Gwybodaeth Newydd
Bwrsari Addysg Uwch – diweddariad ariannu
Daeth rheoliadau newydd am fwrsarïau i rym ar 17 Mawrth 2011, sydd yn golygu, os ydych chi'n gadael gofal ac yn dilyn cwrs addysg uwch, y byddwch chi'n derbyn bwrsari o £2000.
Beth yw bwrsari?
Un taliad o £2000 ar gyfer y cwrs cyfan yw'r bwrsari, nid rhywbeth sy'n cael ei dalu bob blwyddyn. Bydd yr arian yn dod o'ch awdurdod lleol. Nid benthyciad yw e, does dim rhaid i chi talu fe nôl. Mae hefyd ar ben unrhyw fenthyciadau neu grantiau myfyrwyr y gallech eu derbyn.
Beth yw Addysg Uwch?
Mae’n bwysig cofio mai ar gyfer cyrsiau addysg uwch mae hyn, nid addysg bellach.
Cwrs addysg uwch yw:
- Gradd gyntaf.
- Cwrs Diploma Addysg Uwch.
- Diploma Cenedlaethol Uwch ar gwrs y Cyngor Addysgu Technegwyr a Busnes neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
- Cwrs hyfforddi cychwynnol i athrawon.
- Cwrs hyfforddi pellach i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymunedol.
- Cwrs i baratoi ar gyfer arholiad proffesiynol ar lefel uwch.
Bydd angen i'r cwrs barhau am ddwy flynedd academaidd o leiaf, a hynny fel cwrs amser llawn, neu gwrs rhan amser cyfatebol.
Sut bydd yn cael ei dalu?
Gall yr arian yma gael ei dalu i gyd ar yr un pryd, neu mewn rhandaliadau, a dylech chi gael cyfle i ddweud sut rydych chi eisiau iddo fe gael ei dalu.
Rhaid i'r swm cyfan neu'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu erbyn 31 Rhagfyr yn eich blwyddyn gyntaf, neu heb fod yn hwyrach na tri mis ar ôl dechrau eich cwrs. Rhaid gwneud y rhandaliad olaf cyn diwedd y cwrs, neu heb fod yn hwyrach na pedwar wythnos ar ôl dechrau blwyddyn pedwar o'ch cwrs, pa bynnag sy'n dod gyntaf.
Eisiau gwybod mwy?
Gofynnwch i'ch ymgynghorydd personol neu eich gweithiwr cymdeithasol, neu ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0808 801 1000.
Fel arall, gallwch glicio yma i weld y ddogfen reoliadau gyfan.