Opsiynau hygyrchedd : Gweld y gosodiad symlaf (Analluogi CSS) Gweld y testun : Bach Canolig Mawr
 

Oedolion: Beth allwch chi wneud nesa'?

Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed eich ymateb neu eich sylwadau ar y negeseuon allweddol y mae plant a phobl ifanc wedi’u rhannu gyda ni a hefyd am unrhyw enghreifftiau o arfer da yr hoffech chi eu rhannu.

Byddem ni hefyd yn hoffi clywed gan blant a phobl ifanc ynghylch sut wrandawiad maen nhw’n ei gael yn eu lleoliadau addysg; beth yw eu barn am y negeseuon yma, ac unrhyw syniadau sydd ganddyn nhw i symud ymlaen gyda hyn.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf posib:

Beth allwch chi wneud â’r negeseuon yma?

Prifathrawon

  • Rhoi gwybod i’r staff yn eich ysgol am yr adnodd yma (Mae’r cyflwyniad PowerPoint* yma fod o fudd i chi)
  • Arddangos y poster mewn lle amlwg yn yr ysgol. (Gallwch lawrlwytho rhagor o gopïau yma)
  • Trafod y negeseuon gyda’ch staff a’ch disgyblion
  • Annog eich cyngor ysgol i edrych ar y negeseuon
  • Adolygu cyfranogiad disgyblion ar draws eich ysgol gyda’r myfyrwyr a’r staff
  • Gofyn i athrawon unigol drafod y negeseuon gyda’u disgyblion
  • Gofyn i athrawon unigol arddangos y poster yn eu dosbarthiadau

Athrawon ac athrawon dan hyfforddiant

  • Meddwl am y negeseuon – gofyn i’ch disgyblion am eu syniadau a’u sylwadau
  • Arddangos y poster yn eich ysgol
  • Ystyried eich arfer yng ngoleuni’r negeseuon yma
  • Ystyried ffyrdd o alluogi’ch disgyblion i chwarae rhan weithredol ym mhob agwedd ar eu haddysg
  • Arddangos y poster yn eich dosbarth
  • Datblygu poster gyda negeseuon eich disgyblion eich hun

Llywodraethwyr

  • Trafod yr adroddiad a’r negeseuon allweddol mewn cyfarfod
  • Gofyn i’r pennaeth ydy’r poster wedi cael ei arddangos yn yr ysgol
  • Gofyn am adborth gan y pennaeth, ac yn bwysig gan y cyngor ysgol
  • Adolygu cyfranogiad disgyblion ar draws eich ysgol, ar y cyd â’r myfyrwyr a’r staff

* Mae'r cyflwyniad yma wedi ei safio fel dogfen .pdf. Gallwch wylio'r cyflwyniad drwy deipio Ctrl+L ac i orffen cliciwch Esc.

 
 

Dolenni Cymdeithasol