Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Sgowtiaid a Geidiaid: Her Hawliau

Barod am Her Hawliau?

HerHawliau

Fe fydd dros 2,500 o Sgowtiaid yn ymuno â Keith, y Comisynydd Plant, ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin i lansio bathodyn newydd yr Her Hawliau.

I'w lansio i ddathlu penblwydd swyddfa'r Comisiynydd yn ddeng mlwydd oed, fe fydd y bathodyn yn galluogi Sgowtiaid a Geidiaid o bob oedran i ddysgu mwy am hawliau plant a’r Comisiynydd Plant.

Dyma beth wnaeth Keith ddweud cyn y digwyddiad:

“Credaf ei bod yn addas iawn i ddathlu’r garreg filltir bwysig hon trwy lansio prosiect sydd â’r potensial i gyrraedd miloedd o blant a phobl ifanc o bob oedran ar draws Cymru.

“Cododd y syniad ar ôl i un o fy swyddogion sy’n gwirfoddoli gyda’r Sgowtiaid weld cyfle i ni weithio gyda Sgowtiaid Cymru i ddatblygu bathodyn yn ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Plant ac am rôl y Comisiynydd Plant. Dyma’r bathodyn cyntaf o’r fath felly roedd rhaid i ni fanteisio ar y cyfle. Edrychaf ymlaen at ymuno â miloedd o Sgowtiaid o bob cwr o Gymru yn y lansiad.”

A dyma beth wnaeth Jill Gloster, Prif Gomisiynydd Sgowtiaid Cymru, ddweud:

“Rydym ni’n falch iawn o groesawu’r Comisiynydd Plant a’i dîm i lansio’r bathodyn Her Hawliau yn Niwrnod Hwyl Cybiaid Cymru Gyfan ac i ddathlu degfed gylchwyl Swyddfa’r Comisiynydd. Mae’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r bathodyn yn addysgiadol ac yn hwyl ac rwy’n sicr bydd y bathodyn yn boblogaidd iawn ymysg ein haelodau.”

Am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan cliciwch yma.

 
 

Dolenni Cymdeithasol