghofio – Nid ar y cyfrifiadur yn yr ysgol neu’r cartref yw’ch unig ffordd o ddefnyddio’r rhyngrwyd. Cofiwch ddefnyddio’r un cynghorion diogelwch pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd trwy ffonau neu gonsolau gemau.