Mesur tlodi plant

comisiyndd plant cymru, comisiynydd plant lloegr, comisiynydd plant yr alban, comisiynydd plant gogledd iwerddonAr y cyd â’r tri chomisiynydd plant arall yn y Deyrnas Unedig, rydw inewydd gyhoeddi adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ynghylch cyflwr hawliau plant yn y Deyrnas Unedig. Fe gawson ni wahoddiad i adrodd ar hynny ddiwethaf yn 2008, felly mae gennym ni lawer i’w ddweud.

Rydyn ni’n trafod amrywiaeth mawr o bethau yn yr adroddiad, yn cynnwys iechyd meddwl, mynediad at gyfiawnder, anabledd, cam-drin plant, plant sy’n derbyn gofal a’r angen am sicrhau amddiffyniad cyfartal rhag ymosodiad i blant. Thema waelodol yr adroddiad yw ein hawydd i weld holl blant a phobl ifanc y Deyrnas Unedig yn cael cyfle cyfartal i chwarae rhan lawn yn y gymdeithas, a byw bywydau diogel, iach a hapus.

Roedd yn siom aruthrol, felly, gorfod adrodd am effaith mesurau caledi ar blant a’u teuluoedd. Mae toriadau lles wedi effeithio’n fwy ar deuluoedd â phlant nag ar unrhyw grŵp arall. Ochr yn ochr â hyn bu toriadau i lawer o’r gwasanaethau mae plant yn dibynnu arnyn nhw i wneud eu bywydau’n well – pethau fel gwasanaethau ieuenctid, cyfleusterau chwarae a hamdden, llyfrgelloedd a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.

Mae’r ffigurau tlodi plant wedi bod yn rhy uchel ers blynyddoedd lawer, ac mae perygl y byddwn ni’n dod yn gyfarwydd â’r syniad ac na fydd hynny’n sioc i ni bellach.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu tuedd gynyddol i labelu pobl fel petaen nhw’n gyfrifol am eu tlodi trwy fod yn ‘ddiog’ neu wario eu harian ar y pethau anghywir. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu rhoi’r gorau i fesur tlodi plant mewn perthynas ag incwm, ac y bydd yn lle hynny yn defnyddio mesurau diffyg gwaith, addysg a materion ymddygiad fel y rhai gafodd eu defnyddio yn y rhaglen Saesneg Troubled Families.

Mae hynny’n methu â chydnabod bod gan fwyafrif y plant sy’n byw mewn tlodi o leiaf un rhiant sy’n gweithio. Mae cyflog isel, oriau ansicr a chostau gofal plant, rhent, gwres a bwyd iach yn golygu bod bywyd yn frwydr feunyddiol i lawer o deuluoedd. Mae credydau treth yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig i filoedd o deuluoedd sydd mewn swyddi cyflog isel. Dylai llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig a llywodraeth leol hefyd fod yn rhoi pwysau ar fwy o gyflogwyr i dalu cyflog byw.

Mae llawer o ffactorau’n achosi tlodi plant, ond mae’n rhaid i incwm a chostau hanfodol fel tai fod yn ganolog i sut rydyn ni’n ei fesur. A rhaid i gynyddu incwm a sicrhau bod tai, gwres a gofal plant yn fforddiadwy fod yn ganolog wrth fynd ati i’w drechu.

Rydw i’n cytuno â Sefydliad Joseph Rowntree, sy’n dweud nad yw dadlau ynghylch y mesur yn arwain at gamau i leihau tlodi. Fydd newid sut rydyn ni’n mesur tlodi plant ddim yn golygu bod llai o blant yn teimlo effaith tlodi – oerni a thamprwydd mewn tai sydd heb eu gwresogi’n ddigonol yn y gaeaf neu bryder beunyddiol ynghylch sut mae eu rhieni’n mynd i dalu am fwyd a dillad. Ond gallai newid y mesur beri bod tlodi plant yn ymddangos yn llai o flaenoriaeth genedlaethol nag y dylai fod. Bydd comisiynwyr plant y Deyrnas Unedig yn sicrhau nad yw profiadau gwirioneddol plant o dlodi yn cael eu hanghofio, sut bynnag mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dewis mesur hynny.